Sut i greu cyflwyniad gwych

Portrait of Sophie Vellam
Swyddog Ymgyrchoedd
Newidwyd:
colleagues working on pitch deck

Mae cyflwyniad pwrpasol yn offeryn hanfodol wrth godi arian ar gyfer eich busnes sydd newydd ddechrau.

Yn ein hanfod - mae'n gyflwyniad byr lle rydych chi'n darparu trosolwg o'ch cwmni i fuddsoddwyr. Os caiff ei wneud yn dda, bydd yn cipio eu diddordeb, yn sbarduno sgwrs, ac yn eich gosod ar y llwybr iawn i ennill cyllid ariannu ar gyfer eich busnes.

Yn y blog bost hwn, rydyn ni'n cynnig rhai awgrymiadau allweddol ac yn rhoi dadansoddiad o'r wahanol gydrannau mewn cyflwyniad pwrpasol ar gyfer codi arian cyllido, a’ch helpu chi i wneud eich cyflwyniad pwrpasol chi yn un gwych.

 

8 cyngor ar gyfer creu cyflwyniad pwrpasol ar gyfer codi arian cyllido

Nid tasg hawdd yw llunio cyflwyniad pwrpasol ar gyfer codi arian cyllido sy'n gyflwyniad apelgar a bydd angen amser ac ymdrech i'w lunio. Dyma rai awgrymiadau i'ch helpu a chamgymeriadau cyffredin i'w hosgoi.

1. Cadwch bethau’n gryno

Nid codi arian cyllido yw pwrpas cyflwyniad pwrpasol fel y cyfryw - y nod mewn gwirionedd gyda chyflwyniad pwrpasol yw bachu diddordeb buddsoddwr er mwyn sicrhau'r cyfarfod nesaf. Er mwyn hoelio a chadw eu sylw, dylech ddistyllu'r holl wybodaeth angenrheidiol fel ei fod yn gyflwyniad byr, sy'n hawdd ei dreulio. Mae cadw at 10 - 15 sleid yn rheol gyffredinol dda. Bydd angen crynodeb gweithredol neu ar ffurf ‘un-tudalen’ arnoch hefyd i’w anfon at fuddsoddwyr.

Mae buddsoddwyr fel arfer o dan gyfyngiadau amser tynn a byddant yn darllen cannoedd o gyflwyniadau pwrpasol bob blwyddyn, felly byddant yn ei werthfawrogi pe baech yn gallu cyfleu'ch neges mor gryno â phosibl. Cofiwch, trwy ei gyfleu'n dda i'r buddsoddwr, fe fyddwch hefyd yn dangos iddyn' nhw eich bod chi'n gallu ei gyfathrebu'n dda i'ch cwsmeriaid, felly treuliwch amser i'w wneud yn ddeniadol ac yn hawdd ei ddeall.

2. Defnyddiwch ddelweddau gweledol

Gall ffeithluniau, delweddau, graffiau a siartiau gael gwared ar yr angen am baragraffau hir a gallant gyfleu mwy o wybodaeth yn gynt o lawer, felly defnyddiwch y rhain lle bo hynny'n briodol.

3. Meddyliwch am y cyd-destun

Ydych chi'n anfon eich cyflwyniad pwrpasol mewn e-bost oer neu a fyddwch chi'n trin a thrafod y sleidiau yn ystod cyfarfod? Bydd hyn yn pennu'r lefel o fanylion y mae angen i chi eu cynnwys. Os yw buddsoddwr yn ei ddarllen ar ei ben ei hun, yna bydd angen iddo gynnwys ychydig mwy o wybodaeth na phe baech yn rhoi'r cyflwyniad yn bersonol, lle gallwch ddefnyddio mwy o ddelweddau gweledol ac ymhelaethu ar lafar.

