Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Mentergarwyr ifanc yn prynu busnes partiau ceir Aberteifi

Sally-Phillips
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Prynu busnes
Ariannu
Marchnata
Arjay

Mae allbryniant o Arjay Factors o Aberteifi a ariannwyd gan Fanc Datblygu Cymru wedi rhoi cyfle i’r mentergarwyr ifanc Danny a Lowri Grota ymgymryd â’u menter fusnes gyntaf.

Mae'r cwpl, sydd ill dau yn 27 oed ac yn disgwyl eu babi cyntaf yn fuan, wedi prynu Arjay Factors ar Stad Ddiwydiannol Pentood yn Aberteifi. Mae Danny yn fecanic cwbl gymwys ac mae Lowri yn rheolwr swyddfa ac yn weinyddydd profiadol.

Mae Arjay Factors yn darparu partiau ar gyfer ceir, faniau a phartiau mecanyddol ar gyfer cerbydau 4x4 yn uniongyrchol i'r cyhoedd a garejys lleol. Mae’n fusnes partiau ceir llwyddiannus sydd wedi bod yn eiddo i John a Sharon George a gafodd ei reoli ganddynt ers dros 20 mlynedd. Bydd y pedwar gweithiwr yn cael eu cadw gan y busnes.

Dywedodd Danny a Lowri Grota: “Mae’r ddau ohonom wedi gweithio’n lleol ar Ystâd Ddiwydiannol Pentood ers sawl blwyddyn, felly rydym wedi adnabod Arjay Factors yn dda ac wedi cael perthynas dda erioed gyda John a Sharon sydd wedi gweithio’n galed ers dros 20 mlynedd i adeiladu’r busnes.

“Roedd yr amser wedi dod iddyn nhw gamu’n ôl a mwynhau ffrwyth eu llafur. Gwelsom gyfle i gamu i mewn felly aethom atyn nhw ac yna siaradom â PJE Accountants a’n cyflwynodd i’r Banc Datblygu. Mae'n gam mawr prynu eich busnes cyntaf felly roedd y gefnogaeth gan y Banc Datblygu a JCP fel ein cynghorwyr cyfreithiol yn galonogol iawn. Rydym yn gyffrous ar gyfer y dyfodol ac yn edrych ymlaen at ddatblygu Arjay yn y blynyddoedd i ddod.”

Mae Sally Phillips yn Swyddog Buddsoddi gyda'r Banc Datblygu. Meddai: “Mae ein cyllid wedi galluogi perchnogion blaenorol Arjay Factors i wireddu eu gwerth yn y busnes tra’n creu cyfle gwych i’r cwpl ifanc hwn ddefnyddio eu sgiliau a’u gwybodaeth i ddechrau eu taith eu hunain fel perchnogion busnes. Dymunwn bob llwyddiant iddynt.”

Dywedodd Zoe Fletcher, Cyfreithiwr Cyswllt gyda JCP Solicitors: “Rwyf mor falch dros Danny a Lowri ac yn falch ein bod wedi gallu gweithio gyda nhw i brynu busnes lleol. Dymunaf bob llwyddiant i’r cwpl uchelgeisiol hwn gyda’r bennod gyffrous nesaf hon.”

Daeth y benthyciad ar gyfer Arjay Factors o Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru gwerth £500 miliwn. Wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, mae’r Gronfa ar gael ar gyfer bargeinion rhwng £25,000 a £10 miliwn. Mae benthyciadau, cyllid mesanîn, a buddsoddiadau ecwiti ar gael i fusnesau Cymru sydd â thelerau o hyd at 15 mlynedd.