Diweddariad pwysig: mae angen cwblhau pob cais erbyn 9am 18 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darganfod mwy.

Reacta yn arwain datblygiad diagnostig alergedd cnau daear

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
reacta

Mae Reacta Biotech o Lannau Dyfrdwy ar y trywydd iawn i sicrhau Awdurdodiad Marchnad ar gyfer ei gynnyrch diagnostig cnau daear o fewn y ddwy flynedd nesaf fel gweithgaredd byd-eang i drin y cynnydd mewn alergeddau i gnau daear.

Mae Reacta yn disgwyl i gaffaeliad $2.6 biliwn Aimmune gan Nestlé Health Sciences i gyflymu’r galw am ddiagnosteg alergedd bwyd gan fod y busnes biotechnoleg o California eisoes wedi derbyn cymeradwyaeth yr FDA ar gyfer therapi cyntaf o'i fath yn y byd i drin alergeddau cnau daear yn weithredol.

Sefydlwyd Reacta yn 2014 gan y cyd-sylfaenydd a’r Cadeirydd anweithredol yr Athro Ashley Woodcock ac mae bellach yn cael ei arwain gan y mentergarwr gofal iechyd cyfresol Doctor Paul Abrahams fel Prif Weithredwr. Mae'r cwmni'n datblygu technolegau gwyddor bwyd i wella effeithlonrwydd, cywirdeb a diogelwch gwneud diagnosis o alergeddau bwyd trwy gyfrwng ei gynhyrchion Her Bwyd Llafar (HBLl). Ar ôl codi cyllid ecwiti o £1.25 miliwn yn gynnar yn 2020, mae cyllidwyr Reacta yn cynnwys Banc Datblygu Cymru, Moulton Goodies Limited ac Acceleris Capital.

Ar hyn o bryd mae cynnyrch diagnostig alergedd cnau daear cyntaf Reacta yn cael ei ddefnyddio fel diagnostig HBLl safon aur i gefnogi treialon clinigol sy'n cael eu cynnal gan sawl cwmni yn fyd-eang ym maes therapi alergedd bwyd.

Cred Dr Paul Abrahams, Prif Weithredwr Reacta y bydd y cynnyrch yn gwella diagnosis a monitro alergeddau cleifion unigol yn sylweddol a thrwy hynny ganiatáu gweinyddu therapïau wedi'u teilwra. Meddai: “Rydym yn gwneud cynnydd da gyda datblygiad ein cynnyrch diagnostig alergedd cnau daear ac yn disgwyl y bydd caffaeliad Aimmune gan Nestlé Health Sciences yn cynhyrchu mwy o adnoddau ac yn rhoi mwy o sylw i'r farchnad gymharol eginol hon o safbwynt therapiwtig a diagnostig. Rydym yn hyderus y gallwn drosoli'r buddion a ddaw o gymeradwyaeth gref pellach i'r sector gan Nestlé Health Sciences wrth inni barhau i ganolbwyntio ar sicrhau Awdurdodiad Marchnad."

Ychwanegodd Michael Bakewell, Dirprwy Reolwr y Gronfa sy'n rheoli buddsoddiadau mentrau technoleg ym Manc Datblygu Cymru: “Mae alergeddau bwyd wedi dod yn broblem iechyd fyd-eang o bwys sy'n effeithio ar oddeutu 250 miliwn o bobl ledled y byd. Gyda mantais buddsoddiad ecwiti, mae Reacta yn adeiladu enw cryf yn gyflym yn y farchnad ddiagnostig alergedd bwyd fyd-eang. Maent i raddau helaeth ar y trywydd iawn i ddod yn gyflenwr diagnostig her bwyd geneuol safon aur yn y farchnad a gyda'n cefnogaeth barhaus mae ganddyn nhw bob cyfle i gyflawni eu huchelgeisiau twf."