Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Signum Health y busnes digidol newydd yn sicrhau buddsoddiad pellach ac yn penodi Cadeirydd newydd

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:

Mae'r busnes newydd Cymreig, Signum Health wedi sicrhau £400,000 pellach mewn cyd-fuddsoddiad ecwiti dan arweiniad Banc Datblygu Cymru, gyda buddsoddiad pellach wedi'i gael gan fuddsoddwyr preifat.

Dyma'r ail rownd o fuddsoddiad y mae'r cwmni wedi'i godi ac mae'n dod â chyfanswm y cyllid ar gyfer y cwmni sy'n seiliedig yng Nghaerffili i £600,000.

Mae Signum Health hefyd wedi penodi'r cyn Brif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG y Coleg Imperial a sefydlydd y Ganolfan Wyddoniaeth Iechyd Academaidd gyntaf yn y DU, yr Athro Stephen Smith FMeddGw, fel ei Gadeirydd.

Mae'r Athro Smith wedi gwasanaethu ar nifer o bwyllgorau ar gyfer sefydliadau megis Cyngor Ymchwil Meddygol y Deyrnas Unedig, Sefydliad Iechyd y Byd, Sefydliadau Iechyd Cenedlaethol (SIyB), y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG), Sefydliad Prydeinig y Galon a'r Wellcome Trust.

Meddai Victoria Norman, Prif Weithredwr Signum Health: "Bydd y cylch buddsoddiad diweddaraf hwn yn ein helpu i symud Signum Health i'r cam nesaf o'i ddatblygiad. Rydym eisoes yn helpu meddygfeydd teuluol ar hyd a lled y DU ac ni allwn aros i weld Signum Health yn cael ei ddefnyddio ym mhob meddygfa yn y wlad.

"Mae cael rhywun sydd â phrofiad yr Athro Smith yn ymuno â ni fel ein Cadeirydd yn gadarnhad pellach fod Signum Health yn arloesol yn y maes hwn ac mae'n wasanaeth sydd ei angen yn fawr ar gyfer y GIG. Rydym wrth ein bodd yn ei groesawu fel rhan o dîm Signum Health.

Dywedodd Dr Philip Barnes, Swyddog Buddsoddi Mentrau Technoleg, Banc Datblygu Cymru: "Mae gan Signum Health dîm rheoli dawnus iawn sydd â chynlluniau cyffrous ar gyfer cynyddu eu busnes iechyd digidol arloesol ar draws sawl sector. Rydym yn falch o barhau i gefnogi'r cwmni twf uchel hwn yn eu hail rownd ariannu ecwiti."

 Wedi'i lansio yn 2016, mae Signum Health yn defnyddio cudd-wybodaeth artiffisial a thechnoleg sy'n seiliedig ar gwmwl i ddarparu gofal a chymorth o bell mewn cymunedau lleol. Mae'r cwmni yn cael ei arwain gan arbenigwr Gofal Sylfaenol ac Iechyd y Cyhoedd Victoria Norman, sydd â phrofiad uniongyrchol o'r heriau sy'n wynebu meddygfeydd meddygon teulu sy'n ceisio diwallu anghenion eu cleifion tra'n wynebu sefyllfa lle mae llai o arian a gostyngiad yn niferoedd y meddygon teulu.

Gydag ymagwedd 'mwy na meddygaeth' tuag at y byd iechyd a gofal cymdeithasol sy'n newid, mae Signum Health wedi datblygu offeryn diagnostig a chyfeirio cymunedol sy'n seiliedig ar gwmwl sy'n integreiddio yn ddiogel gyda systemau TG iechyd a gofal cymdeithasol. Nod craidd cwmni Signum Health yw galluogi cleifion, darparwyr gofal iechyd fel fferyllfeydd, meddygon teulu a gwasanaethau eraill, i weithio'n fwy effeithlon wrth rannu gwybodaeth iechyd mewn ffordd sydd o fudd i bawb.

Esboniodd Victoria Norman: "Gyda diffyg yn nifer y Meddygon Teulu, poblogaeth sy'n heneiddio a chyfyngiadau ariannol cynyddol, mae sefydliadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol dan bwysau difrifol."Rydym wedi nodi y byddai'r sector yn elwa o dechnoleg ddigidol i greu arbedion effeithlonrwydd, arbedion ariannol a gofal gwell yn y pen draw i gleifion. Mae Signum Health yn darparu'r union gefnogaeth hon trwy ei wasanaethau digidol, ochr yn ochr â gwasanaethau traddodiadol ac yn eu hintegreiddio, fel y gall pobl gymryd rheolaeth o'u gofal iechyd, cael mynediad at ofal yn gyflym ac effeithiol, a chaniatáu i'r gweithlu gofal iechyd gael ei ddefnyddio mewn ffordd fwy darbodus."

Mae ymchwil wedi canfod bod mwy na 20% o gleifion sydd gan apwyntiad i weld eu meddyg teulu angen help gan un neu fwy o'r cannoedd o wasanaethau cymunedol lleol, ond mae'n rhaid i wasanaethau gofal sylfaenol ddod o hyd i'r gwasanaeth cywir i'r claf hwnnw. Mae Llwyfan Rhagnodi Cymdeithasol Signum Health yn galluogi Meddygon Teulu a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd eraill i gyfeirio cleifion at wasanaethau anghlinigol ar draws y sector cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector.

Yn ogystal â hynny, mae llwyfan diagnostig Signum Health yn helpu meddygon teulu i gael asesu, treialu a diagnosis o ystod eang o symptomau, gan gynnwys Teledermatoleg. Mae'r gwasanaeth hwn wedi caniatáu cannoedd o gleifion gyda chyflyrau'r croen i gael eu hasesu a'u diagnosio gan Ddermatolegwyr Ymgynghorol o fewn dau ddiwrnod o dderbyn yr atgyfeiriad gan feddyg teulu. Mae hyn yn arbed arian y GIG ac yn darparu sicrwydd a chyfleustra i gleifion.

Mae Signum Health yn cyflogi saith o bobl yn ei ganolfan yng Nghaerffili ac mae'n edrych ymlaen at ehangu ei dîm yn y dyfodol.

Am ragor o wybodaeth, ewch i weld www.signum-health.com.