Yr hyn y mae'n ei olygu mewn gwirionedd i fod yn barod ar gyfer buddsoddwr

alex
Uwch Swyddog Buddsoddi
Newidwyd:
Angylion busnes
Ecwiti
Mentrau tech
Investor ready checklist

Syniad busnes gwych? Oes. Cardiau cyflwyno sgleiniog? Oes. Cyfarfod â buddsoddwr? Oes. Efallai eich bod chi'n gofyn i chi eich hun, be’ nesaf? ... Cwestiwn da iawn.

Yr holl entrepeneuriaid a gefnogir gan gyfalaf menter yn dweud wrthych fod codi arian yn golygu eich bod yn gorfod dysgu llawer mewn cyfnod byr o amser, dyfalbarhad a llawer o waith. Yn anffodus mae'n rhywbeth sy’n tynnu sylw oddi ar fusnes yn sylweddol a gall gymryd eich bywyd drosodd am y rhan orau o chwe mis. Mae bod yn barod yn feddyliol ac yn weinyddol yn allweddol i lwyddiant.

Ar ôl siarad â nifer o entrepreneuriaid rydyn ni wedi eu cefnogi’n ddiweddar, yn ein barn ni, dyma beth sydd angen i chi ei wybod - wedi’i rannu’n wahanol themâu.

 

1. Paratowch eich Hun yn Feddyliol

 

1.1 Siaradwch â’r person pwysig yn eich bywyd neu â phartner busnes

Does dim amheuaeth, bydd eich bywyd personol yn cael ei effeithio. Bydd mwy o waith na’ sydd o amser felly efallai y bydd yn rhaid i chi godi gyda'r wawr neu oleuo cannwyll gyda'r nos i wneud y cyfan. Bydd rhai llwybrau yn arwain i nunlle ac mae hynny’n debygol o fod yn rhwystredig iawn. Bydd yn cael effaith yn feddyliol ac yn emosiynol arnoch, felly mae angen cefnogaeth gref gartref arnoch.

 

1.2 Byddwch yn barod i rannu eich ecwiti a llacio rhywfaint ar eich rheolaeth

Mae buddsoddwyr yn cefnogi timau, nid unigolion. Os nad oes gennych dîm eisoes, bydd angen i chi roi cydgyfraniad opsiynol o 20%+. Bydd yr ecwiti hwnnw'n dod gennych chi felly bydd eich 100% chi yn newid i 80% yn gyflym.

Pan fyddwch yn creu cylch cyllido, mae'n debygol y byddwch yn colli 30%. Felly bydd 30% o'ch cyfran ecwiti 80% yn mynd â chi i lawr i 56%. Gall hyn ymddangos ychydig yn anneniadol ond mae angen i chi ofyn i chi'ch hun pa un sy'n fwy - 100% o forgrugyn neu 56% o eliffant?

Cofiwch, rydych chi'n gwerthu ecwiti y mae buddsoddwyr yn ei brynu gydag arian parod.Cyfnewid gwerth yn deg, gyda’r prynwr yn cael cronfeydd ecwiti. Ceisiwch beidio â dweud “rydym yn cynnig x swm o ecwiti,” gan fod hynny'n aml yn rhoi'r neges anghywir.

Bydd buddsoddwyr sefydliadol bron bob amser yn cymryd hawliau cydsyniadol dros eich busnes. Beth mae hyn yn ei olygu? Mae'n golygu eu bod nhw eisiau gallu eich atal rhag gwneud pethau a allai erydu gwerth cyfranddalwyr, megis prynu Ferrari ar gerdyn credyd y cwmni... Os ydych chi eisiau buddsoddiad allanol, bydd angen i chi fod yn gyffyrddus â pheidio â bod yr unig un sy'n gwneud penderfyniadau. Er mwyn ei roi yn ei gyd-destun, cofiwch mai'r diwrnod rydych chi'n derbyn buddsoddiad yw'r diwrnod rydych chi'n cytuno i werthu'ch busnes, felly mae’n rhaid i chi geisio â bod yn rhy feddiangar dros yr ased rydych chi'n ei werthu.

 

1.3 Dewch o hyd i gyd-sylfaenydd

Mae cyd-sylfaenwyr yn wych am amryw o resymau. Yn ystod y cam hwn, fe fydda’ nhw wirioneddol yn lleddfu'r pwysau. Fel y soniwyd, bydd codi arian yn llyncu y rhan fwyaf o'ch amser, felly pwy fydd yn rhedeg y busnes yn y cyfamser?

Ble allwch chi ddod o hyd i gyd-sylfaenydd? Mae'n debyg nad yw'n syniad da edrych trwy'ch sgyrsiau WhatsApp diweddaraf a dewis y ffrind anghyflogedig cyntaf ar y rhestr. Os aiff y busnes i'r wal, ‘dydych chi ddim eisiau colli'ch ffrindiau a'ch busnes. Ewch i ddigwyddiadau ar gyfer busnesau sy'n dechrau o'r newydd, dewch o hyd i entrepreneuriaid o'r un anian sy'n dod ag angerdd, gweledigaeth a set o sgiliau ategol. Yn ôl pob tebyg, mae eich ffrindiau yn debyg iawn i chi. Dewch o hyd i rywun a fydd yn herio'ch ffordd o feddwl. Mae bod yn wahanol yn beth da. Gallwch ganfod cyd-sylfaenwyr posibl mewn digwyddiadau rhwydweithio, cynadleddau, yn eich gweithle neu hyd yn oed ar-lein.

