Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Y Banc Datblygu yn buddsoddi mewn clinig croen sy’n cael ei redeg gan feddyg

Donna-Strohmeyer
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Ariannu
Marchnata
Dechrau busnes
Regenaderm

Mae Sanvir Singh, meddyg a anwyd yng Nghanada, wedi agor clinig gofal croen ym Mae Caerdydd. Mae’r clinig wedi ei ariannu’n rhannol gan ficro-fenthyciad gan Fanc Datblygu Cymru.

Mae Regenaderm, clinig sy’n cael ei redeg gan feddyg ym Mae Caerdydd, yn arbenigo mewn triniaethau aildyfiant naturiol ar gyfer materion gofal croen, colli gwallt, a heneiddio.  Cafodd y benthyciad ei ddefnyddio i gyfrannu at brynu stoc cychwynnol ac offer ar gyfer y clinig.

Cafodd Doctor Singh ei eni a’i fagu yng Nghanada. Symudodd i Gymru yn 2018 i weithio fel meddyg, ac erbyn mae'n gweithio fel Meddyg Teulu i’r GIG ac yn rhedeg Regenaderm.

Dywedodd Doctor Singh: “Rwy’n credu bod pawb yn haeddu cael gafael ar driniaethau estheteg diogel, o ansawdd uchel, sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Dyna pam fy mod i wedi penderfynu sefydlu fy nghlinig fy hun. Cymru yw fy nghartref erbyn hyn, ac mae cefnogaeth y Banc Datblygu yn rhoi’r cyfle i mi ad-dalu’r bobl sydd wedi gwneud i mi deimlo’n gartrefol yma. Mae rhoi yn ôl yn rhan fawr o’n hathroniaeth, a dyna pam fod y Banc Datblygu’n gweddu’n dda i’r busnes fel partner. Enghraifft o’n hawydd i roi yn ôl yw’r ffaith ein bod ni’n plannu coeden am bob triniaeth, ac yn cynnig pecynnau arbennig ar gyfer pobl draws (cyfuniad o driniaethau laser a llenwadau). Rydym ni hefyd yn cynnig therapi golau coch yn rhad ac am ddim i bobl sy’n cael eu heffeithio gan gemotherapi er mwyn helpu eu gwallt i dyfu’n ei ôl.

“Mae’r Banc Datblygu yn rhoi cyfle i fusnesau Cymreig fel fy un i i ffynnu. Rwy’n ddiolchgar iawn iddyn nhw am ariannu'r fenter, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y dyfodol.”

Mae Donna Strohmeyer yn Swyddog Buddsoddi gyda’r Banc Datblygu. Dywedodd Donna: “Rydym ni’n helpu entrepreneuriaid i ddechrau busnesau o bob math ym mhob rhan o Gymru. Boed nhw’n werthwyr ar y stryd fawr neu’n ymarferwyr meddygol, rydym ni’n cynnig hyd at £100,000 o ficro-fenthyciadau. “Mae gan yr holl fusnesau hyn ddau beth yn gyffredin, sef uchelgais a’r angen am gyllid hygyrch i ariannu costau sefydlu busnes. Hoffem ddymuno pob llwyddiant i Doctor Singh gyda’i fenter newydd.”

Daeth y micro fenthyciad i Regenaderm o Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru, sy’n werth £500 miliwn. Mae’r Gronfa hon ar gyfer cytundebau sy’n werth rhwng £25,000 a £10 miliwn, ac fe’i cyllidir gan Lywodraeth Cymru. Mae benthyciadau, cyllid mesanîn a buddsoddiadau ecwiti ar gael i fusnesau yng Nghymru, am gyfnodau o hyd at 15 mlynedd.