7 awgrym i helpu i wella eich rhwydwaith rhithiol

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Marchnata
woman at virtual event

Yn dilyn y pandemig COVID-19, nid yw cyfarfodydd wyneb yn wyneb, digwyddiadau cymdeithasol, ysgwyd llaw na sgyrsiau anffurfiol yn debygol o gyrraedd yr un lefel â chynt yn fuan iawn. Er bod digwyddiadau wyneb yn wyneb yn dychwelyd yn raddol, mae llawer o ddigwyddiadau rhithiol yn cael eu cynnal o hyd fel y gallwch adeiladu eich rhwydwaith proffesiynol.

Gall digwyddiadau rhithwir fod yn ddewis arall effeithiol a gallant gynnig rhai manteision o'u cymharu â digwyddiadau corfforol: maent yn rhatach i'w mynychu, yn hawdd ymuno â nhw o unrhyw leoliad, yn fwy cyfeillgar i'r amgylchedd, ac maen nhw'n caniatáu ichi gymryd rhan o'ch cartref cyfforddus a diogel.

Felly heb ymdroi ddim ychwaneg, dyma rai awgrymiadau i'ch helpu chi i wella'ch sgiliau rhwydweithio busnes rhithwir a manteisio i'r eithaf o ddigwyddiadau ar-lein.

Gwnewch eich ymchwil

Nid yw paratoi yn llai pwysig ar gyfer digwyddiad rhithwir nag ar gyfer digwyddiad personol.  Sicrhewch eich bod yn gyfarwydd gydag amserlen y digwyddiad, gwnewch rywfaint o ddarllen cefndirol ar y pwnc neu'r thema y mae'r digwyddiad yn ei gwmpasu, ac ymchwiliwch i unrhyw siaradwyr. Nodwch gwestiynau y gallech eu gofyn ac unrhyw fewnolwg y gallech eu rhannu. Trwy wneud eich gwaith cartref, byddwch mewn gwell sefyllfa i ymgysylltu â chyflwynwyr a mynychwyr eraill a gwneud y mwyaf o'ch cyfleoedd rhwydweithio. Yn aml gyda digwyddiadau rhithwir gallwch weld y rhestr gyflawn o fynychwyr, ond os nad felly mae hi, mae'n werth gofyn i drefnwyr y digwyddiad am gopi. Treuliwch amser yn mynd trwy'r wybodaeth, gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i edrych ar bobl os oes angen, a nodi targedau rhwydweithio posib. Os nad yw rhestr ar gael ymlaen llaw, does dim byd yn eich rhwystro i feddwl am y mathau o bobl rydych chi am eu targedu.

Sefydlwch eich nodau rhwydweithio

Beth ydych chi'n obeithio ei ennill trwy fynychu'r digwyddiad hwn? Bydd amlinellu rhai nodau penodol yn gynnar yn eich helpu i ganolbwyntio. Gallai hyn fod yn rhywbeth tebyg i ‘gyflwyno fy hun i dri darpar gwsmer’ neu ‘amserlennu galwad ddilynol gyda darpar bartner busnes’. Nid yw digwyddiadau rhithwir yn tueddu i gynnig yr un potensial ar gyfer cyfarfyddiadau ar hap ag y mae digwyddiadau corfforol yn eu gwneud, felly mae cael cynllun wedi'i ddiffinio'n glir yn bwysicach fyth i'ch galluogi i gael y gwerth mwyaf ohonynt. Cadwch eich nodau mewn cof yn ystod y digwyddiad a gwerthuswch eich llwyddiant wedi hynny.

Darparwch broffil cyflawn

Efallai y gofynnir i chi ar rai apiau digwyddiadau neu gan drefnwyr y digwyddiad i lenwi proffil proffesiynol. Dyma gyfle i hybu eich gwelededd yn y rhestr o fynychwyr a chael eraill i fod eisiau ymgysylltu â chi. Nodwch yn glir ac yn gryno yr hyn rydych chi'n ei wneud a chynnwys manylion sy'n berthnasol i gynulleidfa'r digwyddiad penodol hwnnw. Bydd pen-lun proffesiynol o ansawdd uchel a gwybodaeth gyswllt, gan gynnwys unrhyw ddolenni i'r cyfryngau cymdeithasol neu'ch gwefan, hefyd yn helpu i sicrhau bod pobl yn gallu dod o hyd i chi yn hawdd ac estyn allan atoch chi.

