£500,000 o fuddsoddiad i helpu perchnogion busnesau bach

Tom-Preene
Rheolwr Gweithredol
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Angylion busnes
Cyllid ecwiti
Twf
Marchnata
Menna

Mae syndicet o 20 o angylion busnes dan arweiniad y prif fuddsoddwr, Simon Bell, wedi buddsoddi £250,000 yn y cynorthwyydd cyllid cyntaf drwy Gen-AI er mwyn helpu busnesau bach. Yn ogystal â’r buddsoddiad ecwiti, cafwyd hefyd arian cyfatebol o £250,000 gan Gronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru, Banc Datblygu Cymru. 

Sefydlwyd Menna.ai ym mis Awst 2023 gan Nick Carlton a Dan Mines, ac mae’n helpu perchnogion busnesau bach i wneud gwell penderfyniadau ariannol drwy gyfuno deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol â data amser real cyfoethog. Yn y gorffennol, roedd Nick yn Brif Swyddog Cynnyrch ar gyfer Confused.com a Coincover, tra roedd Dan yn Brif Swyddog Gwybodaeth ar gyfer Admiral Money ac yn Brif Swyddog Cynnyrch ar gyfer Yolt, y llwyfan bancio agored Ewropeaidd. 

Mae Menna.ai yn cynnig rhagolygon, gwybodaeth, argymhellion clyfar, arbedion a chynigion cyllido. Mae’n rhad ac am ddim ac yn cysylltu â chyfrifon bancio, e-fasnach, EPOS a meddalwedd cyfrifyddu. 

Mae Menna Limited wedi’i leoli ym Mharc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd (SPARK). Bydd y cwmni’n defnyddio’r buddsoddiad ecwiti o £500,000 i gyflymu’r gwaith o ddatblygu’r cynnyrch yn barod ar gyfer y farchnad, gan recriwtio tîm o bump arbenigwr technoleg a pharatoi ar gyfer lansiad llawn ddechrau 2025. Bydd Menna.ai yn cael ei farchnata’n uniongyrchol i gwsmeriaid a thrwy bartneriaethau â darparwyr gwasanaethau ariannol trydydd parti ledled y DU.

Dywedodd Nick Carlton, y Cyd-sylfaenydd: “Rydyn ni’n credu y dylai pob perchennog busnes bach gael mynediad at reolwr cyllid, a dyna pam ein bod wedi creu Menna. Mae 5.5 miliwn o fusnesau bach yn y DU, ond nid oes gan y rhan fwyaf o berchnogion y sgiliau na’r adnoddau sydd eu hangen i redeg eu busnesau’n effeithiol. Y rheswm am yw hyn yw’r ffaith nad oes ganddynt fynediad at gyngor, neu dydyn nhw heb gael hyfforddiant ariannol ffurfiol. 

Ychwanegodd Dan Mines: “Rydyn ni wedi datblygu cynorthwyydd cyllid digidol ar gyfer busnesau bach. Mae Menna yna i helpu perchnogion busnesau bach i wneud gwell penderfyniadau ariannol, megis pa mor fforddiadwy yw recriwtio neu benderfyniadau am gyllid a gwariant cyfalaf. 

“Rydyn ni wedi gweithio’n galed dros y flwyddyn ddiwethaf i sefydlu’r prawf cysyniad, gwreiddio’r busnes yn yr ecosystem leol a bod yn barod i ddenu buddsoddiad. Gyda chymorth cynhenid, mae’r cyllid hwn gan ein buddsoddwyr yn ein galluogi i sicrhau bod Menna yn barod ar gyfer cwsmeriaid ac i fuddsoddi mewn pobl sydd eisiau ymuno â ni ar ein taith wrth i ni dyfu o fusnes newydd yng Nghaerdydd i’r hyn a fydd, gobeithio, yn stori lwyddiant yn y DU sydd wedi’i gwreiddio’n ddwfn yng Nghymru ac sy’n dod â gwerth yn ôl.”

Simon Bell o Rebel Syndicet yw’r prif fuddsoddwr. Dywedodd: “Mae Menna.ai fel cael Cyfarwyddwr Cyllid yn eich poced, sy’n cynnig gwybodaeth glir sy’n cael ei gyrru gan ddata i helpu perchnogion busnes i gadw trefn ar eu cyllid ac i reoli popeth mewn un lle. Fel busnes technoleg a data sy’n falch o’u gwreiddiau Cymreig, ac sydd wedi ymrwymo i aros yng Nghymru, mae’n gynnig deniadol i fuddsoddwyr sydd un ac oll wedi sylweddoli grym ychwanegol yr arian cyfatebol a gafwyd gan Banc Datblygu Cymru.” 

Ychwanegodd Tom Preene, Rheolwr Gweithrediadau Angylion Buddsoddi Cymru: “Unig fasnachwyr a microfusnesau yw asgwrn cefn ein heconomi. Ond, mae cyllid busnesau bach yn rhan o farchnad fyd-eang fawr sydd ddim yn cael ei gwasanaethu’n ddigonol, felly mae gan Menna gyfle arbennig. Gyda thîm profiadol ac uchelgeisiol, dyma fusnes sy’n datblygu’n gyflym yn geffyl blaen yn y diwydiant technoleg ariannol yng Nghymru.”

Mae Cronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru, sy’n werth £8 miliwn, yn rhoi ffynhonnell allweddol o gyllid amgen i fusnesau Cymru drwy annog mwy o fuddsoddiad gweithredol gan angylion. Mae’r gronfa bum mlynedd yn rhoi cefnogaeth i greu syndicetiau a rhwydweithiau angylion ledled Cymru drwy ddarparu benthyciadau ac ecwiti hyd at £250,000 i fuddsoddwyr sy’n chwilio am gyd-fuddsoddiad.