£1.2 miliwn i ariannu pryniant cyfranddalwyr a buddsoddiad yn nhwf arbenigwyr argraffu ym Mhont-y-clun

Scott-Hughes
Uwch Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Twf
Reel Label Solutions

Mae Banc Datblygu Cymru wedi buddsoddi £1.2 miliwn yn y busnes argraffu arbenigol Reel Label Solutions o Bont-y-clun i ariannu ailstrwythuro cyfranddalwyr a darparu cyllid ar gyfer buddsoddiad capex wrth i’r cwmni gychwyn ar raglen o dwf a arweinir gan Jonathan Wright sydd newydd ei benodi’n Rheolwr Gyfarwyddwr.

Sefydlwyd Reel Label Solutions am y tro cyntaf yn 2002 gan y Cyfarwyddwyr sefydlu Jonathan Wright, Paul Prothero a Chris Duffin. Mae’r buddsoddiad o £1.2 miliwn yn gymysgedd o ddyled ac ecwiti gan y Banc Datblygu gyda’r cyn Gyfarwyddwr Gwerthiant Jonathan Wright yn dod yn gyfranddaliwr mwyafrifol a’r Rheolwr Gyfarwyddwr yn dilyn ymadawiad Paul Prothero ac ymadawiad rhannol Chris Duffin.

Fel argraffwyr arbenigol yn y sector fferyllol, cysylltwyd â Reel Label Solutions mewn perthynas â gwerthiant masnach ond roeddent am geisio allbryniant o’r cyfranddalwyr yn lle hynny er mwyn osgoi unrhyw adleoli posibl o Dde Cymru. Wedi’i leoli ar Ystâd Ddiwydiannol Cambrian, mae’r cwmni’n cyflogi 27 ac yn arbenigo mewn labeli digidol o ansawdd uchel, yn enwedig cynhyrchu labeli gludiog digidol yn y tymor byr ac argraffu labeli fflecsograffig.

Esboniodd y Rheolwr Gyfarwyddwr Jonathan Wright: “Mae Chris, Paul a minnau wedi gweithio’n ddiflino dros yr 20 mlynedd diwethaf i adeiladu’r busnes. Mae gennym dîm ffyddlon a gweithgar iawn sydd wedi chwarae rhan arwyddocaol yn ein helpu ni i gyrraedd lle rydyn ni heddiw.

“Rydym bob amser wedi bod yn ymwybodol o'r angen i feddwl mewn termau hirdymor am ein cynllunio ar gyfer olyniaeth. Cawsom gyfle i fwrw ymlaen â gwerthiant masnach ond nid oedd yr un ohonom yn gyfforddus â'r hyn y gallai hyn fod wedi'i olygu i'r tîm. Dyna pam y gwnaethom droi at Fanc Datblygu Cymru – roedden ni eisiau deall ein hopsiynau a gwneud yr hyn oedd yn iawn i ni fel unigolion a’r busnes yn ei gyfanrwydd. Yn eu tro, maen nhw wedi strwythuro bargen gyda chymysgedd o ddyled ac ecwiti sy’n gweithio i’r holl gyfranddalwyr ac yn creu dyfodol cynaliadwy i’r tîm cyfan yma ym Mhont-y-clun.

“Ein ffocws nawr yw cynyddu effeithlonrwydd a datblygu cyfleoedd mewn marchnadoedd presennol a newydd. Mae hyn yn gofyn am fuddsoddiad mewn offer newydd felly mae’r benthyciad gan y Banc Datblygu yn rhoi’r cyfalaf ychwanegol sydd ei angen i ni wrth i ni ganolbwyntio ar dyfu’r busnes dros y blynyddoedd i ddod.”

Cafodd y buddsoddiad gan Fanc Datblygu Cymru ei strwythuro gan Ddirprwy Reolwr y Gronfa Joanna Thomas a'r Swyddog Buddsoddi Scott Hughes. Dywedon nhw: “Mae Jonathan, Chris a Paul wedi adeiladu busnes cadarn a chynaliadwy sydd ar y trywydd iawn i gyflawni trosiant o £3.5 miliwn eleni. Gyda phrofiad heb ei ail yn y diwydiant argraffu pecynnu ac enw da am allu cyflwyno labelu o ansawdd uchel, mae yna gapasiti ar gyfer twf pellach a chreu mwy o swyddi dros y misoedd nesaf.

“Mae llawer o wahanol ffyrdd o gynllunio ar gyfer olyniaeth ac ariannu strategaethau ymadael. Yn yr achos hwn, rydym wedi gallu cadw perchnogaeth o Reel Label Solutions yng Nghymru; helpu Jonathan i gymryd yr awenau a chadw'r busnes yn lleol. Yn bwysig, rydym wedi rhoi lle ychwanegol i’r busnes ar gyfer twf yn y dyfodol drwy eu galluogi i fuddsoddi mewn offer a pheiriannau newydd.”

Gweithredodd Chris Thomas o SME Finance Partners ar ran Reel Label Solutions. Rhoddodd Geldards gyngor i Fanc Datblygu Cymru. Gweithredodd JCP Solicitors ar ran Jonathan Wright a Chris Duffin. Daeth y cyllid ar gyfer y fargen o Gronfa Olyniaeth Rheolaeth Cymru a Chronfa Busnes Cymru.

Ariennir Cronfa Busnes Cymru sy’n werth £204 miliwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru. Mae benthyciadau, cyllid mesanîn, a buddsoddiadau ecwiti ar gael ar gyfer bargeinion rhwng £50,000 a £2 filiwn gyda thelerau’n amrywio o un i saith mlynedd ar gyfer busnesau bach a chanolig (y rhai sydd â llai na 250 o weithwyr) sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, neu sy’n barod i adleoli i Gymru.

Ariennir Cronfa Olyniaeth Rheolaeth Cymru gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Bensiwn Clwyd. Mae'r gronfa £25 miliwn yn darparu buddsoddiadau benthyciad ac ecwiti rhwng £500,000 a £3 miliwn gyda thymhorau'n amrywio o un i saith mlynedd.