Pitshio i fuddsoddwyr - beth sydd angen i chi ei wybod

Newidwyd:
entrepreneur pitching

Dychmygwch y peth. Mae diwrnod eich pitsh wedi cyrraedd, rydych chi wedi gweithio ar eich syniad, wedi aberthu penwythnosau a nosweithiau gan dalu ffortiwn mewn chwys ecwiti. Rydych chi'n adnabod eich marchnad fel cefn eich llaw erbyn hyn. Mae eich syniad yn un arloesol, yn aflonyddgar ac yn raddadwy. Mae hi'n bryd mynd ati i wneud y gwaith codi arian rŵan - rhan heriol o'r broses entrepreneuraidd.

Erbyn hyn mae'n debyg eich bod wedi gwylio oriau o Dragopn's Den ar y BBC i gael rhyw fath o ymdeimlad o sut beth ydi pitshio i fuddsoddwyr cyfalaf menter. Er bod hwn yn waith cartref da, mae realiti pitshio yn wahanol iawn. Mae'n cynnwys sgwrs achlysurol gyda buddsoddwyr am gyfle busnes, gyda phitsh yn y canol.

Mae yna bethau haws i'w gwneud na phitshio i ystafell o fuddsoddwyr profiadol. Mae llawer iawn o wybodaeth i ymchwilio iddo a'i ddeall - yn amrywio o bethau syml fel adnabod eich cynnyrch, i ddeall tueddiadau a naws eich marchnad darged.

Yn dilyn ein blog blaenorol ar yr hyn y buddsoddwyr yn chwilio amdano, mae'r blog hwn yn rhoi cyngor ar sut i gyflwyno pitsh iddyn nhw.

Yn y lle cyntaf, be’ ydi pitsh?

Mae pitsh yn gyfle i'r entrepreneur gyflwyno, yn ei eiriau ei hun, ei gynllun busnes i ddarpar fuddsoddwyr. Mae strwythur pitsh yn eithaf hyblyg, ond fel arfer mae'n cynnwys tair prif ran:

  • Cyflwyniad - Dyma ble mae buddsoddwyr yn dod i'ch adnabod chi a chithau yn dod i’w hadnabod nhw. Ein cyngor ni yn fan hyn yw y dylech chi fod yn chi eich hun a chymryd hwn fel cyfle i fod yn gyfforddus a pharatoi ar gyfer y pitsh. Ni ddylech ddi-ystyrru pa mor bwysig yw’r rhan hon, achos mae’n bwysig eich bod chi a'r buddsoddwr yn cyd-dynnu.
  • Y Pitsh - Y prif ddigwyddiad. Dyma pryd y byddwch yn cyflwyno'ch cynllun busnes; fe'i gwneir fel arfer drwy ddefnyddio sleidiau cyflwyno ac arddangosiad o'ch cynnyrch.
  • Cwestiynau - Gall cwestiynau fod yn beth brawychus, ond os ydych chi wedi ymchwilio i'ch diwydiant ac yn adnabod eich cynnyrch yna does dim angen i chi boeni. Os oes rhywun yn gofyn rhywbeth nad ydych chi'n ei wybod, dywedwch hynny wrthynt.

 

Nawr bod gennych syniad be’ i'w ddisgwyl, dyma beth fydd buddsoddwyr yn ei ddisgwyl.

Isod ceir rhai awgrymiadau ar sut i gyflwyno'ch hun a'ch cyfle buddsoddi. Nid yw hon yn rhestr wirio gynhwysfawr na di-ben-draw o bell ffordd, ond mae'n ganllaw ar gyfer cyflwyno pitsh effeithiol.

 

1. Cyflwyno'ch hun

Bydd y rhan hon yn cynnwys pethau y byddwch wedi eu clywed sawl gwaith o'r blaen yng nghyd-destun cyfarfodydd a chyfweliadau. Fodd bynnag, maent yr un mor hanfodol i gyflwyno pitsh llwyddiannus ag unrhyw beth.

