Mae deg busnes cam cynnar cyfoethog mewn technoleg yng Nghymru gam yn nes at ddatblygu eu cynhyrchion a'u gwasanaethau arloesol ar ôl sicrhau buddsoddiad ecwiti gan Fanc Datblygu Cymru.
Sicrhawyd £2.4 miliwn gan ddeg cwmni mewn dim ond deng wythnos ers i'r DU fynd i'r cyfnod llwyrgloi. Ymhlith y rhai sydd wedi elwa mae Armadillo o Abertawe. Bydd y cyllid ecwiti £150,000 yn galluogi’r darparwr deunyddiau datblygedig i fasnacheiddio eu technoleg electroplatio. Mae buddsoddiadau eraill yn cynnwys:
- £625,000 i Reacta Biotech o Sir y Fflint i ddatblygu ymhellach eu teclyn diagnostig ar gyfer alergeddau bwyd.
- £400,000 ar gyfer Gwasanaethau Asedau Digidol yng Nghaerdydd, sy'n ddarparwr gwasanaethau yswiriant i'r sector arian crypto. Yn masnachu fel Coin Cover, bydd y buddsoddiad yn darparu cyfalaf gweithio ac yn cefnogi twf pellach.
- £300,000 ar gyfer Bond Digital Health o Gaerdydd, datblygwr offer ffôn clyfar sy'n cysylltu â dyfeisiau prawf diagnostig llif ochrol, gan alluogi'r cwmni i recriwtio mwy o staff a gweithio tuag at rownd ariannu Cyfres A yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
- £250,000 ar gyfer Ortharize yn Abertawe. Mae Ortharize yn darparu llwyfan archebu teithiau ar Feddalwedd fel Gwasanaeth B2B ar sail gwobrau a bydd yn defnyddio'r buddsoddiad i ariannu gweithrediadau busnes.
- £250,000 ar gyfer Space Forge yng Nghasnewydd i adeiladu cydrannau ar gyfer lloerennau gweithgynhyrchu'r cwmni y gellir eu hailddefnyddio.
- £250,000 ar gyfer Universal Synergistic Holdings. Yn masnachu fel Hybrisan, mae'r cwmni wedi'i leoli yng Nghastell-nedd Port Talbot a bydd yn defnyddio'r buddsoddiad i gynyddu cynhyrchiant ei gynhyrchion gwrth-ficrobaidd.
Ymhlith y cwmnïau eraill a dderbyniodd fuddsoddiad gan Fanc Datblygu Cymru yn ystod y broses llwyrgloi mae Zeal t / a Litelok, gweithgynhyrchwyr cynhyrchion gwrth-ladrad arbenigol, a Journolink, llwyfan Meddalwedd fel Gwasanaeth rhyngweithiol cost isel sy'n galluogi BBaCh, asiantaethau a sefydliadau cymorth busnes i reoli cysylltiadau cyhoeddus cychwynnol ac anfon straeon at newyddiadurwyr, darlledwyr a blogwyr. Cynyddodd Banc Datblygu Cymru hefyd ei gyfranddaliad yn Hexigone Inhibitors, cynhyrchydd deunyddiau datblygedig arall.
Gyda thîm arbenigol a chyllid i gefnogi busnesau technoleg, mae Banc Datblygu Cymru yn un o'r pum buddsoddwr technoleg gorau yn y DU yn ôl Adroddiad Beauhurst.
Dywedodd Simon Thelwall Jones, Cyfarwyddwr Mentrau Technoleg Banc Datblygu Cymru: “Rydym wedi rhoi hwb i’n tîm buddsoddi technoleg eto eleni ac erbyn hyn mae gennym 16 o weithwyr proffesiynol buddsoddi ymroddedig sy'n gwneud buddsoddiadau mewn technoleg. Mae hynny'n adlewyrchiad o'n hymrwymiad i gefnogi busnesau cam cynnar ledled Cymru gyfan. Fel y buddsoddwr mwyaf gweithgar mewn busnesau technoleg-gyfoethog yng Nghymru rydym yma i ddarparu cyfalaf amyneddgar i fusnesau trwy gyllid sbarduno a chyllid ecwiti yn ystod camau diweddarach - yn aml yn buddsoddi yn y busnesau hynny am sawl blwyddyn.
“Mae deg bargen mewn deng wythnos yn dangos awydd parhaus busnesau technoleg ifanc i gael cyllid amserol i gefnogi masnacheiddio a datblygu eu cynhyrchion. O gynhyrchu prototeipiau i dreialon clinigol, rydym yn darparu cyllid ecwiti lle a phryd mae ei angen fwyaf i greu swyddi a datblygu'r genhedlaeth nesaf o fusnesau o'r radd flaenaf sy'n galw Cymru yn gartref iddynt."