Woodlands House wedi cael ei adfer i'w ogoniant blaenorol ar gyfer preswylwyr newydd gyda chymorth Banc Datblygu Cymru

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
woodlands house

Mae'r preswylwyr cyntaf wedi symud i mewn i Woodlands House sy'n adeilad rhestredig Gradd 11 a adnewyddwyd yn ddiweddar ym Malpas, Casnewydd.

Wedi'i adfywio gan y datblygwyr Powell Property Developments, mae Woodlands House yn adeilad Rhestredig Gradd 11 deulawr sydd wedi'i drawsnewid yn chwe fflat dwy ystafell wely fel rhan o ddatblygiad unigryw sydd hefyd yn cynnwys saith eiddo ar wahân gweithredol mewn cymuned a ddiogelir â gatiau.

Wedi'i leoli ym maestref Malpas ac oddeutu dwy filltir o Ganol Dinas Casnewydd, ariannwyd cam un a dau o ddatblygiad Woodlands House gan Fanc Datblygu Cymru gyda dau fenthyciad gwerth cyfanswm o £1.8 miliwn.

Fel cwsmer i Fanc Datblygu Cymru ers 2015, mae Powell Property Developments yn cael ei redeg gan y mentergarwyr Damien Powell a'i frawd Simon Powell, sydd hefyd wedi buddsoddi yn Comtec Group, Inspire Sport, Inspiretec ac Innovantage.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Simon Powell: “Rydyn ni wedi adfer Woodlands House sy'n adeilad Rhestredig Gradd 11 yng Nghasnewydd yn ôl i gartref i ymfalchïo ynddo. Mae wedi cael ei drawsnewid yn gariadus yn chwe fflat gweithredol mewn cymuned a ddiogelir â gatiau. Profodd i fod yn gynnig deniadol i berchnogion tai newydd gyda phob cartref a fflat wedi'i ddylunio'n gywrain i ddarparu'r cynllun a'r dyluniad mewnol gorau.

“Nid yw hwn wedi bod yn safle hawdd i’w ddatblygu ond gyda chefnogaeth Banc Datblygu Cymru, rydym yn falch iawn o weld y gymuned yn dod yn fyw gyda thrigolion newydd yn symud i mewn ac yn mwynhau’r cartrefi hardd ac ymarferol hyn.”

Dywedodd Stephen Higgins, Swyddog Datblygu Eiddo gyda Banc Datblygu Cymru: “Fel busnes datblygu teuluol, mae Powell Property Developments yn arbenigo mewn datblygu cartrefi newydd ac adfer rhai hŷn i’w gogoniant blaenorol. Rydym yn aml yn ariannu datblygiadau mwy cymhleth fel Woodlands House ac mae bob amser yn werth chweil gweld adeiladau rhestredig yn dod yn ôl yn fyw.

“Mae Simon a Damien wedi cyflwyno datblygiad gwirioneddol hyfryd ac unigryw sydd mewn sefyllfa ddelfrydol. Mae cael gwared ar y tollau ar Bont Hafren a chadernid y farchnad dai yn ystod Covid-19 yn golygu bod galw mawr wedi bod am yr eiddo mawreddog hyn ac rydym yn falch iawn o wybod bod ein cyllid wedi gwneud gwahaniaeth go iawn.”

Rheolir Cronfa Eiddo Cymru gwerth £47 miliwn gan Fanc Datblygu Cymru ar ran Llywodraeth Cymru er budd datblygwyr bach a chanolig eu maint sydd wedi'u lleoli yng Nghymru. Gellir ailgylchu'r gronfa gyda'r holl arian a dderbynnir o fuddsoddiadau yn cael ei ail-fuddsoddi. Mae benthyciadau o £150,000 i £5 miliwn ar gael gyda thelerau ad-dalu o 24 mis neu lai.