  • Prydlondeb - Mae'r argraffiadau cyntaf a gaiff pobl yn cyfrif, felly mae'n well osgoi cyrraedd yn hwyr. Gwell cyrraedd yn gynnar, ymgyfarwyddo eich hun gyda'ch amgylchedd a chymryd eiliad i gnoi cil ar eich meddyliau. Fodd bynnag, peidiwch â bod yn or-frwdfrydig a chyrraedd yn rhy gynnar oherwydd fe all hynny achosi annifyrrwch i'r buddsoddwyr ... os ydych chi'n cyrraedd ac yn gweld bod gennych tua hanner awr i'w sbario, yna ewch i gael coffi ac arhoswch.
  • Gwisgwch yn drwsiadus - 'Does dim angen i chi gyrraedd mewn siwt. Mae edrych yn weddol smart yn hollol dderbyniol. Fodd bynnag, fe allwch danseilio'r pitsh gorau yn y byd os fyddwch chi'n cyrraedd yn edrych fel Mark Zuckerberg yn gwisgo fflip fflops am eich traed ac yn gwisgo trowsus byr. Peidiwch â gwneud y camgymeriad o feddwl y bydd eich athrylith chi'n disgleirio trwy bopeth ac yn hudo buddsoddwyr yn syth bin. Efallai bod hynny wedi gweithio iddo fo, ond dydy hynny ddim yn wir ar gyfer y mwyafrif. 'Does dim amheuaeth fod taro'r nodyn cywir ar lefel seicolegol o ran edrychiad ac ymddwyn yn broffesiynol yn bwysig. 
  • Byddwch yn chi eich hun - Mae dechrau ar y droed iawn yn allweddol. Bydd buddsoddwr eisiau gwybod be’ ‘rydych chi'n ei hoffi fel unigolyn, felly byddwch yn chi eich hun o'r cychwyn cyntaf un.  
  • Cofiwch ymarfer - Os ydych chi angen nodiadau neu os na allwch chi gofio'r sleid nesaf, mae'n debyg nad ydych chi wedi gwneud digon. Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi gael yr hyn a elwir yn 'pitsh cyflym’. Pitsh 60 eiliad o hyd ydi hyn, sy'n hawdd ei dreulio ac yn disgrifio'ch busnes cyfan yn gryno. Wrth ymdrin ag unigolion nad oes gan ryw lawer o amser, mae'n bwysig bod yn gryno, hoelio a chadw eu sylw. Fyddwch chi ddim eisiau gorfod torri eich pitsh yn fyr oherwydd cyfyngiadau amser a hynny yng nghanol eich cyflwyniad.
  • Y tîm - Efallai y bydd gennych, neu efallai nad oes gennych dîm cyflawn ar hyn o bryd. Os oes gennych, bydd buddsoddwyr eisiau clywed ganddynt, a gweld a yw eu diddordebau yn cyd-fynd â'ch buddiannau chi. Gall dod ag aelod o dîm i'r pitsh fod yn fuddiol. Gwnewch yn siŵr eu bod yn gallu ateb y cwestiynau moel a di flewyn ar dafod yr ydych chi wedi paratoi mor ddiwyd ar eu cyfer eich hun.

 

2. Cyflwyno'r cynnyrch

Beth ydych chi'n ei gyflwyno a pham? Dyma'ch cyfle i ddangos eich cynnyrch o ddifri.  

  • Y boen - Gadewch i ni wybod yn union pa werth y mae eich cynnyrch yn ei gynnig. Beth yw anghenion y cwsmer a sut fydd eich cynnyrch yn ei ddiwallu? Ar hyn o bryd dim ond un boen ddylai fod. Canolbwyntiwch eich holl ymdrech ar ateb yr un pwynt poen hwn ac yna ehangu arno. Mae cryfhau busnes craidd busnes newydd yn hanfodol i'w lwyddiant. Meddyliwch am Uber er enghraifft; yn y lle cynta' yr hyn wnaethon' nhw oedd hwyluso'r daith i deithwyr gael mynediad at dacsis. Daeth gweddill eu stori arloesol i ddilyn hynny yn ddiweddarach.
  • Y stori - Mae creu cysylltiad emosiynol yn ffordd wych o helpu'r buddsoddwr i ddeall pam mae'r cynnyrch yn werth eu buddsoddiad nhw. Yr anhawster y mae buddsoddwyr yn ei wynebu yw bod yna nifer fawr o syniadau wedi'u hymchwilio'n wael, felly peidiwch â mynd ar goll yn yr annibendod. Drwy ddweud eich stori mewn ffordd ddeniadol, byddwch yn gwneud yn siŵr eich bod yn sefyll allan.  

 

3. Ymchwiliwch, cadwch y manylion yn eich cof, ac ymchwilio ragor

Mae deall ei gilydd yn bwysig. Erbyn i ddiwrnod y pitsh gyrraedd, bydd y buddsoddwyr wedi gwneud cryn dipyn o ymchwil amdanoch chi. Byddant yn debygol o wybod hanes gwaith, addysg eich tîm a byddant wedi dod i gasgliadau o ran eich gallu i weithredu eich syniad.

