Modest Trends yn gwneud sefydlu eu lle ym myd ffasiwn gyda buddsoddiad o £12,000

Donna-Strohmeyer
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
modest trends

Mae merch fusnes wedi gwireddu ei breuddwyd o agor siop yng Nghaerdydd i werthu dillad sy'n cyfuno ffasiwn â gwerthoedd ysbrydol traddodiadol gyda chymorth benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru.

Rifhat Qureshi yw sylfaenydd a rheolwr gyfarwyddwr Modest Trends.

Mae'r fam i dri o blant, 42 oed a anwyd yng Nghaerdydd, yn gweithio'n llawn amser mewn rôl ymgynghori fel swyddog menter i Brifysgol Caerdydd ond mae ganddi ddiddordeb mewn ffasiwn erioed.

Meddai: “Wrth imi fynd yn hŷn a dod yn fwy ysbrydol, dechreuais sylweddoli ei bod yn anodd dod o hyd i bethau addas i mi.”

Ar deithiau i Dubai a Moroco, gwelodd Rifhat fod y steil ffasiwn yno yn wahanol iawn i'r hyn a oedd yn cael ei gynnig yma yn y DU. Ar yr un pryd, roedd y mudiad ffasiwn diymhongar, sy'n canolbwyntio ar ddillad rhydd sy'n gorchuddio'r corff, yn dechrau dod i'r amlwg ym Mhrydain.

“Pan es i allan i Dubai am y tro cyntaf yn 2012, 'doeddwn i ddim yn teimlo’n hyderus y byddai yna ddigon o farchnad ond, wrth i amser fynd yn ei flaen, sylwais fod yna newid. Dechreuais fod yn fwy chwilfrydig ac roedd gen i ddiddordeb mewn dod ag 'abayas' yn benodol yn ôl hefo fi, maen nhw'n eithaf anodd eu cael yn y DU,” meddai Rifhat.

Mae Abayas yn ddillad rhydd, sy’n debyg i fantell, sy'n cael eu gwisgo gan ferched Mwslimaidd ar hyd a lled y byd, ond yn enwedig mewn gwledydd Arabaidd ac yng Ngogledd Affrica.

Yn draddodiadol, dim ond mewn du y mae abayas wedi bod ar gael. Ond mae Modest Trends yn eu cynnig mewn amrywiaeth cyffrous o liwiau, gweadau a phrintiau gan gynnwys rhai llwyd perlog i liw tebyg i win coch, ac maen nhw'n cynnwys manylion chwaethus fel gwaith les cymhleth a hemiau fflyffi.

Mae dillad ffasiynol ‘Modest Trends’ wedi’u targedu at ferched Mwslimaidd ifanc 16-35 oed sy’n ffurfio Generation M.

Mae'r merched hyn yn fwy tebygol o fod mewn gwaith ac mae ganddynt incwm i’w wario o'i gymharu â'u mamau neu eu neiniau ac maen nhw eisiau gwisgo dillad sy'n cynrychioli eu gwerthoedd ysbrydol a'u hunaniaeth ddiwylliannol ond sydd hefyd yn ffasiynol.

Yn flaenorol, efallai y buasai menywod Mwslimaidd yn teithio i Firmingham, Llundain neu Fanceinion i ddod o hyd i’r steil dillad neu o’r ansawdd tebyg.

“Mae gennym ni lawer o Arabiaid, Somaliaid, Pacistaniaid, Bengalis a thröedigion yng Nghaerdydd a fyddai'n hoffi siopa mewn siopau fel hyn,” meddai Rifhat.

“Mae cael storfa fel hon wedi bod yn uchelgais i mi erioed, felly mae'r ffaith fod hyn wedi dod yn realiti yn gwireddu fy mreuddwyd.”

Mae hi'n mewnforio'r rhan fwyaf o'i abayas o Dubai am fod yr ansawdd yn well. Mae hi hefyd yn ceisio gweithio gyda gweithgynhyrchwyr ar raddfa fach sy'n cymryd agwedd foesegol tuag at eu busnes.

Nawr mae Rifhat yn canolbwyntio ar ledaenu'r gair am Modest Trends, gan ddefnyddio'r cyllid i ddatblygu a lansio'r wefan, gweithio gyda dylanwadwyr ar Instagram a hysbysebu'n ddigidol. Bydd y benthyciad hefyd yn cael ei ddefnyddio i gyflogi aelodau newydd o staff i wasanaethu cwsmeriaid.

Ei nod hirdymor yw cael siop ‘un stop’ i ferched Mwslimaidd brynu gwahanol fathau o ddillad fel abayas, salwar kameez a dillad steil y stryd fawr sy'n cyd-fynd â'r dull ffasiwn diymhongar, yn ogystal ag ystod o ddillad chwaraeon a fydd yn cael ei lansio yn fuan.

Er ei bod yn amharod ar y dechrau i gymryd y benthyciad o £12,000 o'r Gronfa Micro Fenthyciadau oherwydd ei chredoau crefyddol, gwelodd fod Banc Datblygu Cymru yn deall hyn yn iawn a hefyd yn gefnogol iawn.

Dywedodd Donna Strohmeyer, Swyddog Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru: “Mae'r Banc Datblygu yn awyddus i gefnogi pobl a busnesau newydd gyda chostau cychwynnol ac rydym yn falch iawn o helpu Rifhat i sefydlu ei busnes ffasiwn a thargedu bwlch yn y farchnad.

Mae ei chynlluniau i dyfu'r busnes a chreu cyfleoedd cyflogaeth i ferched Mwslimaidd yn dangos ei hawydd i'r busnes gael ei wreiddio yn y gymuned y mae'n ei gwasanaethu. Rwy’n dymuno pob llwyddiant iddi gyda’i chynlluniau.”