Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Y Banc Datblygu yn cefnogi allbryniant yn y busnes gwasanaethau ariannol Premier Commercial Wealth Management

Sally-Phillips
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Ariannu
Marchnata
Jonathan Williams, Premier; Sally Phillips, Banc Datblygu Cymru; Paul Tracey, Premier

Mae busnes cynghori annibynnol sydd am allbrynu cyfarwyddwr sy’n ymddeol wedi cael cymorth benthyciad o £325,000 gan Fanc Datblygu Cymru, drwy Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru.

Mae Premier Commercial Wealth Management yn fusnes sydd wedi’i awdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (AYA) sy’n darparu cyngor a gwasanaethau ariannol i fusnesau ledled de Cymru ar bensiynau, buddsoddiadau a chynllunio treth.

Fe’i sefydlwyd gan gyn-gydweithwyr HSBC Jonathan Williams, Paul Tracey a Jeremy Reed yn 2012, ac ers hynny mae wedi mynd ymlaen i gynghori busnesau a rheoli arian ar gyfer nifer o ddarparwyr. Gydag ymddeoliad y cyfarwyddwr sy’n ymadael, Jeremy, roedd ei gyd-gyfarwyddwyr yn awyddus i ddod o hyd i ffordd o barhau â'r busnes tra'n caniatáu iddo gamu'n ôl.

Dywedodd Jonathan Williams yn Premier: “Roeddem yn awyddus i edrych ar lwybrau i allbrynu ein cyd-gyfarwyddwr – roedd Jeremy eisiau cynllunio ar gyfer ymddeoliad, tra bod Paul a minnau eisiau parhau â’r busnes. Mae'r benthyciad gan y Banc Datblygu wedi golygu ein bod wedi gallu dilyn yr opsiwn o allbrynu o fewn y busnes, tra'n gwneud hynny mewn ffordd sy'n cyd-fynd â'n cynllunio tymor hwy.

“Rydyn ni’n fusnes hynod annibynnol, ac mae pob un ohonom ni’n gyfarwyddwyr wedi cael gyrfaoedd hir ym myd bancio a chyllid. Gwyddom pa mor anodd y gall fod i gael benthyciad sy'n addas ar gyfer yr hyn sydd ei angen arnoch, heb hefyd o bosibl gyfaddawdu ar eich cynlluniau eich hun.

“Ond roedd y gefnogaeth a gawsom gan Sally yn y Banc Datblygu yn wych – roedd hi o’r radd flaenaf, o’r dechrau i’r diwedd, ac yn ein cefnogi trwy bopeth yr oedd angen i ni ei wneud.”

Dywedodd Sally Phillips, Swyddog Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru: “Roedd yn bleser gweithio gyda Jonathan a’r tîm yn Premier Commercial Wealth Management i wireddu eu cynlluniau wrth i Jeremy edrych ymlaen at ei ymddeoliad. Rydym yn falch o fod wedi darparu cymorth hyblyg wedi'i dargedu iddynt, a dymunwn y gorau iddynt gyda'u twf parhaus.

Wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, mae Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru ar gyfer bargeinion rhwng £25,000 a £10 miliwn. Mae benthyciadau, cyllid mesanîn, a buddsoddiadau ecwiti ar gael i fusnesau Cymru sydd â thelerau o hyd at 15 mlynedd.