Waterspring Ventures a Banc Datblygu Cymru yn cyhoeddi buddsoddiad yn tourhub

Tom-Preene
Rheolwr Gweithredol
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Ecwiti
Cyllid
Twf

Mae Waterspring Ventures, cwmni cyfalaf menter cam cynnar sydd wedi ennill gwobrau ac sydd wedi’i leoli yng Nghymru, yn cyhoeddi ei fod wedi dewis tourhub  yng Nghaerdydd - llwyfan cydgasglu ar gyfer teithiau drwy brofiad sy’n helpu teithwyr i archebu eu hanturiaethau delfrydol yn hawdd - ar gyfer eu buddsoddiad mawr nesaf.

Mae Waterspring Ventures yn buddsoddi £450,000 yn y busnes, mewn partneriaeth â  Banc Datblygu Cymru sy’n buddsoddi £300,000 o’i Gronfa Sbarduno Technoleg Mewn Busnes a £250,000 gan Gronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru  Fe wnaeth Hugh James, cwmni cyfreithiol lleol yng Nghaerdydd, roi cyngor ar y cytundeb gwerth miliwn o bunnoedd.

Un gyrchfan i archebu anturiaethau aml-ddiwrnod i unrhyw leoliad

Yn hanesyddol, treuliodd teithwyr gryn dipyn o amser yn chwilio am wahanol wefannau i archebu taith gan ddefnyddio sawl cwmni trefnu teithiau er mwyn cael y cynigion gorau. Nawr, mae tourhub yn ei gwneud hi’n hawdd archebu anturiaethau aml-ddiwrnod – gan alluogi teithwyr i gymharu amrywiaeth o opsiynau a phrisiau mewn un lle, sy’n golygu bod mwy o amser yn cael ei dreulio yn mwynhau'r daith yn hytrach nag yn ei threfnu.

Seamus Conlon, Prif Swyddog Gweithredol, tourhub: “Fe wnaethon ni sefydlu tourhub oherwydd roedden ni’n gallu gweld twf teithio drwy brofiad a gwyliau diwylliannol, ond roedd angen dod â’r cyfan i gyd mewn un lle i deithwyr. Rydyn ni’n cynnig popeth arall ar wahân i wyliau pecyn traeth safonol a thraddodiadol. Gyda thua 800 o gyflenwyr byd-eang, rydyn ni’n darparu beth bynnag rydych chi’n breuddwydio amdano – megis gweld mwncïod eira yn Alpau Japan, cerdded o gwmpas 18 o barciau cenedlaethol yn America, neu deithiau beicio ledled Fietnam – mae gennym ni rywbeth ar gyfer pob math o bobl sy’n hoffi antur, beth bynnag yw eich oedran.” 

Creu cymuned weledol 

Gyda chymorth y cynnydd presennol mewn teithio drwy brofiad, mae tourhub yn cynnig gwyliau sy’n addas ar gyfer elfennau gweledol a chynnwys ysbrydoledig, agwedd yr oedd y sylfaenwyr am fanteisio arni.

Mae Conlon yn parhau: “Rydyn ni’n gwybod bod y byd yn defnyddio mwy a mwy o gynnwys cymdeithasol bob dydd, o TikToks, riliau, ffilmiau a straeon byrion. Mae’r ffordd y mae pobl yn chwilio ac yn dod o hyd i wyliau yn newid – nawr maen nhw’n gweld un fideo anhygoel o daith rhywun ac maen nhw eisiau archebu ar unwaith. Felly, roedd hi’n bwysig i ni fanteisio ar hynny. Rydyn ni wedi creu cymuned o bobl sy’n creu cynnwys ac arbenigwyr teithio sy’n arddangos eu hanturiaethau ar-lein ac yn rhannu gwybodaeth fewnol, gan ysbrydoli eraill i archebu’n hyderus.”

Troi amser ymlacio yn gyfle 

Cafodd y busnes ei sefydlu dri mis cyn i bandemig Covid-19 ddechrau, yn sicr roedd yn gyfnod anodd i sefydlu cwmni teithio drwy brofiad – ond gweithiodd tourhub yn galed i fanteisio ar hyn.