Dylech wneud ymchwil debyg ar y buddsoddwyr hefyd, yn debyg iawn i'r hyn fyddech chi'n ei wneud ar gyfer cyfweliad. Bydd pitsh ar ba mor effeithlon yw eich cod wrth ddadansoddi set benodol o ddata yn swnio'n drawiadol, ond os yw gwybodaeth gefndir eich cynulleidfa ar lefel uwch, ni fydd hyn yn ryw arwyddocaol iawn. Dyma rai o'r pethau y dylech eu gwneud:

  • Adnabod eich cynulleidfa - Os nad ydych yn gydnaws â'ch gilydd, gall arbed llawer o amser ac ymdrech i groesi rhai buddsoddwr oddi ar eich rhestr. Mae'r broses o godi arian yn hir a 'dydych chi ddim eisiau teithio o gwmpas y wlad yn cyflwyno syniad i fuddsoddwyr lle nad yw eu diddordebau nhw'n cyd-fynd. Ymchwiliwch i ffactorau fel arbenigeddau cronfeydd, eu maint, eu galluoedd a’u gwerth ychwanegol, y posibiliadau o fuddsoddiad sy'n cario ymlaen a chymuned y cwmnïau portffolio y maent yn eu rheoli. Dylai cipolwg cyflym ar eu gwefan ddatgelu'r rhan fwyaf o'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch.
  • Cefnogwch eich honiadau - Os ydych chi'n mynd i ddweud mai cyfanswm y farchnad y gellir ei chyfarch gennych yw £10 biliwn, yna cefnogwch hynny trwy roi'r rhesymeg y tu ôl i hynny. Os ydych chi'n defnyddio technoleg fwy arloesol na chystadleuwyr, dywedwch wrthym pam nad yw cystadleuwyr yn gwneud hyn. Dyma gyfle i arddangos eich ymchwil i'r farchnad a'ch gwybodaeth dechnegol.
  • Paratowch eich sleidiau yn ofalus - Gall dec wedi'i wneud yn wael fod yn gymaint o fethiant â phrydlondeb gwael. Gwnewch ymdrech wirioneddol i'w gwneud yn ddeniadol, yn hylif ac mor syml â phosibl. Dylai sleidiau amlygu'r pwyntiau allweddol yn unig. Bydd y buddsoddwr eisiau canolbwyntio ar yr hyn sydd gennych i'w ddweud.
  • Gwnewch siŵr bod eich gwybodaeth ariannol ar flaenau eich bysedd - Mae manylion ariannol yn fusnes anodd. Rydym wedi gweld pobl sy'n meddu ar y sgiliau codio gyda'r gorau, ond, ar y llaw arall, fe all cymhlethdodau datganiadau llif arian eu llethu. Wrth gyflwyno ac ateb cwestiynau, dylid ymgorffori'r metrigau ariannol allweddol yn eich meddwl. Os ydych chi'n gwybod yr ateb i ‘beth yw eich cost caffael i gymhareb gwerth oes,' yna, fwy na thebyg eich bod chi ar y trywydd iawn.

 

Pethau i gloi a chnoi cil arnynt

A fyddech chi'n ymddiried yng ngallu unigolyn i weithredu ei gynllun busnes os nad ydynt yn ddigon call ac yn meddu ar foeseg gwaith i baratoi'n dda ar gyfer eu pitsh?

Ni fydd y pwyntiau hyn yn gwarantu buddsoddiad i chi, ond fe ddylent fod o gymorth fel eich bod yn gallu rhoi eich gorau glas i'r pitsh fyddwch chi'n ei gyflwyno. Mae croeso i chi ddefnyddio'r blog hwn fel templed neu restr wirio i'ch helpu ar eich taith codi arian.

Ond yn yr un modd, os ydych chi am ychwanegu pethau eraill i'ch pitsh, ewch amdani. Nid yw hon yn rhestr gyflawn na di-ben-draw o bell ffordd o'r hyn y mae pob buddsoddwr am ei weld. Ac wedi'r cyfan, mae unigoliaeth ac elfennau unigryw yn nodweddion cyffredin ymysg entrepreneuriaid llwyddiannus.

Be' nesaf?

Eisiau trafod eich menter ymhellach? Ymholwch trwy ddefnyddio ein ffurflen cysylltu â ni.   

 

Cysylltu â ni