Mae saer coed o Gaerfyrddin wedi arwain ei dîm rheoli i gwblhau trefniant gwerth miliynau o bunnoedd i’r rheolwyr brynu’r cwmni gwydr dwbl a sefydlwyd ganddo ym 1989.
Wedi’i ariannu gan Fanc Datblygu Cymru a chymysgedd o fenthyciadau ac ecwiti, prynodd y tîm rheoli y busnes Nolan uPVC, sydd wedi ennill sawl gwobr, gan y Rheolwr Gyfarwyddwr presennol, sef Nolan Nicholas.
Gyda 56 o weithwyr, mae Nolan yn gweithredu o gyfleuster o’r radd flaenaf sy’n 52,000 troedfedd sgwâr yn Nhre Ioan, Caerfyrddin, sy’n cynnwys stiwdio ddylunio o faint llawn. Mae depo a stiwdio ddylunio weithredol arall wedi’u lleoli ar Ffordd y Gogledd, Caerdydd.
Cipiodd Nolan y teitl Gosodwr y Flwyddyn yng ngwobrau clodwiw G19 ym mis Tachwedd 2019. Mae Nolan yn gwerthu ac yn gosod cymysgedd o gynnyrch domestig yn uniongyrchol, bob un gyda gwarant deng mlynedd unigryw, ac yn gwerthu’n fasnachol i osodwyr eraill ac i gwsmeriaid masnachol. Gellir ailgylchu pob cynnyrch.
Meddai Nolan Nicholas: “Fy mwriad oedd creu busnes a oedd yn canolbwyntio ar wasanaeth ac nad oedd yn cyd-fynd â’r ddelwedd nodweddiadol o gwmnïau gwydr dwbl. Ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach ac mae gennym dîm anhygoel sy’n rhannu fy ymrwymiad parhaus i ansawdd y gwaith gosod a gwasanaeth ar ôl gwerthu.
“Mae’r trefniant i reolwyr brynu’r cwmni yn gam naturiol i mi ac rwy’n hynod falch o weld fy nhîm rheoli, a chanddo gyfanswm o 80 mlynedd o brofiad o weithio i Nolan, yn cymryd yr awenau gyda fy nghymorth parhaus. Mae’r cyllid gan Fanc Datblygu Cymru yn golygu bod y tîm yn cael y cymorth a’r cyfalaf cywir i’w arwain at lwyddiant pellach.”
Dywedodd y tîm sy’n prynu’r busnes, sef Paul Murphy, Adrian Phillips a Jason James: “Rydym yn fusnes teuluol clos iawn ac mae gwerthoedd ac egwyddorion Nolan yn rhan annatod o’r hyn a wnawn. Bydd Nolan yn parhau i’n cefnogi felly ni fydd y busnes yn newid rhyw lawer wrth i ni geisio chwilio am ffyrdd o ddatblygu’r drysau, ffenestri a heulfannau UPVC ac alwminiwm rydym yn eu cynnig ledled Cymru a De-ddwyrain Lloegr. Roedd modd i ni gyflawni’r trefniant hwn o ganlyniad i’r cyllid gan Fanc Datblygu Cymru ac mae ei gymorth parhaus fel cyfranddaliwr yn golygu ein bod yn edrych ymlaen yn fawr at y dyfodol.”
Darparwyd cyllid ar gyfer y trefniant prynu hwn gan Gronfa Olyniaeth Rheoli Cymru. Ariennir y cynllun gwerth £25 miliwn gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Bensiwn Clwyd. Mae benthyciadau a buddsoddiadau rhwng £500,000 a £3 miliwn ar gael ac mae’r telerau’n amrywio o flwyddyn i saith mlynedd.
Ychwanegodd Stephen Galvin o Fanc Datblygu Cymru: “Llwyddodd Nolan i ddatblygu busnes hynod lwyddiannus a chadarn y mae cwsmeriaid a chydweithwyr ill dau yn ymddiried ynddo ac yn ei werthfawrogi. Mae ei angerdd a’i ofal yn rhan annatod o’r tîm rheoli sydd wedi gweithio’n wych i adeiladu’r busnes i’w sefyllfa bresennol.
“Sefydlwyd y Gronfa Olyniaeth Rheoli Cymru yn benodol ar gyfer y math hwn o gyllid ar gyfer trefniadau prynu gan reolwyr; gan ddarparu’r math cywir o gyllid i ddarpar berchenogion newydd er mwyn iddynt allu prynu busnesau cynhenid a’u sbarduno i fod yn fwy llwyddiannus byth.”
Caiff cytundebau olyniaeth llwyddiannus eu gwireddu gyda chefnogaeth arbenigwyr sydd â’r un nodau. Y cynghorwyr ariannol Alison Vickers ac Alun Evans o Bevan Buckland fu’n ymwneud â’r cytundeb hwn. Sheraz Akram o Douglas-Jones Mercer fu’n gweithredu ar ran y gwerthwr a Richard McTaggart o McTaggart Solicitors ar ran y tîm rheoli. Natalie Lane o Hugh James a Tanya Wilson o Haines Watts fu’n gweithredu ar ran Banc Datblygu Cymru.