Y galw'n llifo am gynnyrch Holyhead Shellfish Ltd yn dilyn cymorth ar ffurf benthyciad cychwynnol gan Fanc Datblygu Cymru

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
holyhead shellfish

Mae galw mawr am yr hyn y mae cyn-filwr y Llynges Frenhinol, Sion Riley yn ei ddal ers iddo lansio Holyhead Shellfish ym mis Gorffennaf eleni.

Cymerodd y dyn 30 oed ofal dros gwch pysgota'r Pan Arctig yr haf hwn wedi iddo gael micro fenthyciad cychwynnol gan Fanc Datblygu Cymru. Dywed nad yw’r galw am fwyd môr o Gymru wedi edwino, er gwaethaf y pandemig: “Mae gweithio ar y môr, pysgota, ac yn fy nghymuned leol wedi bod yn freuddwyd i mi erioed. Ni fyddai unrhyw beth, ddim hyd yn oed pandemig yn fy rhwystro. 'Does 'na yr un her yn ddigon mawr i fy atal rhag gwireddu fy mreuddwydion. Mae fy uchelgais wedi cael ei wobrwyo gan alw mawr gan fwytai a chyfanwerthwyr lleol. Bu’n brofiad anhygoel hyd yn hyn.”

Daeth Sion yn ymwybodol bod cwch, ynghyd â'r hawliau pysgota llawn, yn mynd i fod ar werth. Cysylltodd â pherchennog y cwch ynglŷn â chymryd yr awenau ac yna ymchwilio i ba gefnogaeth oedd ar gael i fusnesau newydd ar Ynys Môn.

“Fe wnes i gysylltu â Môn CF i ganfod beth oedd ar gael i fusnesau newydd ac i gael help i sicrhau'r arian i brynu'r Pan Arctig. Fe wnaeth Alun o Môn CF fy rhoi mewn cysylltiad â Lowri yn Busnes Cymru a Sion ym Manc Datblygu Cymru. Unwaith roedd popeth yn ei le, y cynlluniau y ffeithiau a'r ffigurau, fe ddaeth popeth at ei gilydd yn braf. Rwy'n ddiolchgar iawn i Môn CF a'r Banc Datblygu am eu cefnogaeth yn ystod y cam cychwynnol hwn o'r busnes."

Dywedodd Siôn Wynne, Swyddog Buddsoddi gyda'r Banc Datblygu Cymru: “Roedd gan Sion weledigaeth glir iawn ar gyfer yr hyn yr oedd am ei wneud a dyfodol ei fusnes. Mae'n weithgar ac yn ymroddedig ac mae ganddo brofiad morwrol sylweddol o'i amser gyda'r Llynges Frenhinol. Rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi gallu ei helpu i ddechrau ei fusnes ac rydyn ni'n gyffrous gweld Holyhead Shellfish yn tyfu. Rwyf wedi mwynhau gweithio gyda Sion a Holyhead Shellfish ac edrychaf ymlaen at gefnogi cwmnïau eraill yn yr ardal mewn ffordd debyg.”

Dywedodd Alun Roberts, Rheolwr Cymorth Busnes ym Môn CF: “Rydym ni ym Môn CF, trwy ein prosiect ELAA yng Nghaergybi, yn falch ein bod wedi gallu cefnogi Sion gyda'i nod o ddechrau ei fusnes pysgota ei hun. Mae ymrwymiad Sion i wireddu ei freuddwyd yn drawiadol. Rydym yn falch ein bod wedi gallu ei roi mewn cysylltiad â Siôn yn y Banc Datblygu i'w helpu i roi hwb dechreuol iddo. Rydyn ni'n mwynhau gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill a all gefnogi mentergarwyr lleol, fel Banc Datblygu Cymru a Busnes Cymru. Rydym yn dymuno’n dda i Sion yn ei ymdrechion newydd ac yn annog unrhyw un fel Sion, sydd am ddilyn breuddwyd o ddod yn fos arnyn' nhw eu hunain, i gysylltu â ni.”

Dywedodd Lowri Roberts, Cynghorydd Busnes gyda Busnes Cymru: “Roeddwn yn falch bod Busnes Cymru wedi gallu gweithio’n agos gyda’n partneriaid ym Manc Datblygu Cymru a Môn CF i helpu Sion Riley i gyflawni ei uchelgeisiau a lansio Holyhead Shellfish. Roeddem yn gallu ei helpu i ddatblygu ei gynlluniau busnes a rhagamcanu llif arian ar gyfer y dyfodol. Edrychaf ymlaen at weld Sion yn mynd o nerth i nerth.”

Ychwanegodd Sion: “Mae’r busnes yn ffynnu. Hyd yn oed yng nghanol pandemig mae angen i bobl fwyta o hyd ac mae yna lawer o alw am ein stoc o bysgod cregyn.”