Vizolution yn chwifio baner Cymru gyda safle ar Tech Track 100 y Sunday Times

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
top track logo

Mae Vizolution, darparwr technoleg profiad cwsmer sydd wedi'i leoli ym Mhort Talbot, yw'r unig gwmni o Gymru i ymddangos ar y Sunday Times Tech Track 100 blynyddol, tabl cynghrair o'r cwmnïau sy'n tyfu gyflymaf yn y DU.

Gyda chyfartaledd twf gwerthiant o 78% y flwyddyn dros dair blynedd, a chyfanswm gwerthiannau o £10m yn 2018, roedd Vizolution yn 58fed ar y rhestr eleni.

Dywedodd Bill Safran, Prif Weithredwr Vizolution: “Rydym yn falch iawn o ymddangos unwaith eto yn Tech Track 100 y Sunday Times eleni, a hyd yn oed yn fwy balch o fod yn chwifio’r faner dros Gymru. Fe wnaethon ni ymddangos ar y rhestr y llynedd am y tro cyntaf ac rydyn ni wedi tyfu'n sylweddol ers hynny, gan agor swyddfeydd newydd yng Ngogledd America, ennill cleientiaid newydd yn America Ladin, a chroesawu buddsoddwyr o dri o fanciau mwyaf y byd. Rydym yn parhau i arloesi a gwella ein cynnig technoleg CX ac yn cynllunio i barhau â'n hehangiad, felly edrychwn ymlaen at weld lle fyddwn ni ar y rhestr y flwyddyn nesaf.”

Noddir y Tech Track 100 gan Hiscox, Barclays, BDO, BGF a N + 1 Singer, ac fe gaiff ei  lunio gan Fast Track, y cwmni digwyddiadau ymchwil a rhwydweithio sy'n seiliedig yn Rhydychen.

Mae Vizolution yn ymddangos gyda busnesau o bob rhan o Brydain, gan gynnwys y darparwr gwasanaethau bancio digidol Revolut, y datblygwr seiber ddiogelwch Darktrace, a'r darparwr trosglwyddo arian cyfred TransferWise.

Dywedodd Bob Thaker, prif weithredwr Hiscox UK: “Unwaith eto, mae cwmnïau technegol wedi profi beth yw eu hysbryd a'u hasbri wrth iddynt barhau i bweru twf ac arloesedd. Pob parch i'r holl gwmnïau sydd wedi cyrraedd Tech Track 100 eleni.”

Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, cymhwysodd Vizolution hefyd yn ddiweddar ar gyfer y rhestr Twf Cyflym 50, sy'n cydnabod y cwmnïau sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru. Enillodd hefyd y categori ‘Cymhwyso Tech Gorau’ yng Ngwobrau Technoleg Cymru ym mis Mehefin. Yn 2018, enwyd Mr Safran yn un o’r Prif 50 Arweinwyr Busnes Mwyaf Uchelgeisiol.

Er bod pencadlys Vizolution yn Ne Orllewin Cymru ers iddo gael ei sefydlu yn 2013, mae'r cwmni technoleg sydd wedi cynyddu ei raddfa wedi mwynhau twf sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac wedi agor swyddfeydd newydd yn Boston a Toronto er mwyn ymaddasu ar gyfer ei ehangiad yng Ngogledd America.

Mae gan y cwmni hefyd swyddfeydd yn Llundain, Bryste ac, wrth gwrs, ei weithle sydd newydd ei adnewyddu wedi'i ysbrydoli gan Ddyffryn Silicon ym Mhort Talbot.

Yr allwedd i lwyddiant Vizolution hyd yn hyn fu ei dechnoleg CX arobryn a'i agwedd unigryw tuag at brofiad y cwsmer. Gyda thrawsnewid digidol yn uchel ar agendâu nifer cynyddol o gwmnïau, mae llawer yn dewis defnyddio ei dechnoleg CX i annog cwsmeriaid i lawr sianeli hunan wasanaeth cynyddol.

Tra bo' Vizolution yn creu llwyfannau hunan wasanaeth arloesol, mae hefyd yn credu mai'r profiad cwsmer gorau yw un sy'n cyfuno'r gorau o uwch-dechnoleg [digidol] a chyffyrddiad uchel rhyngweithiol [dynol]. Mae ei gyfres ddigidol, felly, yn caniatáu i gwsmeriaid ac asiantau ryngweithio o bell, dros y ffôn neu ar-lein, i rannu, arddangos, cyfnewid, cwblhau, gwirio a llofnodi dogfennau fel pe baent wyneb yn wyneb, ac mae'n gweithio heb ei gwneud yn ofynnol i gwsmeriaid lawr lwytho unrhyw feddalwedd nac apiau.

Trwy helpu mentrau i efelychu rhinweddau rhyngweithio wyneb yn wyneb yn eu sianeli anghysbell, mae Vizolution wedi trawsnewid profiad cwsmeriaid rhai o sefydliadau gwasanaeth ariannol, telathrebu a chwmnïau cyfleustodau mwyaf blaenllaw'r byd yn Ewrop, Gogledd America ac Asia a'r Môr Tawel.