Perchennog newydd yn dechrau ar eco-drawsnewid bwyty a byncws poblogaidd ym Merthyr

John-Babalola
Swyddog Buddsoddi Cynorthwyol
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cynllunio busnes a strategaeth
Technoleg busnesau
Twf
Cynaliadwyedd
The Butchers Arms

Mae perchennog newydd The Butchers Arms ym Mhontsticill wedi dechrau ar eco-drawsnewid y bwyty a’r byncws poblogaidd ar ôl sicrhau benthyciad chwe ffigur sylweddol gan Fanc Datblygu Cymru ynghyd â chyllid grant gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Gyda gyrfa mewn lletygarwch, adloniant ac e-fasnach, defnyddiodd Andrew Owen y benthyciad gan y Banc Datblygu i dalu am brynu bwyty, tafarn a llety byncws 200 oed wrth borth y Bannau Brycheiniog. Mae cymorth gan Busnes Cymru a chyllid grant gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn golygu bod Andrew bellach yn gobeithio dechrau eco-drawsnewid a fydd yn golygu y bydd The Butchers Arms yn dod yn far, bwyty a llety oddi ar y grid cyntaf y DU erbyn 2025.

Mae'r gwaith hyd yn hyn yn cynnwys insiwleiddio'r adeilad yn llawn a gosod system drydan ecogyfeillgar yn lle'r boeler olew. Mae Andrew hefyd yn gobeithio gosod paneli solar a phwyntiau gwefru cerbydau trydan, a phrynu dau fws mini trydan i helpu gwesteion i gael gwasnaeth cludo gwennol i ac o atyniadau lleol.

Dywedodd Andrew Owen: “Mae hon yn dafarn hardd mewn lleoliad godidog. Pan benderfynodd y perchnogion blaenorol werthu, nid oedd yn rhaid i mi feddwl ddwywaith am ei brynu, felly rwy’n ddiolchgar iawn i Fanc Datblygu Cymru am eu cefnogaeth.

“Mae'r Butchers Arms yn cael ei garu gan bobl leol, anturiaethwyr a phobl sy'n hoff o fyd natur ond roedd ganddo allyriadau carbon uchel. Gallwn weld y cyfle ar unwaith i greu rhywbeth gwirioneddol arbennig drwy ddatgarboneiddio’r adeilad ac anelu at ddod y dafarn oddi ar y grid gyntaf yn y DU. Rwy’n wirioneddol obeithiol y bydd y mentrau hyn yn helpu i hyrwyddo twristiaeth yn yr ardal leol fel bod y gymuned ehangach hefyd yn elwa.”

John Babalola, Swyddog Buddsoddi Cynorthwyol gyda Banc Datblygu Cymru, a strwythurodd y cyllid. Meddai: “Mae’r Butchers Arms wrth galon cymuned Pontsticill ac mae’n rhan allweddol o’r hyn sydd ar gael i dwristiaid yn yr ardal hon. Mae’r busnes hefyd yn ddarparwr cyflogaeth a dyna un o’r rhesymau pam yr oeddem yn awyddus i gefnogi Andrew i brynu’r busnes i helpu i gadw’r swyddi. Mae bellach yn dechrau ar raglen gyffrous o eco-drawsnewid a fydd wir yn rhoi Pontsticill ar fap twristiaeth Cymru.”

Daeth y benthyciad ar gyfer y Butchers Arms o Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru gwerth £500 miliwn, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru. Mae benthyciadau, cyllid mesanîn, a buddsoddiadau ecwiti ar gael i fusnesau yng Nghymru o £25,000 i £10 miliwn.