4. Peidiwch â defnyddio Word

Mae'n debyg na fydd dogfennau Microsoft Word yn cael eu darllen. Defnyddiwch PowerPoint neu feddalwedd cyflwyno arall i greu eich cyflwyniad pwrpasol.

5. Gwnewch yn siŵr ei fod yn realistig

Yn gyffredinol, bydd buddsoddwyr yn cadw copi o'ch cyflwyniad pwrpasol ac yn cyfeirio'n ôl atynt mewn blynyddoedd i ddod, felly gwnewch yn siŵr bod eich materion ariannol yn realistig ac yn amlwg yn gyraeddadwy.

6. Gwnewch yn siŵr ei fod yn hawdd i’w argraffu

Ceisiwch osgoi defnyddio cefndiroedd lliw solet a gwneud y gorau o'r cyferbyniad testun ar gyfer darllenadwyedd pan fydd yn cael ei argraffu mewn du a gwyn.

7. Cofiwch gynnwys eich manylion cyswllt

Dylech ei gwneud hi'n hawdd i fuddsoddwyr gysylltu â chi os oes ganddyn nhw ddiddordeb.

8. Y sylwedd ac nid yr arddull ddylai gael blaenoriaeth

Oni bai eich bod yn rhoi cyflwyniad pwrpasol i gael buddsoddiad mewn cwmni graffeg, yn gyffredinol nid oes gan fuddsoddwyr ormod o ddiddordeb yn eich galluoedd dylunio. Gall ffontiau ffansi, animeiddiadau, a thempled sy'n rhy brysur dynnu sylw oddi ar y wybodaeth rydych chi'n ei chyflwyno. Dewiswch rywbeth syml a chlir.

Beth ddylai eich cyflwyniad pwrpasol ei gynnwys?

Gall trefn eich sleidiau amrywio yn dibynnu ar sut rydych chi am ddweud eich stori, ond dyma'r meysydd cyffredinol ddylech chi eu cynnwys:

Problem / Poendod

Pa broblem neu boendod mae eich cwmni chi'n ei datrys, pwy sy'n cael profiad o'r broblem honno neu’r poendod hwnnw, a pha mor fawr yw’r broblem? Syniad da yw ysgrifennu'r broblem i lawr a'i graddio ar raddfa o 1-10. Os yw’n llai na 9 allan o 10, gall syrthio i’r categori ‘braf i'w gael’ ac ni fydd yn denu sylw. Dylai hefyd effeithio ar farchnad darged benodol. Os fyddwch chi'n ceisio apelio at bawb o dan haul, mae’n debyg y byddwch yn apelio at neb yn y pendraw, felly mae’n well cael cydran o gwsmeriaid sydd wedi’i diffinio’n glir a mynd i’r afael â’r poendod penodol y maent yn ei hwynebu e.e. Dechreuodd Facebook yn Harvard ac yna fe aeth yn fyd-eang.

Cynnig datrysiad a gwerth

Sut ydych chi'n datrys yr un broblem hon a pham ydych chi yn y sefyllfa orau i'w datrys o'i gymharu â'r datrysiadau / atebion presennol sydd ar y farchnad? Unwaith eto, ceisiwch fod mor benodol â phosibl, a chanolbwyntio ar un datrysiad cadarn yn hytrach na chynnig sawl datrysiad gwannach gwahanol. Cofiwch eich bod yn cystadlu am sylw buddsoddwr, felly ni waeth pa mor gymhleth y gall yr ateb fod, eglurwch ef mor syml, mor gryno ac mor bwerus ag y gallwch.

Y Cynnyrch

Yn y sleid hon dylech fynegi'n glir beth yw eich cynnyrch. Siaradwch lai am nodweddion a mwy am y buddion - sut mae'n gwella bywydau eich cwsmeriaid? Pan fyddwch chi'n adnabod eich cynnyrch fel cefn eich llaw ac yn delio ag o bob dydd, mae'n hawdd anghofio nad oes gan bobl eraill yr un wybodaeth. Gwnewch y wybodaeth hon mor hygyrch a hawdd i’w deall i'r lleygwr â phosib. Gall lluniau, sgrinluniau, a fideos fod yn effeithiol i'r perwyl hwn. Os nad ydych wedi creu eich cynnyrch eto, gallwch ei ffug greu dros dro er mwyn dangos sut olwg fydd arno.

