Twf i gwmni bwyd Hwngaraidd yng Ngheredigion

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
best of hungary

Mae cwmni bwyd a diodydd Hwngaraidd, sy'n cael ei redeg gan deulu, yng Ngheredigion wedi derbyn benthyciad o £20,000 gan Fanc Datblygu Cymru er mwyn eu helpu nhw i dyfu eu busnes a diwallu galw'r cyhoedd am fwyd iach ac organig.

Mae perchnogion y siop fwyd gyfanwerthol 'Best of Hungary' sydd wedi'i lleoli yng Ngheredigion yn fam a mab, sef Monika Gyenes a Zoltan Kopacsi.

 Ar ôl byw yng Nghymru am y 12 mlynedd diwethaf, maent yn dod â bwyd a gwin o safon uchel o berfeddwlad Hwngari yn syth i stepen drws eu cwsmeriaid.

Mae Zoltan Kopacsi, y Rheolwr Gyfarwyddwr, yn gofalu am redeg y busnes o ddydd i ddydd yn ogystal â'r gweithrediadau ar-lein a'r cyfanwerthu.

Manteisiodd ar y cyfleuster llwybr cyflym a mwy y mae'r Banc Datblygu yn ei gynnig i sicrhau'r benthyciad a fydd yn ariannu hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol a hysbysebu digidol, yn ogystal â fan newydd ar gyfer danfon a recriwtio staff ychwanegol.

Mae'r cyfleuster llwybr cyflym a mwy yn wasanaeth newydd gan y Banc Datblygu a gynigir i fusnesau sydd wedi bod yn masnachu am ddwy flynedd neu fwy sydd eisiau benthyca rhwng £10,000 a £25,000. Mae gwneud cais am fenthyciadau yn haws ac mae yna lai o waith papur.

Meddai Zoltan: "Mae'r broses o wneud cais am fenthyciad yn hawdd i'w ddeall ac fe wnaeth Swyddog Buddsoddi'r Banc Datblygu ein helpu ni drwy gydol y broses. Gwerthuswyd ein cais yn gyflym, a chawsom yr arian o fewn pythefnos wedi i ni gyflwyno ein cais.

“Ar gyfer busnes bach, mae’n bwysig symud yn gyflym i fanteisio ar gyfleoedd newydd, felly roedd cael penderfyniad cyflym yn golygu ein bod wedi defnyddio peth o’r arian i ehangu ein hystod o winoedd Hwngaraidd sydd wedi ennill gwobrau rhyngwladol, a hefyd i gynyddu ein stoc wedi i ni gael 22 o Wobrau Blas Gwych ym mis Awst.”

Dywedodd Gaynor Morris, Swyddog Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru: “Mae hon yn enghraifft wych o sut y gall Cronfa Micro Fenthyciadau Cymru helpu i roi hwb i fusnes bach a helpu perchnogion i ymateb yn gyflym i bethau. Rwy'n edrych ymlaen at weld sut mae Best of Hungary yn datblygu, gan ddod â mwy o gynnyrch o safon o Hwngari i Gymru."