£1 miliwn On the Rocks yn y Mwmbwls

Claire-Sullivan
Rheolwr Rhanbarthol
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cynllunio busnes
Twf
Marchnata
On the Rocks

Busnes teuluol trydedd genhedlaeth yn agor bwyty newydd gyda chyllid gan Croeso Cymru a Banc Datblygu Cymru

Mae Ameco Leisure Group, busnes teuluol trydedd genhedlaeth, wedi agor ei fwyty a bar newydd diweddaraf yn y Mwmbwls yn swyddogol.

Gyda golygfeydd panoramig o'r môr, mae On the Rocks yn far a bwyty sy’n cynnig lle i 150 gyda theras bwyta 20 metr o hyd yn edrych dros Fae Abertawe. Mae’r buddsoddiad o £1 miliwn wedi’i ariannu’n rhannol gan fenthyciad o £470,000 gan Fanc Datblygu Cymru a grant o £116,000 gan Croeso Cymru.

Ar agor ar hyn o bryd o ddydd Mercher i ddydd Sul mae On the Rocks wedi'i leoli yn yr hen glwb rhwyfo ac mae'n gweini cynnyrch lleol o ansawdd uchel. Mae’n cyflogi 10 llawn amser a hyd at 40 o bobl rhan amser, a dyma brosiect diweddaraf y brodyr Fred a Bert Bollom sydd hefyd yn berchen ar arcêd difyrion Pier y Mwmbwls a Copperfish and Cafe. Yn gartref i orsaf bad achub yr RNLI, Pier y Mwmbwls yw un o’r ychydig o bieri preifat sydd ar ôl yn y DU ac mae’n cael ei ail ddatblygu yn dilyn tân mawr ym mis Awst 2022.

Fe wnaeth Fred a Bert Bollom gymryd yr awennau ar gyfer Ameco Leisure Group a drosglwyddwyd drosodd gan eu tad yn 2015. Sefydlwyd busnes teuluol y drydedd genhedlaeth i ddechrau gan eu taid yn gynnar yn y 1920au ac mae bellach yn cyflogi hyd at 140 o bobl yn y tymor brig.

Meddai Fred a Bert Bollom : “Nid yw’r ychydig flynyddoedd diweddar wedi bod yn hawdd i’r sector lletygarwch ond rydym yn parhau i ganolbwyntio ar dyfu ein busnes teuluol a buddsoddi yn y gymuned leol gyda lleoliadau cyrchfan o ansawdd uchel sy’n ddeniadol i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. 

“Mae’r cyfuniad o’r benthyciad gan y Banc Datblygu a’r grant gan Croeso Cymru yn golygu ein bod wedi gallu creu rhywbeth arbennig iawn gydag On the Rocks ac rydym wrth ein bodd gyda’r adborth hyd yma. Rydyn ni'n hoffi meddwl y byddai ein taid yn falch o'r hyn rydyn ni wedi'i gyflawni ers cymryd y busnes drosodd gan ein tad dim ond wyth mlynedd yn ôl. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i'n tîm sy'n gweithio mor galed, yn enwedig Bryony Morgans a Hannah Hunter. ”

Bu Clare Sullivan, Rheolwr Rhanbarthol Banc Datblygu Cymru yng Ngorllewin Cymru yn gweithio ar y cytundeb gyda’r Swyddog Buddsoddi, Sally Phillips. Dyma oedd gan y ddwy i’w ddweud: “Mae Pier y Mwmbwls wedi bod yn rhan o Abertawe ers 1898 ac mae’n lleoliad y mae bobl leol ac ymwelwyr yn mwynhau ymweld ag ef. Gydag ardal awyr agored fawr gyda chanopi ôl-dynadwy a golygfeydd o'r cefnfor, mae On the Rocks yn ychwanegiad gwych arall i'r ardal leol ac mae eisoes yn profi i fod yn boblogaidd gyda chwsmeriaid sy'n mwynhau ymweld â'r Pier.

“Mae’r bwyty a’r bar newydd yn cyd-fynd â chymeriad lleol a swyn y Mwmbwls felly rydym wrth ein bodd ein bod wedi gallu gweithio gyda Croeso Cymru i gefnogi’r busnes teuluol hwn sydd wedi hen ennill ei blwyf gyda’r cyllid sydd ei angen i droi eu gweledigaeth yn realiti. ”

Daeth y benthyciad o £470,000 gan Fanc Datblygu Cymru o Gronfa Buddsoddi Twristiaeth Cymru. Wedi’i hariannu’n gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru, mae’r gronfa £50 miliwn yn cynnig benthyciadau rhwng £100,000 a £5 miliwn ar gyfer prosiectau twristiaeth nodedig sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Gall prosiectau gynnwys cynnyrch arloesol o ansawdd uchel, atyniadau pob tywydd, profiadau sy’n canolbwyntio ar ymwelwyr sy’n nodweddiadol Gymreig, prosiectau diwylliannol neu dreftadaeth arloesol, lleoedd anarferol i aros ac atyniadau blaenllaw.