Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Y Banc Datblygu yn rhoi cefnogaeth gwerth saith ffigwr i siop goffi boblogaidd

Bethan-Cousins
Cyfarwyddwr Busnes Newydd
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Ariannu
Twf
Marchnata
Coffi Lab

Mae siop goffi sy’n croesawu cŵn ac sydd â siopau yn Ne Cymru a De-orllewin Lloegr yn debygol o dyfu ar ôl derbyn buddsoddiad gwerth £1.7 miliwn gan Fanc Datblygu Cymru mewn cytundeb a gynghorwyd gan gwmni cyllid corfforaethol Grant Thornton. 

Mae gan Coffi Lab bump o siopau yng Nghaerdydd a’r cyffiniau, dwy yn Sir Fynwy, dwy yn Lloegr, a bydd un arall yn agor ym Mryste ym mis Ionawr.  Sefydlwyd y busnes yn 2021 gan y perchennog James Shapland a ddechreuodd y busnes ar ôl treulio 10 mlynedd fel Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Coffee#1 cyn gwerthu’r gadwyn goffi i SA Brains yn 2011. 

Ar ôl gwerthu Coffee#1, roedd James yn awyddus i sefydlu cadwyn newydd o siopau coffi safonol a oedd yn croesawu cŵn a’u perchnogion, yn ogystal â darparu coffi blasus a bwyd da.

Gyda’r gefnogaeth gan Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru, mae James yn bwriadu agor mwy o ganghennau Coffi Lab yn Ne Cymru ac yn Ne-orllewin Lloegr. Mae’n argoeli y bydd y cynlluniau i ehangu yn creu 40 o swyddi newydd dros y 12 i 18 mis nesaf. 

Dywedodd James: “Dechreuais i’r Coffi Lab drwy roi’r pethau sy’n bwysig i mi at ei gilydd. Cefais i fy ysbrydoli gan Dylan, fy Labrador coch, i greu rhywle fyddai’n croesawu cŵn â breichiau agored. Mae ein lleoliadau hardd yn gwbl agored ac yn ganolog i gymunedau. Maent yn rhoi’r cyfle i deulu a ffrindiau ddod at ei gilydd heb orfod gadael eu cŵn gartref.   Rydym ni’n rhoi pwyslais ar greu coffi blasus mewn lle croesawgar a chynnes, gyda bwyd lleol o safon.   

“Rydym ni wedi buddsoddi’n hael yn ein seilwaith er mwyn ein cynorthwyo i dyfu’r busnes yn effeithlon a didrafferth.   Y llynedd, agoron ni ganolfan rhostio coffi a becws, yn ogystal â chegin ganolog sydd wedi ein galluogi ni i ddarparu bwydlenni tymhorol ac i ddatblygu perthnasoedd gyda chynhyrchwyr bwyd ym mhob rhan o Gymru.   Mae ein llwyddiant wedi ein galluogi ni i roi £100,000 i elusen Cŵn Tywys y DU; erbyn hyn rydym ni wedi gallu noddi naw o gŵn tywys bach.”

Ychwanegodd: Byddwn ni’n gwneud y mwyaf o fuddsoddiad Banc Datblygu Cymru er mwyn cyflymu’r broses o ddod â canghennau Coffi Lab i fwy byth o gymunedau yng Nghymru a’r tu hwnt.”

Dywedodd Bethan Cousins, Cyfarwyddwr Buddsoddiadau newydd gyda’r Banc Datblygu: “Mae Coffi Lab wedi mynd o nerth i nerth ac wedi llwyddo i sefydlu brand Cymreig cryf sy’n boblogaidd iawn mewn cymunedau lleol. Roedd profiad, cryfder a thalent y tîm rheoli wedi creu argraff fawr arnom ni ac rydym ni’n falch iawn o gefnogi eu twf gyda’r buddsoddiad ecwiti yma.

Rydym ni’n edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â’r tîm er mwyn cyflymu camau nesaf y busnes wrth iddynt ehangu.”

Dywedodd Jamie Roberts, prif gynghorydd cyllid i Coffi Lab sy’n bartner cyllid corfforaethol yn Grant Thornton: Mae Coffi Lab yn llwyddo i daro tant gyda chwsmeriaid, ac mae twf y busnes hwn yn un o’r pethau mwyaf cyffrous sy’n digwydd yn y diwydiant ar hyn o bryd.  Roeddem ni’n falch iawn o gynghori James, Hannah a gweddill tîm Coffi Lab gyda’r cytundeb hwn.”