£350,000 gan Fanc Datblygu Cymru yn helpu i greu gwyrthiau bach

Andrew-Drummond
Swyddog Buddsoddi
Cynllunio busnes a strategaeth
Twf
Marchnata
The Fertility Home

Mae clinig ffrwythlondeb newydd ar fin agor ym Mhencoed, Pen-y-bont ar Ogwr gan ddod â gobaith i'r rhai sydd ar y llwybr i fod yn rhiant.

Wedi’i ariannu’n rhannol gan fenthyciad o £350,000 gan Fanc Datblygu Cymru, mae The Fertility Home wedi’i sefydlu gan y cefndryd Merve Koca ac Isabelle Beckmann, Uwch Embryolegydd Clinigol gyda MSc mewn Embryoleg Glinigol o Brifysgol Rhydychen. Wedi'i leoli ym Mharc Bocam, mae gan y clinig preifat newydd drwydded gan yr Awdurdod Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg.

Gyda theatr bwrpasol, labordy ac ystafelloedd ymgynghori, bydd gwasanaethau trin ffrwythlondeb yn cynnwys IVF, ICSI, IUI, a rhewi wyau a rhoi ynghyd â chyngor personol ar faeth, aciwbigo, cyfryngu ac ioga. Mae yna 10 aelod o staff gan gynnwys ymarferwyr nyrsio a Chyfarwyddwr Clinigol.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Isabelle Beckman: "Rydym yn deall yr heriau aruthrol y mae unigolion yn eu hwynebu wrth gael mynediad at ofal priodol yn ystod y straen emosiynol a chorfforol o driniaeth ffrwythlondeb. Ein nod yn The Fertility Home yw creu amgylchedd anogol lle mae cleientiaid yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac yn gyfforddus, gan liniaru'r effeithiau cynhenid straen y broses. Mae ein gweledigaeth yn ymestyn y tu hwnt i ragoriaeth wyddonol; rydym yn ymroddedig i gynnig ymagwedd gyfannol sy'n mynd i'r afael â dimensiynau corfforol, emosiynol ac ysbrydol iachâd, gan feithrin llonyddwch a lles.

“Ein nod yw sefydlu clinig sy’n cyfuno technoleg flaengar gydag awyrgylch cynnes a thawel, gan sicrhau bod ein cleientiaid yn teimlo eu bod yn cael gofal yn ystod y daith hollbwysig hon tuag at fod yn rhiant. Mae cefnogaeth y Banc Datblygu a’u hyder yn ein gweledigaeth a’n model busnes wedi wedi ein gyrru ymlaen, gan ganiatáu inni gychwyn ar y daith o greu gwyrthiau bach.”

Mae Andrew Drummond yn Swyddog Buddsoddi gyda'r Banc Datblygu. Meddai: “Mae’r farchnad ffrwythlondeb yn ddiwydiant sy’n tyfu wrth i’r galw am y gwasanaethau hyn barhau i gynyddu. Mae gan Merve ac Isabelle gynnig unigryw sy'n cynnig pecyn cyflawn o gefnogaeth. Gyda thîm profiadol a medrus yn ei le o’r cychwyn cyntaf, maen nhw’n barod i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i bobl leol sydd angen cymorth gyda chyngor a thriniaeth ffrwythlondeb o gyfleusterau hygyrch ychydig oddi ar yr M4 ym Mharc Bocam.”

Daeth y benthyciad ar gyfer The Fertility Clinic o Gronfa Busnes Cymru. Wedi'i hariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru, caeodd y gronfa £216 miliwn ar ddiwedd 2023. Darparodd y gronfa a oedd wedi'i buddsoddi'n llawn fenthyciadau a buddsoddiadau ecwiti rhwng £50,000 a £5 miliwn a chefnogodd fusnesau bach a chanolig yng Nghymru neu sy’n fodlon adleoli i Gymru.