Nod busnes iechyd galwedigaethol yw hybu twf gyda chymorth Banc Datblygu Cymru.

Richard-Jenkins
Swyddog Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cynllunio busnes a strategaeth
Ariannu
Twf
Insight Health

Mae tîm iechyd galwedigaethol yn ne Cymru sy’n darparu gwasanaethau iechyd a lles i sefydliadau ar draws y DU yn bwriadu creu 17 o rolau clinigol a chymorth newydd a chynyddu arloesedd systemau diolch i fenthyciad o £180,000 gan Fanc Datblygu Cymru, drwy Gronfa Busnes Cymru. 

Insight Workplace Health yw darparwr iechyd galwedigaethol mwyaf Cymru a'r un sy'n tyfu gyflymaf. Mae'n cefnogi rhai o brif sefydliadau'r wlad, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Dŵr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Admiral, Prifysgol Caerdydd a llawer o awdurdodau lleol Cymru, ynghyd â nifer o fusnesau yn niwydiannau adeiladu a gweithgynhyrchu Cymru.

Wedi’i sefydlu ym Mhort Talbot yn 2009 gan yr efeilliaid Liz Terry ac Ellie Taylor, mae Insight wedi tyfu i fwy na 50 o weithwyr ac yn cynnig gwasanaethau iechyd galwedigaethol ar raddfa genedlaethol i bob diwydiant; gyda phum clinig yng Nghymru yn Llandarsi, Casnewydd, Llanelli, Trefforest a Rhuthun, ynghyd â fflyd o faniau sgrinio symudol a all gwmpasu’r DU gyfan.

Wedi'i gyrru gan y galw cynyddol gan gleientiaid presennol a marchnad sy'n aeddfedu sy'n sylweddoli'n gyflym yr effaith gadarnhaol y gall iechyd galwedigaethol ei chael wrth atal absenoldeb gweithwyr a gwella amseroedd dychwelyd i'r gwaith, bydd Insight yn buddsoddi mewn technolegau dadansoddi cyhyrysgerbydol sy'n torri tir newydd ac yn gwella ei systemau cefn swyddfa i reoli niferoedd cynyddol yn well, cyflymu galluoedd brysbennu, a lleihau gorbenion.

Dyma’r eildro i’r busnes dderbyn buddsoddiad gan y Banc Datblygu, yn dilyn benthyciad chwe ffigur Cynllun Benthyciadau Busnes Covid-19 Cymru (CBBCC) yn 2020. Bydd y cyllid yn galluogi Insight Workplace Health i gyflymu twf busnes a chyflawni ymhellach eu gweledigaeth o wneud iechyd galwedigaethol yn hygyrch i fusnesau o bob maint.

Dywedodd Ellie Taylor, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Insight Workplace Health, “Rydym yn hynod falch o’n sefyllfa bresennol fel darparwr gwasanaethau iechyd galwedigaethol mwyaf Cymru sy’n tyfu gyflymaf, ac rydym bob amser wedi cael hyder a chefnogaeth ein cleientiaid presennol, sy'n meddiannu gwahanol sectorau a disgyblaethau. Ond doedden ni ddim eisiau aros yn ein hunfan – mae iechyd galwedigaethol yn faes sy’n newid yn barhaus gyda gofynion esblygol, ac roedden ni eisiau gwneud yn siŵr bod ein harlwy yn parhau i fod yn addas ar gyfer y dyfodol ar gyfer ein cwsmeriaid presennol a darpar gwsmeriaid fel ei gilydd.”

“Mae’r cyllid gan Fanc Datblygu Cymru wedi ein galluogi i dyfu ein busnes i feysydd newydd, gan wneud iechyd galwedigaethol yn fwy hygyrch i’r farchnad BBaChau ac ymgymryd â heriau newydd, ac rydym yn falch iawn o’r cymorth y maent wedi’i roi i ni drwy gydol y broses.”

Ychwanegodd Richard Jenkins, Swyddog Monitro Portffolio yn y Banc Datblygu, “Rydym yn falch o fod wedi cefnogi Insight wrth iddynt geisio cyflogi gweithwyr newydd a chynyddu arloesedd, a fydd o fudd enfawr o ran iechyd a lles i weithwyr nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y DU.”