Manteisio ar ffyniant technoleg Caerdydd

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
accelerating tech startups

Ymddangosodd yr adroddiad arbennig ar gyflymu technoleg am y tro cyntaf ar 28 Tachwedd 2019 ym mhapur newydd The Times.

Mae Caerdydd yn cynnig gweithlu medrus a chyllid i gwmnïau technoleg sy'n chwilio am arloeswyr o'r un anian.

Ar un adeg, Caerdydd oedd y porthladd allforio glo mwyaf yn y byd, ac mae Caerdydd wedi trawsnewid ei hun yn y blynyddoedd diweddar o fod yn economi sy'n ddibynnol ar gynhyrchu diwydiannol i fod yn ganolbwynt technoleg ddigidol ffyniannus a disglair.

Yn ôl adroddiad 'A Bright Tech Future' gan Tech Nation ar swyddi a sgiliau, a gyhoeddwyd yn ystod yr haf, ystyrir bod prifddinas Cymru yn un o'r hybiau technoleg sy'n tyfu gyflymaf yn y DU. Ers 2017, roedd mwy na 26,000 o weithwyr yn economi ddigidol y ddinas, gyda 21,500 mewn rolau technoleg digidol ar draws pob sector, sy'n cyfrif am ychydig llai na hanner nifer y bobl sy'n cael eu cyflogi mewn technoleg ddigidol ledled Cymru.

Yn bwysig, mae'r galw am ddatblygwyr Python yn y ddinas wedi tyfu dros 3,000 y cant ers 2015 ac mae gwyddonwyr data a pheirianwyr datblygu wedi treblu yn fras.

Mae twf yn cael ei yrru'n rhannol gan ansawdd bywyd trawiadol Caerdydd a chostau byw fforddiadwy. Mae ymchwil ar wahân gan Tech Nation - canfu rhifyn diweddaraf yn ei adroddiad blynyddol ar gyflwr technoleg yn y DU - fod 71 y cant o sylfaenwyr sy'n dechrau busnes a gweithwyr proffesiynol technoleg yn credu bod y ffactorau hyn yn gwneud y ddinas yn lle delfrydol i ddechrau busnes.

Eglura Simon Thelwall-Jones, sy'n bennaeth y tîm mentrau technoleg gyda Banc Datblygu Cymru: “Fel clwstwr ecwiti, mae Caerdydd wirioneddol yn bot mêl technoleg gyda chymuned fusnes ffyniannus sy'n denu sylw cwmnïau arloesol a thwf uchel.

 “Yn y Banc Datblygu credwn fod y cyllid ariannu iawn ar gyfer cwmnïau technoleg twf uchel yn hanfodol, yn enwedig wrth geisio adeiladu trosoledd, cynhyrchion masnach a denu doniau. Fel buddsoddwr tymor hir, gall ein cyllid ecwiti wneud byd o wahaniaeth.”

Mae Banc Datblygu Cymru yn gweithio gyda chwmnïau o'u cam cychwyn drwodd i'r allanfa, gan gynnig buddsoddiad ecwiti mynediad o rhwng £50,000 a £2 filiwn, a hyd at uchafswm o £5 miliwn y rownd. Y nod yw rhoi mantais gystadleuol iddynt a chreu gwerth tymor hir. Enghraifft o fusnes a dderbyniodd ei gefnogaeth yw OpenGenius, y cwmni o Gaerdydd y tu ôl i'r ap rheoli tasg Ayoa, ac yr oedd gweithwyr o Apple, Microsoft a Disney, i enwi ond ychydig yn dibynnu ar ei atebion meddalwedd blaenorol.

Yn 2017, hwn oedd y cwmni Cymreig cyntaf i gael ei dderbyn ar raglen hyfforddi a rhwydweithio cyflymydd Cyfnewidfa Stoc Llundain. Ar ddechrau'r flwyddyn hon, cyhoeddodd ei fod wedi derbyn £1.1 miliwn mewn buddsoddiad ecwiti, gan gynnwys £500,000 gan Fanc Datblygu Cymru.

Mae sylfaenydd OpenGenius Chris Griffiths yn credu y bydd y buddsoddiad yn helpu’r cwmni i ehangu ei sylfaen cwsmeriaid rhyngwladol. Mae gan y cwmni ddyheadau hefyd i arnofio ar y farchnad stoc yn y dyfodol agos.

Yn ôl traciwr ecwiti busnesau bach Banc Busnes Prydain, gwnaed 30 bargen ecwiti yng Nghaerdydd yn 2018. Mae hyn yn fwy nag ym Manceinion ac mae’n drydydd y tu ôl i Gaeredin a Chaergrawnt o ran nifer y bargeinion a wnaed y tu allan i Lundain.

Mae'r ffigurau yn galondid mawr. Ond er mwyn manteisio ar ffyniant technoleg Caerdydd, mae angen cefnogaeth ariannol barhaus i helpu arloesedd i i ffynnu, a denu a chadw doniau, a dyna pam fod Banc Datblygu Cymru mor bwysig.

Daw Mr Thelwall-Jones i'r casgliad: “Denu mwy o gyfalaf menter, buddsoddwyr corfforaidd ac arbenigol i Gymru, a chefnogi datblygiad clystyrau ecwiti yw anian yr hyn rydyn' ni'n ei wneud.

“Mae gan Gymru’r cwbl mewn gwirionedd: y doniau, y cyllid a’r uchelgais i lwyddo. Mewn gwirionedd, cynyddodd nifer y buddsoddwyr ecwiti a oedd yn gweithredu yng Nghymru rhwng 2017 a 2019 350 y cant. Dyna’r cynnydd uchaf mewn unrhyw ardal.”