Y rysáit perffaith i ariannu allbryniant gan y rheolwyr i Gwmni Just Love Food

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Danika and Mike Woods from Just Love Foods with Archie the caterpillar cake

Mae'r tad o dri Mike Woods wedi cwblhau allbryniant gan y rheolwyr y cwmni a sefydlodd yn 2009 ar ôl i ddau o'i blant gael diagnosis o alergedd difrifol i gnau.

Un mlynedd ar ddeg yn ddiweddarach, mae Cwmni Just Love Food o Gaerffili yn darparu cacennau di-gnau, fegan, di-glwten a heb laeth i’r archfarchnadoedd mawr; Tesco, Asda, Sainsbury’s, a Morrisons. Ac mae'r cwmni - sydd â throsiant o £3.8 miliwn ac sy'n cyflogi 70 o bobl - wedi lansio cacen lindysyn o'r enw Archie yn ddiweddar sy'n addas ar gyfer feganiaid.

Heddiw, diolch i becyn cyllid benthyciad ac ecwiti gwerth £750,000 a ddarparwyd gan Fanc Datblygu Cymru, mae Mike, 56, wedi gallu prynu cyfranddalwyr presennol a chymryd rheolaeth yn ôl ar ei gwmni, gyda’r Banc Datblygu yn cymryd cyfran ecwiti o 30%.

Mae tri buddsoddwr preifat newydd wedi ymuno â'r Rheolwr Gyfarwyddwr Mike gyda chyfran ecwiti cyfun o 22 y cant. Mae George Adams, Chris Smith a Tom Carroll, yn dod â chyfoeth o brofiad gyda nhw - gyda Smith ac Adams yn Rheolwr Gyfarwyddwr a Chadeirydd Marshfield Bakery yn flaenorol. A Carroll y cyn Brif Swyddog Gweithredol yn Unilever.

George Adams, sy'n gadeirydd Rave Coffee and Banner, busnes gwisg ysgol, fydd cadeirydd y Bwrdd Cyfarwyddwyr. Meddai: “Ein gweledigaeth yw bod y brand cacennau dathlu mwyaf dibynadwy, arloesol a chynhwysol gyda busnes sydd o fudd i’n tîm, ein cwsmeriaid a’r gymuned. Mae mewnwelediad gwreiddiol Mike, a anwyd allan o brofiad personol ynghyd â chefnogaeth Banc Datblygu Cymru, yn golygu bod gennym yr holl gynhwysion sy'n angenrheidiol ar gyfer cam nesaf y daith. Mae'n rysáit ar gyfer llwyddiant.”

Ar ôl y rhwystredigaeth o fethu mynd â chacennau adref i'w deulu ifanc, yn 2009 defnyddiodd Mike ei sgiliau a'i brofiad o weithio yn y diwydiant bwyd i newid pethau - gan gynhyrchu'r cacennau dathlu cyntaf ar silffoedd archfarchnadoedd yn y DU i nodi'n glir eu bod heb gnau yn 2010.

Gan egluro’r ysbrydoliaeth y tu ôl i’w fusnes, dywedodd Mike: “Pan gafodd fy merch Danika ddiagnosis cyntaf o alergedd difrifol i gnau yn bedair oed, roedd yr amseroedd yn wahanol. Roedd yna lawer o anwybodaeth a llai o ymwybyddiaeth am alergeddau, ac roedd yn anodd. Cawsom i gyd ein profi fel teulu, a chwe mis yn ddiweddarach, fe wnaethon ni ddarganfod bod fy mab Rourke wedi cael yr un ymateb.”

“Dros amser, dechreuais dderbyn llythyrau gan rieni ledled y wlad yn gofyn inni gynhyrchu cacennau heb glwten a heb laeth ar gyfer eu plant,” meddai Mike. “Ar ôl gwylio Danika yn cael ei heithrio o bartïon pen-blwydd plant eraill oherwydd ei halergedd i gnau, roedd yn bwysig i mi gynhyrchu mwy o gacennau a oedd yn cynnwys pawb, felly dechreuon ni ychwanegu at ein hystod.”

Mae'r busnes teuluol - gan gynnwys y ferch Danika sy'n gweithio fel Rheolwr Marchnata - nawr yn edrych ymlaen at ddyfodol disglair.

Dywedodd Mike, a gyflwynwyd i’r Banc Datblygu gan Frank Holmes yn Cyllid Corfforaethol Gambit: “Mae cefnogaeth gyfunol Gambit a’r Banc Datblygu wedi bod yn allweddol wrth i ni ganolbwyntio ar ailstrwythuro’r busnes. Mae gennym ddyfodol cyffrous. Mae'r gymysgedd o ecwiti a benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru yn golygu bod gennym gefnogaeth a chwnsler parhaus, yn ogystal â'r cyfalaf gweithio i gyflawni ein gweledigaeth i fod y brand cacennau dathlu mwyaf cynhwysol. ”

Dywedodd Jonathan Scott, Cyfarwyddwr Cyllid Corfforaethol Gambit, a gynghorodd ar godi arian ar gyfer allbrynu gan reolwyr: “Roedd yn bleser gweithio gyda Mike ac rydym yn falch iawn ein bod wedi ei helpu i sicrhau cyllid ar gyfer y fargen fel rhan o gynllun olyniaeth ehangach i’r cyfranddalwyr sy'n gadael. O ystyried angerdd ac egni rhyfeddol Mike dros y busnes, edrychwn ymlaen at weld y busnes yn mynd o nerth i nerth yn y farchnad sy’n tyfu’n gyflym ar gyfer cynhyrchion bwyd sy’n ddi-glwten ac ati.”

Ariennir Cronfa Olyniaeth Rheoli Cymru gwerth £25 miliwn gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Bensiwn Clwyd. Mae benthyciadau a buddsoddiadau ecwiti rhwng £500,000 a £3 miliwn ar gael i dimau rheoli sy'n ceisio bod yn berchen ar eu busnes a'i redeg gyda thelerau'n amrywio rhwng blwyddyn a saith mlynedd.

Cwblhaodd yr Uwch Weithredwr Buddsoddi Steve Galvin a’r Swyddog Gweithredol Buddsoddi Ruby Harcombe y fargen ar gyfer y Banc Datblygu.

Dywedodd Ruby Harcombe: “Mae Cwmni Just Love Food Company yn wneuthurwr arloesol o gynhyrchion dietegol a ffordd o fyw penodol gyda phresenoldeb silff rhagorol gyda’r archfarchnadoedd blaenllaw. Fel datblygwyr cacennau dathlu gyntaf i'r farchnad, maen nhw'n cwrdd â gofynion y defnyddiwr modern ar adeg pan rydyn ni i gyd yn fwyfwy ymwybodol o faeth a byw'n iach.

“Mae gan Mike a’r tîm gynlluniau twf cyffrous iawn y byddwn yn eu hwyluso gyda’r gymysgedd o gyllid yr ydym wedi’i ddarparu o’n Cronfa Olyniaeth Rheoli Cymru. Rydym yn edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â'r tîm a'n cyd-fuddsoddwyr fel arbenigwyr diwydiant. "

Bu Berry Smith yn gweithredu ar ran Cwmni Just Love Food a Blake Morgan ar gyfer Banc Datblygu Cymru.

Be' nesaf?

Cysylltwch â’n tîm buddsoddi penodedig i drafod eich opsiynau cyllid.

Cysylltu â ni