Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Rhowlio ymlaen ar gyflymder gyda benthyciad o £ 55,000 gan y Banc Datblygu

Mal-Green
Cynorthwyydd Portffolio (Micro Fenthyciadau)
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Technoleg busnesau
Ariannu
Marchnata
Fine Rolling Media

Mae asiantaeth cynhyrchu fideo arobryn yn datblygu’n gyflym gyda benthyciad o £ 55,000 gan y Banc Datblygu.

Wedi'i leoli yn Chapel Barns ym Merthyr Mawr, Pen-y-bont ar Ogwr, fe sefydlwyd Fine Rolling Media gan Kristian Kane yn 2016 fel cyfrwng i’w frwdfrydedd dros gynhyrchu cynnwys brand creadigol. Cafodd y cwmni fenthyciad cychwynnol o £25,000 gan y Banc Datblygu yn 2022 i ariannu prynu offer ychwanegol. Mae’r buddsoddiad diweddaraf o £55,000 i gaffael uned ddarlledu symudol a fydd yn galluogi’r tîm i gynyddu cynhyrchiant a lleihau costau gweithredu.

Yn arbenigo mewn rhaglenni dogfen, marchnata cynnwys, a chynnwys fideo a arweinir gan naratif, mae gan Fine Rolling Media sylfaen cleientiaid byd-eang sy'n cynnwys yr A&E Network yn Efrog Newydd, Vodafone, BUPA, Sony ac Alpine F1 Team. Meddai’r Cyfarwyddwr Kristian Kane: “Rydym yn cynhyrchu cynnwys gweledol o ansawdd uchel ar gyfer sylfaen gynyddol o gleientiaid sy’n gwerthfawrogi ein hymrwymiad i naratif cymhellol, delweddau trawiadol ac arloesi busnes.

“Mae cefnogaeth y Banc Datblygu yn golygu ein bod ni wedi gallu buddsoddi yn ein hoffer i wella ac esblygu yr hyn rydym yn gallu ei gynnig yn barhaus. Yn ddiweddar, roeddem yn gallu derbyn prosiect yn India ar ran asiantaeth farchnata. Aeth y fideo ymlaen i ennill tair gwobr fawr yn y Gwobrau Marchnata Cynnwys Rhyngwladol gan guro cystadleuaeth fawr. Helpodd y benthyciad gyda logisteg a lleddfu’r baich ar ein criw ymroddedig gartref. Mae prynu ein huned ddarlledu symudol newydd yn golygu ein bod ni bellach yn gallu arbed amser ac arian drwy uwchlwytho ffilm a danfon cynnwys pan fyddwn allan ar y ffordd. 

Mae Malcolm Green yn Swyddog Portffolio gyda'r Banc Datblygu. Meddai:“ O gynhyrchu ffilm a theledu i animeiddio a cherddoriaeth, mae’r diwydiannau creadigol yng Nghymru yn ffynnu. Mae nifer y busnesau creadigol sydd yma yn parhau i dyfu wrth i Gymru sefydlu ei hun fel canolfan flaenllaw ar gyfer y sector creadigol yn y DU. Mae cwmnïau bach fel Fine Rolling Media mewn sefyllfa dda i fanteisio ar y twf hwn felly rydym yn falch o gefnogi eu datblygiad parhaus.

Daeth y benthyciad ar gyfer Fine Rolling Media o Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru gwerth £500 miliwn. Wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, mae’r Gronfa ar gyfer bargeinion rhwng £25,000 a £10 miliwn. Mae benthyciadau, cyllid mesanîn, a buddsoddiadau ecwiti ar gael i fusnesau Cymru sydd â thelerau o hyd at 15 mlynedd.