Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Unigolion profiadol o’r diwydiant gemau yn sicrhau cefnogaeth angylion ar gyfer arloesedd gemau AI cynhyrchiol; ychwanegu Nick Button-Brown at y Bwrdd

Tom-Preene
Rheolwr Cronfa Angylion Buddsoddi Cymru
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Angylion busnes
Ariannu
Twf
Marchnata
10Six Games

Mae unigolion profiadol o’r diwydiant gemau, Susan a Lee Cummings, wedi sicrhau buddsoddiad chwe ffigur sylweddol gan Angylion Buddsoddi Cymru, PlayCap a The Games Angels ar gyfer 10six Games, eu stiwdio datblygu gemau newydd a fydd yn arwain y genhedlaeth nesaf o hyperbersonoli ac addasu gemau fideo. Cyn rhyddhau gêm gyntaf 10six Games, mae'r cwmni hefyd wedi cyhoeddi penodiad guru’r diwydiant, Nick Button-Brown, fel Cyfarwyddwr y Cwmni. 

Dan arweiniad y prif fuddsoddwr Huw Bishop, mae'r rownd cyn-hadu wedi'i hariannu gan syndicet o 12 angel-fuddsoddwr gan gynnwys aelodau o PlayCap (rhwydwaith angylion byd-eang o fenywod o'r diwydiant gemau sy'n arbenigo mewn buddsoddiadau cam cynnar mewn stiwdios, cwmnïau, a thechnoleg mewn gemau) a The Games Angels (rhwydwaith angylion byd-eang o unigolion profiadol o’r Diwydiant Gemau). Mae Banc Datblygu Cymru wedi darparu arian cyfatebol gan Gronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru sy'n cael ei rhedeg gan Angylion Buddsoddi Cymru. 

Yn flaenorol, sefydlodd Susan a Lee Cummings Tiny Rebel Games, y stiwdio cynhyrchu gemau glodwiw y tu ôl i Doctor Who: Legacy and Infinity ar gyfer dyfeisiau symudol a chyfrifiaduron. Cyd-sefydlodd Susan hefyd 2K Games, gan ddatblygu Bioshock, Borderlands, X-Com, 2K Sports, a Civilization. Mae hi'n Athro Gwadd ym Mhrifysgol De Cymru ynghyd â'i gŵr Lee a weithiodd yn Sony cyn symud i dîm Grand Theft Auto Rockstar Games lle bu’n gynhyrchydd ar GTA: San Andreas a GTA 4, ac yn aelod allweddol o'r tîm ailddylunio ar Bully. Yn fwy diweddar, mae wedi arwain y gwaith dylunio creadigol ar gyfer amrywiaeth o gemau clodwiw gan gynnwys Doctor Who, Star Trek, War of the Worlds, a Wallace & Gromit (dan drwydded). 

Mae Nick Button-Brown wedi gweithio ar draws y diwydiant technoleg a gemau am fwy nag 20 mlynedd, gan gynnwys helpu i dyfu ac ehangu Improbable, a helpu i fynd â Sensible Object trwy werthiant masnach i Niantic.  Ar hyn o bryd mae'n Gadeirydd yn Outright Games, Cadeirydd yn Coherence ac ar y Bwrdd yn Adinmo.  Sefydlodd Nick The Games Angels yn 2021, cymuned o unigolion profiadol o’r diwydiant gemau sy'n buddsoddi mewn busnesau newydd ac yn eu cefnogi.  Mae Nick hefyd ar y Bwrdd yn UKIE (un o gyrff cynrychioliadol diwydiant gemau’r DU) ac OKRE (elusen sy'n hyrwyddo cysylltiadau rhwng ymchwil ac adloniant) yn ogystal ag yn gyrru Funding Quest, rhaglen sy'n helpu cwmnïau gemau’r DU i ddenu buddsoddiad.

Dywedodd Susan Cummings: "Mae cynrychiolaeth mewn gemau fideo yn bwysicach nag erioed, ac mae cyfyngiadau technolegol wedi cyfyngu ar y raddfa addasu y gallai datblygwyr ei chynnig ers amser maith. Gyda'n technoleg berchnogol a'n gêm "YOU VS ZOMBIES" sydd ar ddod, rydyn ni'n chwalu’r rhwystrau hynny - gan greu profiadau cwbl bersonoledig sy'n esblygu'n barhaus i bob chwaraewr. Roedd y lefel hon o addasu allan o’n gafael o'r blaen, ond diolch i ddatblygiadau mewn AI cynhyrchiol, rydyn ni'n gwireddu hyn yma yng Nghymru."

"Mae ein technoleg yn galluogi penderfyniadau dylunio ymreolaethol sy'n cael eu gyrru gan AI, o gyfnodau cychwyn ac uwchraddiadau sy’n seiliedig ar chwaeth y chwaraewr i ddilyniannu chwarae gêm a datblygu stori. Mae'n ddatblygiad hynod gyffrous," meddai Lee Cummings. "Rydyn ni hefyd yn ddiolchgar am gefnogaeth arbenigwr y diwydiant gêmio, Nick Button-Brown, a'n partneriaid cyllido, sy'n rhannu ein gweledigaeth am ddyfodol gêmio personoledig." 

Dywedodd y prif fuddsoddwr, Huw Bishop: "Roedd yn bleser dod â grŵp o angylion at ei gilydd i gefnogi 10six Games, stiwdio datblygu gemau newydd dan arweiniad sylfaenwyr profiadol a sêr y byd gêmio, Susan a Lee Cummings. Mae ganddyn nhw weledigaeth gyffrous unigryw ar gyfer y genhedlaeth nesaf o addasu cymeriad a stori chwaraewyr mewn gemau. Mae eu profiad gyrfaol heb ei ail ac rwy'n edrych ’mlaen at eu cefnogi yn y dyfodol".

Dywedodd Tom Preene o Angylion Buddsoddi Cymru: "Mae hwn yn dîm sydd wedi'i amgylchynu gan rai o'r arbenigwyr blaenllaw yn y diwydiant gemau byd-eang. Maen nhw’n gweithio ar flaen y gad mewn perthynas â thechnoleg ac yn enwog am eu harloesedd a'u creadigrwydd. Mae gêmio’n ddiwydiant twf, ac mae'n gyffrous meddwl beth allai ei olygu i Gymru wrth i fwy o ddatblygwyr ddechrau cydnabod De Cymru fel hyb gêmio."

Darparwyd arian cyfatebol i’r buddsoddiad gan y syndicet o angylion gan Gronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru. Gydag ecwiti a benthyciadau o £25,000 i £250,000, mae'r gronfa £8 miliwn ar gael i syndicadau o fuddsoddwyr sy'n ceisio cyd-fuddsoddi mewn busnesau bach a chanolig (BBaChau) yng Nghymru. Mae syndicadau’n cael eu rheoli gan Fuddsoddwyr Arweiniol sydd wedi'u cymeradwyo ymlaen llaw gan Angylion Buddsoddi Cymru.