Paratowch gyflwyniad 

Ysgrifennwch gyflwyniad byr amdanoch chi'ch hun y gallwch ei ddefnyddio ar lafar yn ystod y digwyddiad neu gopïo a gludo i'r swyddogaeth sgwrsio. Mae'r un egwyddorion sy'n berthnasol i'ch proffil yn berthnasol i'ch cyflwyniad: cadwch ef yn gryno (dwy neu dair brawddeg) ac yn berthnasol i gynulleidfa'r digwyddiad. Trwy baratoi hyn ymlaen llaw, byddwch chi'n arbed rhoi'r pwysau arnoch chi'ch hun o orfod meddwl am rywbeth yn y fan a'r lle, a byddwch chi'n gallu rhoi eich sylw yn gyfan gwbl i gyflwyniadau pawb arall hefyd.

Defnyddiwch gyfryngau cymdeithasol

Gall defnyddio grym cyfryngau cymdeithasol cyn ac ar ôl y digwyddiad eich helpu i wneud a chryfhau cysylltiadau â mynychwyr eraill. Postiwch ar eich sianeli cymdeithasol y byddwch chi'n eu mynychu a dywedwch beth rydych chi'n edrych ymlaen ato. Gallai hyn eich arwain at ddarganfod bod eraill yn eich rhwydwaith bresennol yn mynd hefyd, neu gallai eu hannog i fynychu. Mae hashnod ar lawer o ddigwyddiadau; ymgorfforwch hyn ym mhopeth rydych chi'n ei 'bostio' sy'n ymwneud â'r digwyddiad a'i ddefnyddio i weld pwy arall sy'n siarad amdano. Mae gan rai digwyddiadau dudalennau neu grwpiau digwyddiadau swyddogol hefyd, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn ymuno â'r rhain. Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn offeryn gwerthfawr i ddarganfod mwy am siaradwyr, cyflwynwyr a mynychwyr eraill, ac i ddechrau rhyngweithio a meithrin perthnasoedd cyn i'r digwyddiad ddechrau hyd yn oed.

Cymerwch ran yn y drafodaeth

Pan fyddwch chi yn y digwyddiad, dylech fynegi i’r sawl sydd yno eich bod chi yno i rwydweithio trwy gymryd rhan weithredol. Cyflwynwch eich hun, gofynnwch gwestiwn neu ateb cwestiwn y mae rhywun arall yn ei ofyn, postiwch sylw neu rannu mewnolwg - ond cymerwch ofal i beidio â gorwneud pethau. Yn ogystal â chyfrannu at y brif sgwrs, gallwch hefyd ddefnyddio'r offeryn negeseuon preifat i ddechrau sgyrsiau un i un gyda thargedau rhwydweithio ac i drefnu cyfarfodydd dilynol. Gallai rhai digwyddiadau gynnwys sesiynau ymneilltuo, lle byddwch chi'n symud o'r prif ymgynulliad ei hun i mewn i grŵp llai o bobl, a gall hwn fod yn gyfle gwych i ymgysylltu â phobl mewn trafodaeth fwy personol.

Dilyniant

Yn union fel y byddech chi ar ôl digwyddiad personol, gwnewch yn siŵr bod yna ddilyniant yn digwydd gyda'ch cysylltiadau newydd mewn modd amserol (yn ddelfrydol o fewn 24 awr) trwy estyn allan atynt trwy'r cyfryngau cymdeithasol neu e-bost. Gwnewch eich neges yn unigryw trwy gyfeirio at rywbeth y gwnaethoch chi siarad yn ei gylch gyda'r unigolyn penodol, neu soniwch am bwnc a drafodwyd yn y digwyddiad. Gallwch hefyd rannu'r hyn y gwnaethoch chi ei fwynhau neu ei ddysgu yn y digwyddiad ar gyfryngau cymdeithasol a pharhau â'r drafodaeth gyda phobl sy'n defnyddio hashnod y digwyddiad neu'n postio ar dudalen y digwyddiad.

Er ei bod yn anodd ail adrodd yr union gyffro a'r rhyngweithio rhyngbersonol a welwch mewn digwyddiad corfforol, gall digwyddiadau rhithwir ddarparu cyfleoedd rhwydweithio gwerthfawr o hyd a chynnig eu manteision eu hunain. Mae llawer o drefnwyr digwyddiadau rhithwir hefyd yn dod o hyd i ffyrdd i'w gwneud yn fwy rhyngweithiol, er enghraifft gydag ystafelloedd ymneilltuo a pharu. Hyd yn oed pan ganiateir i ddigwyddiadau corfforol ail ddechrau fel arfer, mae'n debygol y bydd digwyddiadau ar-lein yn parhau i fod yn rhan o'n gweithgareddau rhwydweithio busnes hyd y gellir rhagweld. Trwy fod yn barod iawn a chael cynllun clir, gallwch gael y gorau ohonynt a chyflawni'r canlyniadau rhwydweithio rydych chi eu heisiau.