Ydych chi'n gwybod beth yw llif arian eich cwmni?

Tara Lee-Fox
Swyddog Buddsoddi
Newidwyd:
Cynllunio busnes
Cyfrifeg
Twf
Arian

Llif arian; mae'n rhywbeth nad yw llawer o fusnesau yn meddwl amdano'n aml iawn - hyd nes bod angen. Fodd bynnag mae rheoli eich llif arian yn effeithlon yn rhan allweddol o redeg busnes llwyddiannus.

Mae meistroli eich rhagamcaniadau llif arian yn gynnar, nid yn unig yn arfer da, ond gall fod yn strategaeth allweddol wrth helpu chi dyfu eich busnes. Isod, mae ychydig o awgrymiadau i'ch helpu i adnabod beth yw eich anghenion llif arian:

Cynlluniwch o flwyddyn ariannol i flwyddyn ariannol
Mae'r flwyddyn ariannol yn rhedeg o fis Ebrill bob blwyddyn. O fewn hyn, mae terfynau amser allweddol ar gyfer taliadau treth a TAW. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod pryd mae'r rhain a beth sydd angen i chi ei dalu.

Cofnodwch fenthyciadau a grantiau
Os oes gennych chi arian yn dod i mewn o fenthyciadau neu grantiau, mae'n bwysig i chi gofnodi hyn - mae'r rhain yn aml yn symiau mawr. Peidiwch ag anghofio ychwanegu taliadau i mewn i'ch cynllun.

Adnabod allbynnau allweddol
Oes gennych chi staff? Pryd mae'r dyddiad cau cyflogres bob mis? Beth yw eich costau cyflogres? Os ydych chi'n llogi isgontractwyr neu staff dros dro cofiwch ystyried hyn a'i ffactro i mewn.

Sicrhewch eich bod yn cael eich talu
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod faint y dylech fod yn cael eich talu gan gleientiaid, ac erbyn pryd. Anfonebwch yn glir, yn gynnar, ac yn aml. Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych chi'n poeni am daliadau hwyr - mae rhywfaint o arweiniad defnyddiol ar daliadau hwyr ar gael ar gov.uk.

Cadwch daenlen
Mae'r Busness Cymru wedi cynhyrchu templed taenlen ddefnyddiol i fusnesau eu defnyddio. Ychwanegwch eich taliadau i mewn ac allan ar sail mis i fis ar draws y flwyddyn ariannol - bydd hyn wedyn yn cyfrifo eich llif arian. 

Pryderon? Gofyn am gyngor
Os ydych chi o'r farn eich bod wedi gweld twll llif arian - gofynnwch am gyngor. Cynta'n byd y byddwch yn adnabod unrhyw fater, yr hawsaf yw hi i'w ddatrys. Efallai y byddwch yn gallu cael arian cyllido, neu gymryd gwyliau talu - yn enwedig os gallwch ddangos bod gennych lif arian iach drwy gydol gweddill y flwyddyn.

Unwaith y byddwch yn gallu gweld eich llif-arian mae hi'n llawer haws deall sut mae eich busnes yn perfformio a pha feysydd sydd angen sylw. Fodd bynnag, nid yw cael help ychwanegol gyda'ch llif arian yn golygu bod eich sefyllfa ariannol mewn trafferthion.

P'un a ydych yn fusnes tymhorol neu fod eich cleientiaid yn araf yn eich anfonebu chi, mae'n arferol i lif arian busnes amrywio drwy gydol y flwyddyn ariannol. Yn ychwanegol at hynny os ydych yn edrych tuag at fuddsoddi mewn cyfle posibl ar gyfer twf gall rhoi hwb i'ch llif arian roi'r gofod i anadlu sy'n angenrheidiol i'ch busnes. Yn yr achos hwn bydd cael darlun clir o'ch rhagamcanion blynyddol yn gwneud y broses o sicrhau cyllid gan fenthycwyr yn llawer haws.

Felly cofiwch bwysigrwydd rheoli llif arian da. Hwn yw calon ac enaid eich busnes ac fe all roi i chi'r llwyfan rydych ei angen i reoli a datblygu dyfodol eich cwmni yn effeithiol.