Vizolution yw'r cwmni Cymraeg cyntaf erioed i lwyddo i gael ei gynnwys yn rhaglen twf Future Fifty Tech Nation

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
tech nation logo

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Vizolution.

Dadorchuddiwyd Vizolution, darparwr technoleg profiad cwsmer (CX) ym Mhort Talbot, fel y cwmni Cymreig cyntaf erioed i ymddangos yn rhaglen twf Future Fifty Tech Nation.

Mae'r cwmni, sy'n helpu mentrau i efelychu rhinweddau rhyngweithio wyneb yn wyneb o fewn sianeli anghysbell, yn ymuno â 27 o gwmnïau technoleg Prydeinig cam hwyr eraill yn rhaglen Future Fifty 8.0.

Dywedodd Bill Safran, Prif Weithredwr Vizolution: “Fel cwmni sydd wedi cynyddu ei raddfa sydd wedi cael cryn lwyddiant hyd yn hyn, fe benderfynon ni fynd i mewn i Future Fifty i gyflymu ein hehangiad ac rydym yn falch iawn ein bod wedi cael ein dewis yn y rhaglen dwf eleni. Rydym yn gweithio gyda dros 30 o fentrau byd-eang o'r diwydiannau gwasanaethau ariannol a thelathrebu (gan gynnwys HSBC, Santander ac RBS) ac ar hyn o bryd rydym yn canolbwyntio ar ehangu ein sylfaen cleientiaid. Mae sector technoleg Cymru wedi hen ennill ei blwyf, gydag ecosystem gefnogol iawn, felly rydym yn hynod falch mai ni yw'r cwmni technoleg Cymreig cyntaf erioed i gael eu cynnwys ar y rhestr.”

Sefydlwyd Future Fifty yn 2013 i hyrwyddo a chefnogi busnesau technoleg Prydain wrth iddynt gynyddu eu gweithrediadau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae'r rhaglen yn cefnogi'r cwmnïau i greu swyddi a chyfleoedd ledled y DU ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o fentergarwyr.

Profodd 2019 i fod yn flwyddyn gadarnhaol i gwmnïau technoleg y DU, gyda’r sector technoleg yn tyfu chwe gwaith yn gyflymach nag unrhyw ddiwydiant arall. Mae technoleg ddigidol bellach yn cyflogi 2.9m o bobl yn y DU ac yn cyfrif am 9% o'r gweithlu cenedlaethol.

Dywedodd Gerard Grech, Prif Weithredwr, Tech Nation: “Mewn byd sy’n newid yn gyflym, mae’r DU yn olau disglair i fentergarwyr technoleg, buddsoddwyr a gweithwyr.”

Yn wir, mae'r DU yn gartref i 95 o gwmnïau sydd werth rhwng US$250-$ 800m yn 2019, sy'n sylweddol fwy na chymheiriaid y DU: mae Ffrainc yn gartref i 61 o'r cwmnïau graddfeydd gwerth uchel hyn sydd wedi cynyddu graddfa eu gweithrediadau, mae gan Yr Almaen 46, ac Israel 46. Mae tua 45% o'r cwmniau hyn sydd wedi cynyddu graddfa eu gweithrediadau wedi'u lleoli y tu allan i Lundain, ac mae hynny'n cynnwys Caer, Coventry, Leeds, ac, wrth gwrs, Port Talbot, a dyna lle mae pencadlys Vizolution.

Dywedodd Leanna Davies o Fanc Datblygu Cymru: “Fel buddsoddwyr ecwiti, rydym wedi cefnogi Vizolution ers eu lansio yn 2013. Mae'r busnes yn enghraifft wych o'r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd mentergarwyr a buddsoddwyr yn gweithio gyda'i gilydd i yrru datblygiad cynnyrch a thwf marchnadol. Maen nhw'n ysbrydoliaeth i eraill ac mae'n bleser bod yn rhan o'r tîm.”

Er bod pencadlys Vizolution yn Ne Orllewin Cymru ers ei sefydlu yn 2013, mae'r cwmni technoleg profiad cwsmeriaid wedi mwynhau twf sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac yn 2018 agorodd swyddfeydd newydd yn Toronto i ddarparu ar gyfer ei ehangiad yng Ngogledd America.

Mae gan y cwmni hefyd swyddfeydd yn Llundain, ym Mryste ac, wrth gwrs, ei weithle sydd newydd ei adnewyddu a ysbrydolwyd gan Silicon Valley ym Mhort Talbot.

Yr allwedd i lwyddiant Vizolution hyd yma fu ei dechnoleg CX arobryn a'i agwedd unigryw tuag at brofiad y cwsmer. Gyda thrawsnewid digidol yn uchel ar agendâu nifer cynyddol o gwmnïau, mae llawer yn dewis defnyddio ei dechnoleg CX i annog cwsmeriaid i lawr sianeli hunanwasanaeth cynyddol.

Er bod Vizolution yn creu llwyfannau hunanwasanaeth lluniaidd arloesol, mae hefyd yn credu mai'r profiad cwsmer gorau yw un sy'n cyfuno'r gorau o uwch dechnoleg a chyffyrddiad uchel. Mae ei gyfres ddigidol arloesol yn caniatáu i gwsmeriaid ac asiantau ryngweithio o bell, dros y ffôn neu ar-lein, i rannu, arddangos, cyfnewid, cwblhau, gwirio a llofnodi dogfennau fel pe baent wyneb yn wyneb, ac mae'n gweithio heb ei gwneud yn ofynnol i gwsmeriaid lawr lwytho unrhyw feddalwedd nac apiau.

Trwy helpu mentrau i efelychu rhinweddau rhyngweithio wyneb yn wyneb yn eu sianeli anghysbell, mae Vizolution wedi trawsnewid profiad cwsmeriaid rhai o sefydliadau gwasanaeth ariannol, telathrebu a chwmnïau cyfleustodau mwyaf blaenllaw'r byd yn Ewrop, Gogledd America ac Asia a'r Môr Tawel.