Wagonex yn arwain y ffordd wrth sbarduno'r sector modurol

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
wagonex

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Wagonex.

Mae Cofid-19 wedi bod yn ddinistriol i’r sector modurol, gyda gwerthiant ceir newydd y DU ym mis Ebrill yn gostwng i ffigurau nas gwelwyd er 1946. Dim ond 871 o geir a werthwyd i gwsmeriaid manwerthu yn ystod y mis, a’r 3,500 arall yn mynd i brynwyr fflyd a busnes.

Gydag ystafelloedd arddangos ceir ar gau yn ystod y mis a phobl wedi cael eu cyfyngu i deithio hanfodol yn unig, nid yw'r ffigurau hyn yn syndod o gwbl. Mae'r sector yn gobeithio gweld adferiad cyflym unwaith y bydd ystafelloedd arddangos yn ail agor. Mae yna bryder, serch hynny, gyda dirwasgiad ar y gorwel, y bydd pobl yn amharod i ymrwymo i brynu car, yn union fel yr oeddent ar ôl dirwasgiad 2008.

Fodd bynnag, mae un cwmni meddalwedd o Gaerdydd yn cynnig datrysiad a allai fod yn achubiaeth ar gyfer delwriaethau ceir. Yn lle'r modelau perchnogaeth traddodiadol neu brydlesi tymor hir, mae Wagonex yn darparu gwasanaeth tanysgrifio ceir, gyda hyd y contract yn rhedeg o gyn lleied â mis i hyd at ddwy flynedd.

Gall cwsmeriaid gymryd tanysgrifiad ar-lein, a chael ystod eang o gerbydau ac opsiynau tanysgrifio i ddewis ohonynt. Mae'n wasanaeth hyblyg iawn hefyd, gyda chwsmeriaid yn gallu newid eu ceir a newid hyd eu tanysgrifiad. Mae'r ffi yn cynnwys yswiriant, a danfonir ceir at ddrws y cwsmer.

Geni'r cysyniad

Cafodd cysyniad tanysgrifio Wagonex ei greu cyn y pandemig gan gwmni o feddylwyr ifanc creadigol ac arloesol, a oedd yn cwestiynu pam ei bod yn angenrheidiol ymgymryd ag ymrwymiad ariannol perchnogaeth neu brydles hir i gael car. Ond gallai'r syniad fod yn fwy poblogaidd rwan, gyda chyhoedd sy'n gyrru'n ehangach, yn yr hinsawdd sydd ohoni o ansicrwydd ariannol a nerfusrwydd ynghylch defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Gan gydnabod pryderon pethau fel ag y maen nhw ar hyn o bryd, mae Wagonex yn cynnig ei wasanaeth tanysgrifio ar-lein am ddim i ddelwriaethau a gweithgynhyrchwyr am dri mis, yn y gobaith y bydd yn rhoi hwb i fusnes y sector cythryblus. Gallai hyn nid yn unig ychwanegu dimensiwn arall at y gwasanaethau y mae delwriaethau yn eu darparu, trwy ganiatáu i gwsmeriaid brynu tanysgrifiadau ar-lein ond fe allai hefyd helpu i oresgyn materion yn ymwneud â phellter cymdeithasol.

Mae'n sicr y bydd yr ychydig fisoedd nesaf yn heriol i'r sector modurol. Trwy helpu delwriaethau a gweithgynhyrchwyr ceir i ddarparu gwasanaeth amgen, hyblyg a hawdd ei ddefnyddio i gwsmeriaid, ac un sy'n lleihau eu pryderon ynghylch ymgymryd ag ymrwymiadau ariannol mawr, gallai Wagonex achub eu busnesau.

Dywedodd Toby Kernon, Prif Weithredwr a Sylfaenydd Wagonex:

“Rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio gyda busnesau ledled y wlad a helpu i gael eu cerbydau ar y lôn. Rydyn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu busnesau i godi yn ôl ar eu traed trwy gynnig y gefnogaeth hon."

Dywedodd Nathaniel Cars:

“Mae'r fenter yn hollol wych. Mae cael cynnyrch ychwanegol sy'n eistedd rhwng rhentu a bod yn berchen, ac sy'n cynnig hyblygrwydd llwyr i'n cwsmeriaid, yn union beth mae'r diwydiant wedi bod yn chwilio amdano."