Ymlaciwch ac adfywiwch wrth i’r safle glampio moethus diweddaraf yng Nghymru agor ym Mhwllheli

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Mark Barrowman a Jonathan Gooders yn sefyll o flaen eu cytiau bugail ar bontŵn llyn.

Cariad tuag at gelf a natur yw’r ysbrydoliaeth y tu ôl i agor Brook Cottage Shepherd Huts ger Pwllheli.

Mae’r pum cwt bugail traddodiadol, sy’n cynnig profiad glampio moethus, wedi cael eu hadeiladu gan y cyd-berchnogion Jonathan Gooders a Mark Barrow, y ddau ohonynt â chefndir mewn celfyddyd gain, yn dilyn help llaw gan y Banc Datblygu.

Mae micro-fenthyciad o £50,000 wedi galluogi iddynt drawsnewid y safle tair erw, sydd bellach yn cynnwys dau gwt sipsiwn, dau gwt potsiwr ac un cwt bugail. Mae’r cytiau, sydd ar lan y llyn ac sy’n cynnig golygfeydd godidog o fynyddoedd Yr Eifl, yn gabanau ar wahân ac wedi’u gwneud o ddeunyddiau cynaliadwy a ffenestri gwydr dwbl. Maent wedi’u lleoli’n sensitif ac wedi’u hamgylchynu gan blanhigion dringo, coed a gwrychoedd naturiol sy’n cynnig llonyddwch a phreifatrwydd i bob un. 

Wedi’u henwi ar ôl Joan, gwraig Llywelyn Fawr a’u pedair merch Angharad, Susanna, Marared ac Elen, mae gan bob un o’r cytiau moethus ei gymeriad ei hun a thu mewn pwrpasol gydag ystafell gawod breifat, cegin a llosgydd coed.   

Dywedodd Mark Barrow, y cyd-berchennog: “Roedden ni wedi bod eisiau newid ein ffordd o fyw ers tro ac yna ddaru ni syrthio mewn cariad â’r ardal brydferth hon yn ystod taith i Bortmeirion yn 2017. Ddwy flynedd yn ddiweddarach daethom o hyd i’n cartref delfrydol yn Y Ffor, ychydig y tu allan i Bwllheli, ac roeddem yn gwybod bod ganddo’r potensial i fod yn lleoliad gwych ar gyfer glampio moethus gyda thair erw sy'n ffinio â llyn hyfryd a golygfeydd godidog.

“Wrth gwrs, ni allai neb fod wedi rhagweld Covid-19 ond mae un peth yn sicr, rydyn ni i gyd wedi dod i werthfawrogi gwerth gwyliau moethus yn ein gwlad brydferth ein hunain. Yn wir, mae chwilio am brofiadau dilys a chyfleodd i ymgolli’n llwyr mewn diwylliant ac awyrgylch lleol wedi dod yn sbardun i lawer o deithwyr brwd erbyn hyn a dyna pam ein bod yn datblygu amrywiaeth o becynnau pwrpasol ar y cyd ag artistiaid a chrefftwyr lleol. Bydd y gwesteion yn cael gwir flas o’r ardal leol a byddant yn gallu ymlacio, dadflino ac adfywio’n gyfforddus.

Fodd bynnag, fyddai hyn ddim wedi bod yn bosibl heb gymorth y Banc Datblygu. Roedd ganddyn nhw’r weledigaeth i gredu yn ein huchelgais ac erbyn hyn maen nhw’n rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen arnom i greu cyrchfan wyliau unigryw a fydd nid yn unig yn gwella’r ardal, ond hefyd yn atgyfnerthu brand Cymru’n gadarnhaol ac yn dod â buddion hirdymor go iawn i’r economi leol.”

Dywedodd Sion Wynne, Swyddog Buddsoddi gyda’r Banc Datblygu: “Mae galw mawr am lety moethus yng nghefn gwlad gogoneddus Cymru wrth i’n diwydiant twristiaeth a’r sector lletygarwch ehangach adfer ar ôl effaith Covid-19. Mae Mark a Jonathan wedi parhau i ganolbwyntio’n llwyr ar eu gweledigaeth o ddarparu profiad glampio unigryw ac mae’r llety o safon uchel sydd ganddynt i’w gynnig nawr yn creu argraff fawr arnom.”

Mae’r Brook Cottage Shepherd Huts ar gael i’w harchebu yn https://suryglampingwales.co.uk.  Daeth y benthyciad o £50,000 gan y Banc Datblygu o Gronfa Micro-fenthyciad Cymru gwerth £30 miliwn sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae benthyciadau rhwng £1,000 a £50,000 ar gael gyda’r telerau ad-dalu’n amrywio o un i ddeng mlynedd. Gall busnesau bach, unig fasnachwyr a mentrau cymdeithasol yng Nghymru, neu sy’n fodlon symud i Gymru, wneud cais.