Paratoi i fynd i mewn i'r ffau: Awgrymiadau pitsio ar gyfer busnesau technoleg newydd

Newidwyd:
Ecwiti
Cyllid
Mentrau tech
Arian

Rydych chi wedi gwneud eich ymchwil, mae gennych syniad gwych sy'n mynd i syfrdanu'r byd technoleg, ond yn awr rydych angen rhoi pethau ar waith.

Mae pitsio i fuddsoddwyr yn dasg anodd. Rydych chi wedi gweld Dragon's Den, neu dreialon a thrawdliadau criw'r Pied Piper yn y comedi Silicon Valley. Pan gewch gyfle i siarad â darpar fuddsoddwr mae yna lawer i'w gyfleu mewn ychydig o amser.

Rydw i, a gweddill ein tîm technoleg, yn aml yn cyfarfod ac yn siarad â busnesau newydd, sy'n aml yn chwilio am eu rownd gyntaf o gyllid. Rydym yn cwrdd â nhw un-i-un neu mewn gwahanol ddigwyddiadau pitsio gyda darpar fuddsoddwyr eraill.

Ac mae yna rywfaint o newyddion da...nid yw hyn yn brofiad mor ofnadwy o frawychus ac ofnus ac mae'n ymddangos ar y teledu.

Mae buddsoddwyr yn chwilio am gwmnïau da a chyffrous. Rydyn ni eisiau i chi wneud yn dda ac rydyn ni'n awyddus i helpu. Nid yw'n awyrgylch gwrthwynebus ond mae yna lawer o gwestiynau sydd angen eu hateb.

Felly, rydw i wedi llunio ychydig o bethau ‘rydym ni'n chwilio amdanynt a all eich helpu i baratoi ar gyfer pitsio neu werthu eich syniad:

Adnabod eich cynnyrch

Mae'n swnio'n syml, ond mae'n wirioneddol bwysig eich bod chi'n adnabod eich cynnyrch ac yn gallu egluro i bobl nad ydynt efallai yn rhannu'r un lefel o arbenigedd yn eich maes chi. Mae yna fyrfodd poblogaidd ar y rhyngrwyd - ELI5 yn Saesneg - EFP5 yn Gymraeg, sef eglurwch petawn i'n bump - mae angen i chi allu crynhoi'n gyflym beth mae eich technoleg yn ei wneud, sut mae'n gweithio a pha fuddion net fydd yn ei ddarparu.

Mae'n syniad da weithiau gwneud yn union hynny cyn i chi fynd i mewn i gyfarfod. Dylech gael disgrifiad un dudalen o hyd o'r hyn mae eich technoleg yn ei wneud a pham mae hynny'n fuddiol iawn. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwybod popeth sydd yn eich crynodeb a’ch bod yn ei adnabod fel cefn eich llaw. Mae hefyd yn werth chweil meddwl pa gwestiynau rydych yn debygol o fod angen eu hateb am eich technoleg ac felly gwnewch yn siŵr bod gennych atebion i rai Cwestiynau Cyffredin wrth law.

  • Sut mae eich technoleg chi'n gweithio?
  • Sut mae'n wahanol i'r hyn sydd eisoes ar gael?
  • Sut fydd hyn yn helpu pobl?
  • Pam fyddai pobl yn prynu'ch cynnyrch / gwasanaeth chi?

 

Gwnewch eich ymchwil

Os ydych am lansio'ch busnes newydd mae angen i chi ddangos bod gennych chi fwy na dim ond syniad gwych. Mae angen i chi adnabod eich marchnad a phwy fyddwch chi'n cystadlu yn eu herbyn.
 

  • Oes yna unrhyw un yn gwneud unrhyw beth tebyg yn y farchnad?
  • Sut mae pobl yn mynd i'r afael â'r materion / cyfleoedd y bydd eich cynnyrch yn mynd i'r afael â hwy ar hyn o bryd?
  • Pwy yw'ch marchnad darged?
  • Faint maen nhw'n fodlon ei wario?
  • Sut fyddwch chi'n gwneud arian o'ch syniad?

 

Mae buddsoddwyr yn hoffi gweld eich bod nid yn unig wedi adnabod y cyfle, ond hefyd y gystadleuaeth ac unrhyw rwystrau o ran mynediad.

Adnabod eich buddsoddwr

Mae hyn yn dilyn eich ymchwil. Mae angen i chi feddwl o ddifri i bwy 'rydych chi'n pitsio. Mae hyn yn golygu y byddwch chi'n gallu addasu eich patrwm gweithredu a chael y fargen orau ar gyfer eich busnes newydd.

  • Pwy yw'r buddsoddwr?
  • Pa fath o gwmnïau y maent yn buddsoddi ynddynt? Oes ganddynt arbenigedd?
  • Pa fath o wybodaeth a sgiliau allant eu cynnig i'ch bwrdd chi?
  • Beth yw eu hamodau a'u telerau?
  • A fydda’ nhw’n cefnogi rowndiau dilynol?

 

Mae buddsoddwr ecwiti mewn busnes newydd sy'n dechrau yn bartneriaeth hir dymor. Byddwch eisiau sicrhau eich bod chi'n gallu cydweithio a bod gennych yr un nodau. Mae sicrhau eich bod yn gweddu'n iawn i'ch gilydd yn bwysig iawn. Fe fyddwch chi mewn llawer o gyfarfodydd bwrdd gyda nhw dros y blynyddoedd ac rydych chi eisiau sicrhau eich bod chi i gyd yn mynd i'r un cyfeiriad.

Pwy sydd ar eich tîm chi?

Nid dim ond cefnogi syniad gwych sydd â photensial da ar gyfer y farchnad ydyn ni. Pan fyddwn ni’n buddsoddi, rydym yn buddsoddi ynoch chi a'ch tîm rheoli. 

  • Beth yw cryfderau eich tîm chi?
  • A oes unrhyw fylchau sgiliau yr hoffech i fuddsoddwr ecwiti eu helpu i lenwi?
  • Pwy yw'ch swyddog technegol, eich cyfarwyddwr cyllid?
  • Pwy yw'ch Prif Weithredwr?
  • Am ba hyd y mae pawb wedi bod gyda'r cwmni?

 

Edrychwch ar baratoi bywgraffiadau byr o'r tîm allweddol. Bydd yn dangos yn gyflym iawn os oes gennych chi unrhyw fylchau ac yn aml mae'n gallu tynnu sylw at gryfderau sydd gennych eisoes nad ydych yn eu defnyddio'n llawn.

Fe all pitsh fod yn awr o ran hyd; ond efallai wir mai dim ond pum munud sy'n bosibl. Ewch ati i ymarfer eich sgiliau cyflwyno a pharatoi taflenni byr, hawdd eu darllen fel eich bod yn gallu eu cynnig i ddarpar fuddsoddwr.

Os oes gennych chi syniad gwych ac fe hoffech gyflwyno eich pitsh i'n tîm ni, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda, gallwch anfon neges atom ar ein gwefan neu ffoniwch 0800 587 4140.