Maint y farchnad

Pa mor fawr yw'r farchnad? A yw'n tyfu neu'n crebachu, a pha mor gyflym? Byddwch yn realistig ynglŷn â maint y cyfle yn y farchnad a soniwch am yr hyn a adwaenir yn aml yn gryno fel TAM, SAM, a SOM <https://blog.hubspot.com/marketing/tam-sam-som> (Cyfanswm y Farchnad y gellir Ymdrin â Hi, y Farchnad sydd Ar Gael, a'r Farchnad Wasanaethadwy a ellir ei Defnyddio). Hefyd, byddwch yn realistig ynglŷn â faint o gyfran o'r farchnad y gallwch ei chipio. Cofiwch, os yw'r farchnad yn fawr, mae'n golygu bod yna lawer o gystadleuwyr felly gallai 1% fod yn anoddach nag yr ydych chi'n feddwl.

Model busnes

Eglurwch sut rydych chi'n gwneud neu'n bwriadu gwneud arian. Beth sy'n gwneud i'ch model busnes weithio a pha ysgogiadau allwch chi eu gweithredu i wella proffidioldeb? Yn fan hyn, gallwch hefyd siarad am sut y byddwch chi'n caffael ac yn cadw cwsmeriaid. Beth yw gwerth oes cwsmer (a adwaenir yn aml yn gryno fel LTV) a chost caffael cwsmer? (a adwaenir yn aml yn gryno fel CAC) Y meincnod a dderbynnir yn gyffredin ar gyfer y gymhareb LTV: CAC yw 3: 1, h.y. dylai gwerth cwsmer fod dair gwaith yn fwy na chost eu caffael.

Cystadleuaeth

Mae gan bob cwmni ryw fath o gystadleuaeth - peidiwch â gwneud y camgymeriad o ddweud nad oes gennych chi ddim cystadleuwyr. Bydd buddsoddwyr eisiau gweld bod gennych ddealltwriaeth drylwyr o'r dirwedd gystadleuol a'ch lle ynddo. Nodwch y cystadleuwyr uniongyrchol ac anuniongyrchol yn eich marchnad a dangoswch eich bod wedi meddwl sut y byddwch yn mynd i'r afael â bygythiadau cystadleuol.

Mantais gystadleuol / a phwynt gwerthu unigryw (a adwaenir yn gryno yn aml fel USP)

Be’ sy'n eich gosod chi ar wahân i'r gystadleuaeth? Pam y bydd cwsmeriaid yn eich dewis chi? Yn ôl Peter Thiel, mentergarwr a Mentrwr Cyfalaf, mae angen i fusnes newydd fod â thechnoleg berchnogol o leiaf 10 gwaith yn well na’r eilydd agosaf er mwyn hoelio sylw. Os ydych chi'n cystadlu yn erbyn chwaraewyr mawr, bydd yn rhaid i chi ddibynnu ar y ffaith eich bod yn llawer gwell oherwydd nid oes gennych chi'r gydnabyddiaeth brand na'r cyfalaf i'w adeiladu eto. Gyda'r sleid hon, ceisiwch ddangos bod eich cynnyrch nid yn unig yn well, ond ei fod yn sylweddol well na'r hyn sy'n bodoli eisoes.

