Diweddariad pwysig: Mae angen cwblhau pob cais erbyn hanner nos 16 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darllen mwy

Newyddion Busnes Cymru yn sicrhau buddsoddiad chwe ffigur

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Business News Wales.

Yn dilyn blwyddyn o dwf cyson a oedd yn cynnwys gweithio gyda dros 70 o frandiau mwyaf Cymru, mae Newyddion Busnes Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad newydd gan Fanc Datblygu Cymru.

Dan arweiniad y Rheolwr Gyfarwyddwr, Mark Powney, mae Newyddion Busnes Cymru wedi sicrhau buddsoddiad chwe ffigwr i alluogi'r busnes i recriwtio golygydd, tîm gwerthiant newydd ac ehangu ar y gwasanaethau y mae'n ei gynnig ar hyn o bryd i gleientiaid, gan gynnwys y gallu i ddarparu swît o ad chwanegiadau cynnyrch newydd.

Cafodd y cytundeb ei lunio gan Verde Corporate Finance (cyllid) a Greenaway Scott (cyfreithiol). Mae'r ddau fusnes cynghori yn rhan o Grŵp amlddisgyblaethol Greenaway Scott.

Sefydlwyd Newyddion Busnes Cymru yn ôl yn 2015 ac mae wedi tyfu i fod yn llwyfan newyddion B2B parchus yng Nghymru, sy'n cael ei ddarllen gan hyd at 20,000 o weithwyr proffesiynol busnes yng Nghymru bob dydd. Mae'n gweithio gyda brandiau megis Busnes Cymru, NatWest a Grant Thornton ac mae'n cwmpasu ystod gryno o sectorau busnes a materion sy'n amrywio o adeiladu ac eiddo i wyddorau bywyd. Mae wedi creu enw da fel sianel gyfathrebu B2B, a ymddiriedir ynddo, gan ddarparu cyfleoedd arwain, ymwybyddiaeth brand a chyfleoedd ar gyfer arwain meddyliau.

Dywedodd Mark Powney, Rheolwr Gyfarwyddwr:

"Wrth i dirwedd y cyfryngau yng Nghymru gydgyfnerthu ymhellach yn 2019, bydd y buddsoddiad hwn yn ein galluogi i gryfhau'r tîm ac ehangu ar y gwasanaethau rydym yn eu cynnig i gleientiaid, gan ddod â chyfleoedd cyffrous Newydd ger bron. Rydym yn edrych ymlaen at yr hyn y mae'r dyfodol yn ei gynnig ac edrychwn ymlaen yn fawr at barhau i ddatblygu ein llwyfan newyddion unigryw ac amrywiol."

Meddai David Roberts, Swyddog Portffolio gyda Banc Datblygu Cymru:

"Rydyn ni yma i gefnogi twf ac ehangiad busnesau uchelgeisiol yng Nghymru. Mae Newyddion Busnes Cymru yn enghraifft wych o fusnes Cymreig cynhenid yr ydym wedi ei gefnogi o'r blaen gydag arian cychwynnol sydd wedi galluogi'r tîm i dyfu'n gryf gyda dros 20,000 o gysylltiadau busnes nawr yn ymwneud â'r llwyfan. Bydd ein cylch cyllido diweddaraf yn arwain yn uniongyrchol at greu swyddi newydd a datblygu gwasanaethau newydd. Rydyn ni'n rheolaidd yn defnyddio Newyddion Busnes Cymru ac yn dymuno pob llwyddiant i'r tîm!"

Gwnaeth Craig Blackmore, o Verde Corporate Finance y sylw:

"Roedd Verde Corporate Finance wrth ei fodd yn cefnogi Newyddion Busnes Cymru yn ystod y cyfnod codi arian hwn. Mae Newyddion Busnes Cymru yn llwyfan gwych i arddangos newyddion busnes yng Nghymru. Mae gan Mark a'i dîm gynlluniau cyffrous i ledu cynnig y llwyfan hwnnw, ac mae'r arian cyllido hwn yn galluogi i hynny gael ei gyflawni. Roedd hefyd yn wych i weithio ochr yn ochr â Banc Datblygu Cymru ac fe wnaeth eu dull gweithredu hyblyg ganiatáu i'r fargen hon ddigwydd. Bydd hyn yn caniatáu i Newyddion Busnes Cymru symud ymlaen fel llais allweddol ar gyfer newyddion busnes yng Nghymru."

Daeth arian ar gyfer y fargen o Gronfa Busnes Cymru, a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy gyfrwng Llywodraeth Cymru.