Os ydych yn berchennog busnes ar daith i dyfu eich cwmni, yn fusnes technoleg newydd sy'n chwilio am fuddsoddiad, neu’n awyddus i brynu neu werthu busnes, bydd y gynhadledd hanner diwrnod hon yn rhoi popeth sydd ei angen arnoch i’ch helpu i gynllunio, cyflwyno cynnig a dod o hyd i'r buddsoddiad cywir sy’n addas ar gyfer eich busnes.
Wrth i fusnesau geisio adfer o’r pandemig, mae Banc Datblygu Cymru wedi ymrwymo i ddatgloi potensial yn economi Cymru drwy gynyddu'r ddarpariaeth o gyllid cynaliadwy, effeithiol yn y farchnad.
I wneud hynny, rydym yn ceisio chwalu’r rhwystrau i ecwiti, gan ei wneud yn fwy hygyrch, addysgu busnesau am ei fanteision, dangos effaith y cyllid a chwalu unrhyw fythau.
Mewn partneriaeth â Busnes Cymru a Banc Busnes Prydain, mae Banc Datblygu Cymru’n cynnal digwyddiad wedi’i ffrydio’n fyw sy’n arwain y diwydiant mis Tachwedd.
Cynhelir Ehangu Gorwelion gydag Ecwiti BYW yn Stadiwm Dinas Caerdydd, bydd y digwyddiad yn cael ei ffrydio’n fyw a gall busnesau gofrestru am ddim i wylio’r digwyddiad ar-lein o gysur eu cartref neu eu swyddfa.
Bydd y digwyddiad yn dechrau gydag anerchiad agoriadol gan Weinidog yr Economi Vaughan Gething, ac mae’n cael ei arwain gan y newyddiadurwr, y darlledwr, yr awdur a chyn-gyflwynydd BBC Wales, Jamie Owen.
Bydd yna brif siaradwyr, trafodaethau panel, awgrymiadau defnyddiol a chyfleoedd i’r cynadleddwyr rwydweithio.
Yn ystod y digwyddiad hanner diwrnod, trafodir meysydd fel codi arian, olyniaeth busnes, dod o hyd i’r buddsoddwr cywir ar effaith y gall Cyfarwyddwyr Anweithredol ei chael ar eich Bwrdd, yn ogystal â chlywed gan entrepreneuriaid adnabyddus fel Piers Linney ac unigolion ysbrydoledig fel Lowri Morgan.
Mae Piers Linney yn entrepreneur ac yn bersonoliaeth teledu sydd wedi ymddangos fel buddsoddwr ar raglen Dragon’s Den y BBC a’r gyfres The Secret Millionaire ar Channel 4.
Mae ganddo gefndir proffesiynol yn y gyfraith, bancio buddsoddi a rheoli cronfeydd. Ar Dragon’s Den buddsoddodd yn Wonderbly, y cyhoeddwr llyfrau plant wedi’u personoli, sef y cwmni a dyfodd gyflymaf yn Tech Track 2017.
Mae Lowri Morgan yn ddarlledwr sydd wedi ennill gwobr BAFTA ac mae'n gwybod yn well na neb yr agwedd a'r dyfalbarhad sydd ei angen i ragori ar dargedau a sicrhau llwyddiant. Bydd yn sôn am ei phrofiadau ym maes darlledu a'i chyflawniadau fel athletwr o’r radd flaenaf ym myd chwaraeon eithafol ac anturiaethwr mentrus.
Ymhlith y siaradwyr eraill mae Frank Holmes (yn o bartneriaid a sylfaenwyr Gambit Corporate Finance), Jenny Tooth OBE (Prif Swyddog Gweithredol UK Business Angels Association), Sherry Coutu CBE (entrepreuneur a buddsoddwr angel) a Rodney Appiah (cyn fanciwr buddsoddi, Cyfarwyddwr Anweithredol a buddsoddwr cyfalaf menter).
Bydd perchnogion busnesau o Gymru hefyd yn ymuno â ni i rannu eu profiadau go iawn o ecwiti a sut mae wedi helpu i ddylanwadu ar dwf eu busnes - yn cynnwys Prif Swyddog Gweithredol Health & Her, Kate Bache, a Steve Lanigan Prif Swyddog Gweithredol o ALS People.
I bwy mae'r digwyddiad yn addas?
Mae’r digwyddiad wedi ei greu i helpu perchnogion busnes ar daith i dyfu eu cwmnïau, busnes technoleg newydd sy'n chwilio am fuddsoddiad, ar rhai hynny sy’n awyddus i brynu neu werthu busnes. Y nod yw helpu cynrychiolwyr i ddod o hyd i’r opsiwn buddsoddi sy’n iawn i’w busnes nhw.
Manteision ecwiti
Nid dim ond ar gyfer busnesau technoleg newydd mae ecwiti, gellir ei ddefnyddio i gyflymu twf busnesau sydd wedi’i sefydlu a chefnogi olyniaeth busnes hefyd. Gellir hefyd ei ddefnyddio ochr yn ochr â chyllid dyled i ddarparu pecyn ariannol wedi ei deilwra.
Mae ecwiti yn ffordd gyffredin i fusnesau gael yr arian sydd ei angen arnynt, ond mae’n bwysig bod busnesau’n deall sut mae’n gweithio ac a yw’n opsiwn ariannu addas.
Mae pob busnes yn wahanol, efallai na fydd yr hyn sy’n gweithio i un o reidrwydd yn gweithio i’r llall. Mae gan gyllid ecwiti nifer o fanteision gan ei fod yn helpu busnesau i dyfu’n gyflymach, a’u galluogi i gael mantais gystadleuol well.
Pam nawr?
Wrth i fusnesau geisio adfer ar ôl y pandemig ac yn wyneb amgylchedd busnes sy’n newid ac yn cynnig llawer o lwybrau newydd ar gyfer twf, mae cyllid ecwiti yn dod yn ateb cynyddol bwysig i fusnesau Cymru yn 2021.
Ym Manc Datblygu Cymru rydym yn teimlo ei bod yn bwysig i fusnesau ddeall manteision buddsoddiad ecwiti a sut y gall ysgogi a chyflymu twf.
Cynhelir y digwyddiad ar 4 Tachwedd, 2021 rhwng 9am a 1.15pm. I archebu eich lle ewch i’r wefan www.ecwiti.cymru