Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Perchnogion newydd i gartref gofal ar Ynys Môn gyda chefnogaeth Banc Datblygu Cymru

Chris-Hayward
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cynllunio busnes a strategaeth
Prynu busnes
Marchnata
Gwerthu busnes
Gwyddfor Residential Home

Mae cyn-berchnogion profiadol cartref preswyl yn Ynys Môn wedi llwyddo i drosglwyddo eu busnes i berchnogion newydd, diolch i fenthyciad o £1.2 miliwn gan Fanc Datblygu Cymru.

Mae Glyn a Mary Williams yn rheoli Cartref Preswyl Gwyddfor, ger Bodedern ar Ynys Môn ers 2004. Mae’r cartref sydd â 27 o ystafelloedd wedi ei brynu gan Dr Bethan a Kayode Emola, gŵr a gwraig sydd â phrofiad rhyngddynt yn y sector gofal ac o arfer meddygol.  Cafodd y pryniant gefnogaeth gyda benthyciad gan Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru.

Mae’r cartref yn darparu llety a gofal i breswylwyr hŷn gyda 22 o ystafelloedd ar y llawr gwaelod, a 5 ystafell ar y llawr cyntaf, yn ogystal â dwy lolfa, ystafell eistedd, ystafell haul wydr, a lolfa gyda bar.  Bydd y pryniant hwn yn amddiffyn cyflogadwyedd yn lleol, gan fod tîm rheoli presennol y cartref yn cael eu cadw. 

Dywedodd Kayode Emola: “Roeddwn i a Bethan wedi bod yn chwilio am gyfle fel hwn ers peth amser, ac rydym ni’n falch iawn ein bod ni wedi canfod cartref sydd yn lleol i ni ar Ynys Môn. Mae hyn yn ein galluogi ni i roi’r profiad sydd gennym ni ar waith yn ogystal â chadw’r busnes mewn dwylo lleol. 

“Mae gan fy ngwraig gefndir yn y maes meddygol ac rydw i’n dod o gefndir busnes, ac felly rydym ni’n falch iawn ein bod ni’n cael y cyfle i ddod â’r ddau at ei gilydd. Rydym ni’n edrych ymlaen at gael gweithio â phawb yn y cartref er mwyn parhau i ddarparu gofal sy’n cyrraedd y safon y mae'r preswylwyr a’u teuluoedd yn ei ddisgwyl a’i haeddu.”

Ychwanegodd: “Roedd y gefnogaeth a gawsom ni gan Fanc Datblygu Cymru yn wych. Cynorthwyodd Will Jones a Chris Hayward ni wrth sicrhau bod y broses ymgeisio yn syml, a datblygodd pethau’n gyflym wedi i’n cais i brynu’r busnes gael ei gymeradwyo. Gwnaeth ein tîm o gyfreithwyr profiadol o gwmni cyfreithiol Ison Harrsions a chyfrifwyr o Christian Phipps yn siŵr bod y diwydrwydd dyladwy wedi ei gwblhau mewn byr o dro.”

Dywedodd Chris Hayward, swyddog buddsoddi yn y Banc Datblygu: “Roedd hi’n bleser cael gweithio â Bethan a Kayode, a Mr a Mrs Williams, wrth sicrhau gwerthiant Cartref Preswyl Gwyddfor, gan alluogi’r cyn-berchnogion i gymryd cam yn ôl gan wybod bod y busnes yn aros mewn dwylo lleol. 

“Mae hwn yn fusnes pwysig sy’n darparu gwasanaeth gofal hanfodol  i breswylwyr sy’n cael eu hariannu yn breifat a gan awdurdod lleol, mewn ardal wledig. Roeddem ni’n falch iawn felly ein bod ni wedi gallu helpu i sicrhau gwerthiant syml.”

Mae Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru yn cynnig benthyciadau, a chyllid mesanîn ac ecwiti i fusnesau yng Nghymru. Mae’r cynigion cyllid yn cychwyn ar £25,000 ac yn ymestyn at hyd at £10 miliwn.