Mae Banc Datblygu Cymru wedi arwyddo'r brydles ar ei bencadlys newydd yn Wrecsam. Bydd y banc datblygu sydd newydd gael ei ffurfio yn ymsefydlu yn yr hen swyddfeydd Moneypenny ym Mharc Technoleg Wrecsam.
Cyhoeddodd Ken Skates, y Gweinidog dros yr Economi, fis Gorffennaf y llynedd, y byddai pencadlys y banc datblygu newydd yn Wrecsam. Lansiwyd Banc Datblygu Cymru ym mis Hydref a bydd y staff cyntaf yn dechrau gweithio o'r Pencadlys newydd yn ddiweddarach eleni.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: "Rwy'n falch iawn bod y brydles bellach wedi cael ei harwyddo ar gyfer pencadlys y Banc Datblygu a fydd yn darparu 50 o swyddi o safon yma yn Wrecsam.
"Mae ein Cynllun Gweithredu Economaidd newydd yn cynnwys canolbwyntio o ddifri ar gryfhau ein heconomïau rhanbarthol a sicrhau bod y buddion wrth i ni ffynnu yn cael ei rannu'n fwy cyfartal ar hyd a lled Cymru, ac mae symud y Banc Datblygu i Wrecsam yn enghraifft wych o'r ffordd yr ydym yn gweithio i gyflawni hyn.
"Ein blaenoriaeth nawr yw trosi cynnwys y Cynllun Gweithredu Economaidd i ddulliau cyflawni ystyrlon sy'n fuddiol i'n busnesau a'n cymunedau, a byddwn yn gweithio'n adeiladol gyda'n partneriaid mewn busnes, yn yr undebau llafur, yn y trydydd sector ac eraill, er mwyn sicrhau ei fod yn gynllun sydd wirioneddol yn cyflawni dros Gymru.
Yn 2017, buddsoddodd Banc Datblygu Cymru £15 miliwn i mewn i fusnesau Gogledd Cymru, sy’n fwy na theirgwaith y swm yn 2016. Mae'r tîm, sydd wedi'i leoli ar draws rhanbarth Gogledd Cymru gyfan, wedi dyblu o ran nifer dros y flwyddyn ddiwethaf . Mae’r gwaith recriwtio bellach ar y gweill, ac mae hynny’n cynnwys nifer o swyddi gwag ar hyn o bryd.
Dywedodd Prif Weithredwr Banc Datblygu Cymru, Giles Thorley: "Rydym yn falch iawn ein bod wedi sicrhau ein Pencadlys newydd yn Wrecsam a chyflawni'r elfen allweddol hon o'n strategaeth leoliadol ar gyfer Cymru gyfan.
"Rydyn ni wedi bod yn cynyddu ein gweithrediadau yng Ngogledd Cymru ac yn parhau i weld yr uchelgais a'r awydd am fuddsoddiad gan fusnesau yn y rhanbarth, gyda chefnogaeth cymuned fusnes fywiog.
"Ein nod ni yw sicrhau ein bod mewn sefyllfa dda i gefnogi busnesau ar lawr gwlad. Er ein bod wedi bod yn buddsoddi yn ein gwasanaeth digidol, mae cynnal presenoldeb lleol, wyneb yn wyneb yn parhau i fod yn bwysig iawn i ni ac i'n cwsmeriaid. Edrychwn ymlaen at groesawu pobl i'r swyddfeydd pan fyddant yn agor yn ddiweddarach eleni."
Bydd y Cyfarwyddwr Risg, Cydymffurfiaeth a Chyfreithiol Neil Maguinness yn seiliedig yn barhaol yn Wrecsam pan fydd y swyddfa newydd yn agor. Bydd David Staziker, y Cyfarwyddwr Cyllid a benodwyd yn ddiweddar, yn rhannu ei amser rhwng Caerdydd a'r pencadlys. Bydd Banc Datblygu Cymru hefyd yn cynnal 50% o'u cyfarfodydd bwrdd yn y Pencadlys newydd.
Cynghorwyd y banc gan Hugh James Solicitors a Knight Frank yn y trafodiad lle'i gwelwyd yn cymryd prydles pum mlynedd. Knight Frank Meddai'r Mark Sutton: "Roedd y Parc Technoleg yn darparu'r cymysgedd iawn o leoliad amlwg gyda gofod swyddfa hyblyg, agored ar gyfer pencadlys newydd y Banc, ac rydyn ni nawr yn bwrw ymlaen gyda rheoli'r prosiect o'i ddodrefnu o'r newydd."
Mae Banc Datblygu Cymru yn cynnig benthyciadau o £1,000 hyd at £5 miliwn yn ogystal â buddsoddiadau ecwiti hyd at £5 miliwn ar gyfer cwmnïau neu fusnesau yng Nghymru sy'n bwriadu symud yma. Maent hefyd yn rheoli cynllun Cymorth i Brynu Cymru, sy'n cynnig benthyciadau ecwiti i bobl sy'n prynu cartrefi newydd yng Nghymru.
Targed y banc datblygu yw cael effaith o fwy na £1 biliwn ar economi Cymru dros y pum mlynedd nesaf.