Mam yn diolch i Hunanadeiladu Cymru am y “cartref perffaith” iddi hi a’i mab anabl

Emma-Phillips
Rheolwr Gweithrediadau Hunan Adeiladu Cymru
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Marchnata
SBW

Mae’r teulu cyntaf i gael mynediad at gynllun Hunanadeiladu Cymru yn barod i symud i’w cartref perffaith newydd. Mae’r cynllun bellach wedi cael ei ymestyn i alluogi pobl sydd eisoes yn berchen ar ddarn o dir, neu wedi dod o hyd i ddarn o dir, i gael cymorth ar gyfer costau adeiladu. 

Bu’n rhaid i Katherine Simmons, sy’n 42 oed, a’i mab Kyle, sy’n 27 oed, wneud newidiadau helaeth i’w cartref ar ôl i Kyle ddioddef gwaedlif ar yr ymennydd pan oedd yn 12 oed. Fe wnaeth hyn ei adael mewn coma, ac roedd angen nifer o lawdriniaethau arno. 

Fe ddechreuodd Kyle wella ar ôl cael triniaeth, a doedd neb yn disgwyl i hynny ddigwydd. Er hyn, mae angen gofal 24 awr gartref arno erbyn hyn, ac mae angen i’r gofalwyr gael lle parhaol i fyw yng nghartref y teulu. Er bod eu tŷ blaenorol wedi cael ei addasu i sicrhau bod anghenion Kyle yn cael eu diwallu, fe sylweddolodd y teulu fod y tŷ yn mynd yn llai ac yn llai addas, ac nad oedd digon o le i’r teulu a’r gofalwyr fyw yn yr un tŷ.

Gan ddefnyddio gwefan Hunanadeiladu Cymru, gwnaeth y teulu gais am blot ym Mhentyrch gyda chaniatâd cynllunio eisoes yn ei le.

Ar ôl llwyddo i sicrhau’r plot, fe wnaeth y cynllun gefnogi Katherine i weithio gyda phensaer lleol i ddylunio tŷ a oedd yn gweddu’n berffaith i anghenion Kyle. Mae hyn wedi galluogi teulu a gofalwyr Kyle i fyw yn yr un tŷ, gyda mannau byw hunangynhwysol, ar wahân, gan sicrhau bod Kyle yn cael digon o gefnogaeth, annibyniaeth a phreifatrwydd. Mae gwaith bellach wedi’i gwblhau ar eu cartref pwrpasol newydd, sy’n diwallu eu hanghenion i gyd. 

Dywedodd Katherine: “Mae hwn yn gartref perffaith i’r ddau ohonom – yn ein cartref blaenorol, roedd hi’n anodd sicrhau bod holl anghenion gofal Kyle yn cael eu diwallu, yn ogystal â sicrhau lle a phreifatrwydd i ni. Er ein bod wedi gallu addasu’r tŷ i ddechrau, fe ddaeth hi’n amlwg i ni ein bod angen adeiladu rhywle o’r newydd i ddarparu ar gyfer ein holl anghenion, ac rydym mor hapus ein bod wedi gallu gwneud hynny drwy gynllun Hunanadeiladu Cymru.

“Mae hyn wedi newid bywydau’r ddau ohonom, yn ogystal â bywydau gofalwyr Kyle – rydym yn hynod falch o’r gwelliannau sydd ar waith. Rydym yn ddiolchgar iawn i Hunanadeiladu Cymru am yr holl gymorth, cyngor a chyllid sydd ar gael, a bydden ni’n eu hargymell i unrhyw un sy’n ystyried prosiect hunanadeiladu.

Dywedodd Emma Phillips, rheolwr gweithrediadau Hunanadeiladu Cymru: “Calonogol yw gwybod ein bod wedi gallu cefnogi teulu sydd ag anghenion penodol a chymhleth, ac rydym yn falch ein bod wedi gallu eu helpu yn ystod pob cam. 

Mae Hunanadeiladu Cymru yn helpu i chwalu’r rhwystrau a’r ansicrwydd sy’n aml yn atal pobl yng Nghymru rhag adeiladu eu cartrefi eu hunain.  Nid oes unrhyw ad-daliadau i’w gwneud yn ystod cyfnod benthyciad cynllun Hunanadeiladu Cymru, a gallai unigolion gronni hyd at 25% o ecwiti yn eu cartref drwy beidio â gorfod talu elw’r datblygwr, a gallai hyn ddarparu blaendal i brynwyr am y tro cyntaf.

Dymunwn y gorau i’r teulu a’u gofalwyr, ac edrychwn ymlaen at eu gweld yn ymgartrefu yn eu tŷ newydd.”

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd: “Nod Hunanadeiladu Cymru yw darparu cyfleoedd i greu cartrefi hunanadeiladu a chartrefi sydd wedi’u hadeiladu’n arbennig, drwy ddefnyddio tir sydd heb ei ddatblygu na’i ddefnyddio’n ddigonol. Mae’r cynllun hefyd yn ceisio cefnogi mwy o fusnesau adeiladu bach a chanolig i adeiladu cartrefi.

“Byddwn yn annog unrhyw un sydd â thir datblygu addas ar gyfer tai gyda chaniatâd cynllunio, ac sydd â diddordeb mewn datblygu neu werthu eu tir, i gysylltu â thîm Hunanadeiladu Cymru, i holi sut y gallech gefnogi pobl yng Nghymru i adeiladu eu cartref eu hunain. 

“Rydw i’n falch y bydd y cynllun sydd newydd ei ehangu yn golygu y bydd mwy o bobl yn cael cyfle i gael gafael ar gyllid i adeiladu cartref sy’n diwallu eu hanghenion.”

Mae Hunanadeiladu Cymru yn gynllun gwerth £40 miliwn, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi cartrefi hunanadeiladu a chartrefi sydd wedi’u hadeiladu’n arbennig, ac sy’n galluogi ymgeiswyr i ddod o hyd i blotiau addas gyda chaniatâd cynllunio eisoes yn ei le.

Mae’r cynllun yn darparu benthyciadau datblygu hunanadeiladu i dalu am 50-75% o werth neu gost y plot, a 100% o’r costau adeiladu, ac mae wedi cael ei ehangu’n ddiweddar. Gall ymgeiswyr nawr ddefnyddio eu tir eu hunain er mwyn adeiladu, neu adeiladu ar dir maent wedi dod o hyd iddo, yn ogystal â gwneud cais am blot ar wefan Hunanadeiladu Cymru. Mae wedi cael ei gynllunio i fodloni cynifer o anghenion â phosibl, ac mae’n agored i unrhyw un sydd am adeiladu eu cartref eu hunain yng Nghymru.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://selfbuild.wales/cy