£1.475 miliwn i hybu prosiect ynni cymunedol yn Sir Benfro

Nicola-Griffiths
Uwch Swyddog Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
prouts park

Mae Banc Datblygu Cymru wedi cadarnhau benthyciad cyfalaf o £1.475 miliwn i Ynni Cymunedol Sir Benfro (CEP), datblygwyr Tyrbin Gwynt Prouts Park.

Gyda chyfranddaliadau cymunedol yn awr yn agored ar gyfer eu cofrestru, rhagwelir y bydd prosiect Tyrbin Gwynt Prouts Park yn cynhyrchu 900kw o ynni adnewyddadwy. Rhoddwyd caniatâd cynllunio i’r prosiect cymunedol ym mis Medi 2016 a dechreuodd weithredu ym mis Mawrth 2020.

Mae’r cyllid gan Fanc Datblygu Cymru wedi galluogi’r tyrbin gwynt i gael ei adeiladu ar ôl i’r gweithgynhyrchwyr EWT gytuno i ddarparu gwasanaethau cyflenwi a gosod llawn, gostyngiad yng nghost y tyrbin a gostyngiad mewn O&M am bum mlynedd.

Mae budd “cynhyrchwyr dosbarthu lleol” y prosiect yn golygu bod y trydan a gynhyrchir gan y tyrbin yn cael ei gyflenwi i rwydwaith dosbarthu trydan yr ardal leol yn hytrach na chael ei anfon i’r grid cenedlaethol foltedd uchel.

Fel cwmni buddiannau cymunedol, mae CEP yn cael ei arwain gan yr arbenigwr datblygu cynaliadwy Peter Davies sy’n gweithredu fel Cadeirydd. Cyn hynny roedd yn Gomisiynydd Dyfodol Cynaliadwy Llywodraeth Cymru. Ar ôl sicrhau cyfradd tariff cyflenwi trydan o 1.68p/KWh gan Lywodraeth y DU, bydd CEP yn rhannu unrhyw incwm dros ben ar ôl costau gweithredu â grwpiau cymunedol sy’n cefnogi mesurau arbed ynni a phrosiectau ynni adnewyddadwy.

Meddai’r Cadeirydd Peter Davies: “Fel y gwellir yn aml gyda phrosiectau ynni adnewyddadwy, mae wedi cymryd amser i’r prosiect ddwyn ffrwyth ond mae’n cael ei wireddu’n awr diolch i gyllid gwerthfawr gan Fanc Datblygu Cymru a’r gefnogaeth a gafwyd gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru.

“Rydym yn rhoi pwyslais ar wneud yn siŵr bod y gymuned yn gallu elwa ar y prosiect a fydd yn arwain at effaith gymdeithasol llawer ehangach. Byddwn yn ail-fuddsoddi unrhyw warged mewn gosodiadau neu weithgarwch sy’n cynyddu cynaliadwyedd, yn lleihau tlodi tanwydd a defnydd o ynni, yn cynhyrchu ynni adnewyddadwy, neu’n cyfrannu at liniaru neu addasu ar gyfer newid yn yr hinsawdd. Gall hyn gynnwys gwella amwynderau fel plannu coed a gwaith bioamrywiaeth.”

Meddai Nicola Griffith o Fanc Datblygu Cymru: “Mae Llywodraeth Cymru yn bendant o ran ei huchelgais i greu economi gynaliadwy, carbon isel i Gymru. Mae ynni adnewyddadwy’n rhan anhepgor o nod tymor hir y Llywodraeth i leihau allyriadau CO2 ac mae felly’n bwysig ein bod yn gwneud popeth posibl i gynyddu faint o ynni adnewyddadwy sy’n cael ei ddefnyddio yng Nghymru a bod gennym amrywiaeth yn ein cyflenwad ynni.

“Fodd bynnag, mi all cyllid fod yn rhwystr yn aml i brosiectau ynni adnewyddadwy ac felly mae ein buddsoddiad yn Nhyrbin Gwynt Prouts Park yn bwysig iawn. Bydd y prosiect hwn yn cynhyrchu ynni adnewyddadwy mae cymaint o angen amdano a bydd yn cael effaith gymdeithasol drwy gyfrannu at economi gryfach yn lleol, ac yn lleihau tlodi tanwydd a helpu’r hinsawdd.”

Mae tîm ynni Capital Law, sydd wedi dod â chyfreithwyr sy’n arbenigo yn y sector o bob rhan o’r cwmni at ei gilydd, wedi cynghori CEP ar gyflawni’r prosiect ynni glân hwn.

Meddai Leanne O’Brien, a oedd yn arwain tîm Capital: “Fel prosiect ynni cymunedol, mae Prouts yn helpu Cymru’n uniongyrchol i gyrraedd ei photensial i elwa ar ynni sy’n cael ei gynhyrchu’n lleol ac sy’n eiddo i’r gymuned, a Llywodraeth Cymru i gyflawni ei hymrwymiadau o ran ynni adnewyddadwy. Rydym yn falch o gael helpu CEP ar brosiect mor bwysig.

“Roedd angen help ein cyfreithwyr sector ynni sy’n arbenigo mewn adeiladu, eiddo masnachol, a chyllid yn ogystal â’n cyfreithwyr corfforaethol, sy’n helpu i ailstrwythuro strwythurau corfforaethol hanesyddol a throsglwyddo pob contract i endidau sydd newydd eu hymgorffori. Rydym wedi mwynhau gweithio mewn ffordd mor gydweithredol, o fewn y cwmni ac yn allanol. Mae wedi bod yn bleser cydweithio ochr yn ochr â Peter Davies a’i dîm a chriw Banc Datblygu Cymru ar y prosiect cyffrous hwn.”

Ewch i http://www.communityenergypembrokeshire.org/ i gofrestru i gael gwybodaeth am y cyfranddaliadau.