Mae’r gefnogaeth gan y Banc Datblygu wedi ein galluogi i gwblhau’r gwaith o osod y siop newydd yn Aberystwyth i safon uchel iawn sy’n adlewyrchu ein huchelgeisiau ar gyfer twf pellach yn y dyfodol.

Dylan Jones, Grwp Dylan Jones

Sut y gallwn ni helpu

Os ydych angen arian parod i:

  • Fanteisio ar gyfle newydd
  • Ymdrin gyda llanw a thrai busnes tymhorol
  • Bidio am neu gyflawni contract mawr

Gallwn ni sicrhrau fod cyfalaf gweithio eich cwmni yn dal i lifo, tra eich bod chwithau yn gallu canolbwyntio ar gyflawni pethau ar ran eich busnes.
 

P'un a ydych chi'n ehangu i farchnadoedd neu'n arallgyfeirio, gallwn ni helpu i gefnogi'ch cynlluniau twf gyda chyllid ar gyfer:

  • Cynhyrchion a gwasanaethau newydd
  • Allforio i farchnadoedd newydd
  • Recriwtio staff newydd

Gallwn ni eich cefnogi gyda benthyciadau a buddsoddiadau ecwiti o £1,000 hyd at £10 miliwn.

Chwilio am fenthyciad neu fuddsoddiad ecwiti er mwyn helpu i'ch busnes cynyddol fodloni'r galw? 

Gallwn ni eich helpu chi i dalu am nifer o dreuliau, gan gynnwys:

  • Prynu stoc
  • Offer Newydd
  • Peirianwaith arbenigol 

Pa bynnag bryniadau hanfodol y mae angen i chi eu gwneud, mae gennym amrywiaeth o opsiynau cyllid addas. 
 

Meddwl am rentu neu brynu'ch eiddo masnachol cyntaf? Angen cyllid ar gyfer gwariant cyfalaf?

Gallai chwistrelliad o arian parod eich helpu i:

  • Dalu rhent yr ychydig fisoedd cyntaf ar siop newydd
  • Ymestyn eich lle presennol mewn swyddfa neu ffatri
  • Brynu eiddo newydd
  • Agor safleoedd newydd ar draws Cymru, y DU, neu dramor

Rydym ni'n cynnig benthyciadau o £1,000 a buddsoddiadau ecwiti o £50,000 - yr holl ffordd hyd at £10 miliwn.
 

Benthyciadau busnes llwybr cyflym

Os ydych wedi bod yn masnachu yng Nghymru ers dros ddwy flynedd, gallwch wneud cais am ein benthyciadau busnes llwybr cyflym:

  • Benthyciadau busnes hyd at £50,000 ar gael
  • Ychydig iawn o wybodaeth sydd ei hangen; nid oes angen cynlluniau busnes yn y rhan fwyaf o achosion
  • Cewch benderfyniad mewn cyn lleied â dau ddiwrnod gwaith

Mae cyfraddau llog yn seiliedig ar amgylchiadau unigol pob busnes ac yn sefydlog am gyfnod y benthyciad.
 

 

Chwilio am chwistrelliad o arian hyd at £50,000?

Byddwn angen gweld:

  • Cynllun busnes cryno
  • Cyfrifon hanesyddol (hyd at ddwy flynedd os ydynt ar gael)
  • Rhagolygon llif arian (un flwyddyn)
  • Gwybodaeth reoli wedi ei diweddaru
  • Datganiadau banc y chwe mis blaenorol (personol os mai busnes newydd ydyw)
  • Datganiad o asedau ac atebolrwydd

Beth os nad oes gen i bob un o’r rhain ar hyn o bryd?

Peidiwch â phoeni. Gallwch naill ai ddechrau eich cais ac arbed eich cynnydd ar gyfer nes ymlaen neu ei gyflwyno ac anfon y dogfennau ategol atom pan fyddwch chi'n barod. 

Mae'r llog wedi'i bennu ar gyfer cyfnod y benthyciadau ac mae'n seiliedig ar amgylchiadau unigol pob busnes.
 

Ydych chi'n fenter gymdeithasol sy'n chwilio am gyllid?

Angen mwy o gyfalaf i gryfhau neu dyfu eich busnes?

Gallwn gynnig:

  • Rhwng £50,000 a £10 miliwn
  • Hyd at £5 miliwn mewn rowndiau dilynol

Byddwn angen gweld:

  • Crynodeb o gynllun busnes
  • Cyfrifon hanesyddol (hyd at ddwy flynedd os ydynt ar gael)
  • Rhagolygon Misol Integredig (dwy flynedd yn cynnwys elw a cholled, llif arian a mantolen)
  • Gwybodaeth reoli wedi ei diweddaru
  • Datganiadau banc y chwe mis blaenorol (personol os mai busnes newydd ydyw)
  • Datganiad o asedau ac atebolrwydd

Be’ os nad oes gennyf rhain i gyd ar hyn o bryd?

Peidiwch â phoeni. Gallwch naill ai ddechrau eich cais ac arbed eich cynnydd ar gyfer nes ymlaen neu ei gyflwyno ac anfon y dogfennau ategol atom pan fyddwch chi'n barod. 

Mae'r llog wedi'i bennu ar gyfer cyfnod y benthyciadau ac mae'n seiliedig ar amgylchiadau unigol pob busnes.
 

Ecwiti i helpu i gyflymu'ch busnes a rhoi hwb i'w werth

Mae yna lawer o fanteision o blaid dewis ecwiti fel opsiwn ariannu:

  • Potensial ar gyfer twf cyflymach
  • Profiad buddsoddwyr a throsglwyddo gwybodaeth
  • Mae’n rhoi hwb i greu gwerth hirdymor
  • Chwistrelliad arian parod heb y ddyled

Fel un o fuddsoddwyr ecwiti mwyaf Cymru fe allwn ni gynnig:

  • Ecwiti rhwng £50,000 a £10 miliwn
  • Cymysgfa unigryw o fenthyciadau ac ecwiti 

Eisiau gwybod mwy am ecwiti?

Ewch i’n tudalen ecwiti ar gyfer twf.

Be' nesaf?

Gwiriwch i weld a yw'ch busnes yn gymwys neu dechreuwch ar eich cais ar-lein nawr.
Y digwyddiadau a'r newyddion dechrau busnes diweddaraf

Gwiriwr cymhwysedd Ymgesisio nawr