£375,000 i ddatblygu Better Boards

alex
Uwch Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:

Llwyddodd Better Boards sy’n arbenigo mewn gwerthuso’r bwrdd a datblygu’r bwrdd i sicrhau gwerth buddsoddiad ecwiti gwerth £250,000 gan Fanc Datblygu Cymru a £125,000 gan banel o bedwar angel buddsoddi.

Sefydlwyd Better Boards yn 2014 gan Dr Sabine Dembkowski mewn ymateb i reoliadau a gofynion cydymffurfio cynyddol ar gyfer Cyfarwyddwyr Bwrdd.  Ar ôl pum mlynedd o waith ymchwil academaidd ac ymchwil i’r farchnad, mae’r busnes bellach yn defnyddio uwch-feddalwedd er mwyn gallu cynnal gwerthusiadau yn seiliedig ar dystiolaeth o Fyrddau Llywodraethu a Phwyllgorau Gweithredol. Mae ei bortffolio yn ymestyn ar draws FTSE 250 a 100, ac ymysg ei gleientiaid mae Easyjet, National Grid a’r Go-Ahead Group.

Wedi’i leoli yn y Tramshed, sef hyb technoleg Caerdydd, bydd y cyllid gan Fanc Datblygu Cymru a’r angylion buddsoddi yn cyflymu’r broses o greu twf pellach i Better Boards gan alluogi’r busnes i fuddsoddi mewn technoleg a recriwtio ar gyfer swyddogaethau mewnol. 

Mae Prif Weithredwr Better Boards, Dr Sabine Dembkowski yn teimlo’n angerddol am werth y data i gleientiaid Better Boards. Hi yw un o’r ychydig entrepreneuriaid benywaidd sy’n cynrychioli dim ond 1% o gyfanswm y cyfalaf a ddefnyddir ar gyfer cyfalaf menter Prydain.  Meddai: “Mae ein hymchwil, a’n dull gweithredu sy’n seiliedig ar dystiolaeth, yn golygu y gallwn ddarparu adroddiadau pwrpasol i aelodau unigol o’r Bwrdd er mwyn iddynt allu deall yr hyn y gellir ei wneud i gael mwy o effaith yn ystafell y bwrdd.

“Rydym wedi treulio nifer o flynyddoedd yn datblygu rhaglenni cynefino, prosesau gwerthuso ac adolygu byrddau er mwyn gallu cynorthwyo’r aelodau. Mae pob dull a thechneg yn rhan annatod o’r ymchwil ac adolygiadau gan gymheiriaid sy’n golygu bod gennym sylfeini cadarn i fod yn bartner y gellir ymddiried ynddo ac yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer gwerthusiadau, adolygiadau a gwaith datblygu Byrddau.”

“Mae’r Tramshed hefyd yn lleoliad delfrydol i fanteisio ar y cymorth sydd ar gael i fusnesau technolegol sydd ar gamau cynnar yn eu datblygiad yma yng Nghymru. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’n buddsoddwyr er mwyn gallu defnyddio’r blynyddoedd o waith ymchwil a dysgu er budd aelodau’r bwrdd ar draws y sector preifat a’r sector cyhoeddus.”

Ychwanegodd Alex Leigh, Swyddog Buddsoddi Banc Datblygu Cymru: “Mae dulliau llywodraethu corfforaethol da yn hanfodol er mwyn i gwmnïau allu gweithredu’n fwy effeithiol, gwella mynediad at gyfalaf, lliniaru risg a diogelu rhanddeiliaid.  Mae hefyd yn golygu bod cwmnïau yn fwy atebol a thryloyw i fuddsoddwyr; sy’n fwyfwy pwysig o gofio tranc sawl busnes o’r radd flaenaf yn y DU yn ddiweddar.

“Gyda chenhadaeth i greu byrddau gwell a dod â dulliau llywodraethu corfforaethol yn fyw, mae  Better Boards yn elwa ar lwyfan sy’n seiliedig ar dechnoleg yn ogystal ag arbenigedd ac enw da Dr Sabine Dembkowski fel cynghorydd byrddau sy’n adnabyddus yn rhyngwladol. Rydym ni, ynghyd â’n cyd-fuddsoddwyr, yn llwyr gefnogi Sabine, sydd hefyd yn ymrwymedig i feithrin busnesau technolegol a gaiff eu sefydlu yma yng Nghymru.”