Dywed Conlon: “Wrth edrych yn ôl, roedd y ffaith bod y byd teithio wedi dod i stop yn gyfle i ni. Roedd gennym ni'r amser i ganolbwyntio’n llwyr ar adeiladu ein llwyfan technoleg, yn hytrach na’r angen i’w adeiladu a’i redeg ar yr un pryd, er mwyn i ni allu cyfyngu ar yr heriau gweithredol pan wnaethon ni ei lansio. Doedd y trefnwyr teithiau ddim yn brysur chwaith, felly roedden nhw’n llawer mwy agored i sgyrsiau gyda ni ac ymuno â’n llwyfan, gan ein galluogi i ymuno â gweithredwyr blaenllaw o bob cwr o’r byd ar raddfa lawer uwch.

“Roedden ni’n gwthio’r gatiau i fynd yn fyw, ond fe wnaethon ni benderfynu dal yn ôl a gohirio dechrau’r busnes nes bod digon o gyfyngiadau teithio wedi cael eu codi ledled y byd – oherwydd roedden ni eisiau’r gwyliau cyntaf hwnnw a oedd wedi cael ei drefnu i fod y daith antur roedden ni wedi’i haddo. Roedd hyn wedi bodloni ein disgwyliadau ni – a disgwyliadau ein cwsmeriaid.” 

Cyfoeth o brofiad 

Er ei fod yn fusnes newydd, dydy’r uwch dîm rheoli a bwrdd tourhub – sy’n cynnwys Seamus Conlon, Laurence Hicks, Rhodri Evans, Will Waggott a Darran Evans – ddim yn newydd i’r diwydiant teithio. Mae’r tîm wedi bod yn rhan o’r gwaith o greu ac ehangu cwmnïau teithio blaenllaw, gan gynnwys teithiau Wendy Wu, cruise.co.uk, a thechnoleg Tigerbay. Ymunodd Waggott â’r bwrdd fel Cadeirydd yn gynnar eleni, a chyn hynny bu’n Brif Swyddog Gweithredol Travelopia a Phrif Swyddog Ariannol TUI Holidays. Roedd Mr Evans, entrepreneur hynod lwyddiannus sydd â phrofiad yn y sectorau bancio, teithio a hamdden, wedi tyfu a rhyngwladoli Leisure Pass (Go City erbyn hyn) cyn gwerthu’r busnes. 

Dywedodd Sam Huxtable, Sylfaenydd a Phartner Rheoli Waterspring Ventures: “Rydyn ni’n falch iawn o fuddsoddi yn tourhub. Treuliodd y tîm y pandemig yn gosod y sylfeini ar ochr dechnolegol a gweithredol y busnes, gan ddatblygu perthnasoedd presennol a newydd gyda threfnwyr teithiau mawr a bach ledled y byd. Mae nifer o aelodau o'r tîm hefyd wedi arwain, adeiladu a gwerthu busnesau yn y diwydiant teithio o’r blaen. Roedd y profiad ar y cyd hwn yn atyniad cryf i Waterspring Ventures ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda’n gilydd yn y dyfodol.”

Dywedodd Tom Preene, Rheolwr Gweithrediadau i Angylion Buddsoddi Cymru: “Mae gwerth cyfun o £300,000 o Gronfa Sbarduno Technoleg Mewn Busnes Cymru a £250,000 o Gronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru yn dangos sut y gall ein buddsoddiadau gynyddu grym buddsoddi angylion syndicetio a chronfeydd CBMCC/CBM. Mae’r rownd ariannu ddiweddaraf hon yn dyst i’n hymrwymiad i weithio gyda chwmnïau cyffrous fel Waterspring Ventures ac angylion busnes fel Darran Evans fel ein cyd-fuddsoddwyr, gan roi llwyfan i uwchraddio’n fyd-eang o’u canolfan yma yng Nghaerdydd.”

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Gan edrych tua’r dyfodol, mae’r busnes wrthi’n canolbwyntio ar gynefino mwy o drefnwyr teithiau, teithiau ar afonydd a mordeithiau. Mae’n parhau i ddarparu ei dechnoleg a’i gynnwys i asiantaethau teithio a chyhoeddwyr teithio eraill - gan gefnogi The Times, HolidayPirates, Barrhead Travel a 200 o asiantau teithio llai. Ar hyn o bryd daw 60% o’r busnes o UDA a Chanada, gyda chynlluniau ar waith hefyd i'w lansio yn Awstralia erbyn diwedd 2023.