Cynllun marchnata / strategaeth mynd i'r farchnad

Sut ydych chi'n mynd i werthu a hyrwyddo'ch cynnyrch? Sut y byddwch chi'n ymgysylltu â chwsmeriaid targed a'u cael i brynu'ch cynnyrch? Os mai ‘cyfryngau cymdeithasol’ yn unig yw eich ateb, mae’n debyg na chewch eich ariannu. Soniwch am y strategaethau marchnata a gwerthu y byddwch chi'n eu defnyddio nawr ac yn y dyfodol i gynnal y fantais gystadleuol / rhwystr rhag mynediad y buoch chi'n siarad amdano yn y sleid flaenorol.

Timau sefydlu

Dyma un o'r sleidiau pwysicaf yn eich cyflwyniad pwrpasol. A oes gennych y sgiliau a'r profiad i wireddu eich cynllun busnes, neu a fydd yn golygu cost ychwanegol sylweddol i'r busnes ar ffurf ymgynghorwyr?

Bwrdd a chynghorwyr

Yn aml, dyma un o'r ffyrdd mwyaf tan-gyflawn o fynd ati i lenwi bylchau yn y tîm rheoli a gwella safon busnes. Enwch aelodau'ch bwrdd a'ch ymgynghorwyr ac amlinellwch y profiad a ddaw yn eu sgil.

Tyniant a cherrig milltir

Y person gorau i werthuso'ch cynnyrch yw eich cwsmeriaid. Os y gallwch chi ddarparu’r dystiolaeth bod galw am eich cynnyrch, bydd hyn yn rhoi hyder i'r buddsoddwr. A yw'ch cwsmeriaid yn barod i wahanu â'u harian y maen nhw wedi gweithio'n galed i'w gael am eich cynnyrch chi? Ceisiwch gynnwys graff yn fan hyn sy'n dangos sut mae'ch cynnyrch yn cael ei fabwysiadu gan y farchnad, yn hytrach na mynd ati i ddim ond gwneud datganiadau.

Codi arian

Dylai'r sleid hon gwmpasu faint o arian rydych chi'n bwriadu ei godi, am ba bris, a phryd. Faint o redfa arian parod fydd y buddsoddiad yn ei roi i chi? A ydych wedi codi unrhyw arian cyllido hyd yn hyn? A yw buddsoddwyr presennol yn mynd i roi mwy o arian i mewn? Os na, pam lai?

Yr ochr ariannol i bethau

Mae buddsoddwyr yn bobl ariannol ac maen nhw'n cael eu denu tuag at fetrigau a modelau ariannol. Dangoswch iddyn nhw fod gennych afael gadarn ar eich rhifau. Dadansoddwch eich refeniw, eich costau a'ch llif arian cyfredol, a rhowch ragamcanion ariannol realistig ar gyfer y tair i bum mlynedd nesaf. Bydd gan fuddsoddwyr ddiddordeb penodol mewn gwybod pa mor newynog am arian parod yw eich busnes ac i ba raddau y gellir cynyddu graddfa eich model busnes.

 

Mae pob busnes yn wahanol ac felly bydd pob cyflwyniad pwrpasol yn unigryw. Defnyddiwch bob sleid fel cyfle i adrodd eich stori unigol a gwneud argraff. Nid yw ysgrifennu cyflwyniad pwrpasol gwych yn rhywbeth rydych chi'n mynd i allu ei feistroli dros nos. Neilltuwch amser i'w berffeithio a chael cymaint o help ac adborth ag y gallwch, oherwydd fe fydd hyn yn cynyddu eich siawns o lwyddo.

Oes gennych chi gyfarfod â buddsoddwr wedi'i drefnu? Edrychwch ar ein blog bost Pitshio i fuddsoddwyr - beth sydd angen i chi ei wybod.

 

Cyfranwyr:

Alexander Leigh, Uwch Swyddog Buddsoddi

Michael Rees, Swyddog Buddsoddi Cynorthwyol

Be' nesaf?

Am drafod ecwiti ymhellach? Ymholwch trwy ddefnyddio ein ffurflen cysylltu â ni. 
 

Cysylltwch â ni