 

1.4 Deallwch beth rydych chi ei eisiau gan ddarpar fuddsoddwr

Nid yw pob buddsoddwr yn cael eu creu yn gyfartal. Mae rhai yn dod ag arian, mae rhai yn dod â gwybodaeth, arian a chysylltiadau, ac mae llawer yn dweud eu bod yn dod â phopeth ond yn aml tydi nhw ddim. Mae angen i chi feddwl am yr union beth rydych chi ei eisiau. Faint o gyfalaf gan faint o fuddsoddwyr unigol? Ydych chi eu heisiau ar eich Bwrdd? Pa mor weithredol ydych chi am iddyn nhw fod? Ydych chi'n chwilio am fuddsoddwyr sector-benodol sydd â chysylltiadau diwydiant?

Mae'r broses uchod yn ddefnyddiol ar gyfer targedu buddsoddwyr. Mae yna sylfaen fawr o fuddsoddwyr yn bodoli ac ni allwch fyth gysylltu â phawb felly canolbwyntiwch eich ymdrechion ar y rhai sy’n meddu ar yr hyn rydych chi ei angen. Mae pob math o fuddsoddwyr i ddewis o’u plith, gan gynnwys buddsoddwyr personol, angylion sy’n buddsoddi, cyfalafwyr menter, buddsoddwyr corfforaethol, banciau/sefydliadau ariannol, a deoryddion/sbardunwyr.

 

2. Logisteg

 

2.1 Cadwch ddyddiadau’n glir yn eich dyddiadur

Byddwch yn cwrdd â llawer o bobl mewn gwahanol rannau o'r wlad. Os yw buddsoddwr yn ‘boeth’ ac yn barod i wasgu’r botwm, y peth olaf rydych chi am ei wneud yw oedi a mentro y bydda’ nhw yn cerdded i ffwrdd.

Mae codi arian, yn llythrennol, yn swydd amser llawn ac yn debyg i swydd Ymgynghorydd Rheoli o ran dewis gyrfa. Mae'r rhan fwyaf o bobl rydyn ni'n siarad â nhw yn dweud mai dyma'r adeg y maen nhw wedi gweithio galetaf erioed. Mae'n syniad da ei wneud mor hawdd â phosibl drwy gael gwared ar yr holl bethau eraill a all dynnu eich sylw.

 

2.2 Cynlluniwch ar gyfer ymadael

Y foment fawr ‘rydych chi wedi bod yn aros amdani. Rhoi’r gorau i’ch gwaith dyddiol a dod gam yn nes at fod yn fos ar eich hun. Pan mae buddsoddwyr yn buddsoddi arian mewn busnes, maen nhw'n dod yn bartneriaid i chi. Byddant yn eich priodi â'r busnes ar ffurf Cytundeb Gwasanaeth sydd yn ei hanfod yn dweud y byddwch yn neilltuo'ch holl amser i sicrhau bod eich menter gychwynnol yn llwyddiant. Felly yn (an)ffodus, bydd yn rhaid i chi roi’r newyddion drwg i'ch cyflogwr presennol. Amseriad yw popeth felly gwnewch yn siŵr bod gennych chi strategaeth ymadael gadarn i sicrhau nad ydych chi'n rhoi gormod o faich ariannol arnoch chi'ch hun.

Cofiwch fod CVs hyd yn oed yn bwysig i gyfalaf menter ac fel arfer maent yn ffurfio darn allweddol o ddiwydrwydd dyladwy rheoli. Felly gwnewch yn siŵr ei fod wedi’i ddiweddaru ac yn gyfredol a'ch bod chi'n deg gyda’ch cyflogwyr.

 

3. Eitemau Masnachol (pethau y gallwch chi eu gwneud eich hun)

 

3.1 Cofrestrwch eich busnes

Dyma ni, dyma fel mae pethau go iawn. Mae'n bryd i chi edrych fel y cwmni yr ydych chi o ddifri. Cofrestrwch y busnes gyda Thŷ'r Cwmnïau a sefydlwch eich hun fel cyfarwyddwr. Cofiwch, mae gan gyfarwyddwyr gyfrifoldebau ymddiriedol felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw llechen lân ac yn dilyn y gyfraith. Dyma chi yn fos ar eich hun, yn swyddogol.

 

3.2 Sicrhewch ddesg / swyddfa gofrestredig

Mae'n debyg nad ydych chi eisiau i'ch cyfeiriad cartref gael ei hysbysebu ar draws gwefan Tŷ'r Cwmnïau i'r byd gael ei weld felly mae'n werth defnyddio swyddfa â'r holl wasanaethau. Byddai cyfeiriad ardal fusnes ganolog (AFG) hefyd yn nodi eich bod yn gwmni dilys. Mae yna amrywiaeth o asiantaethau ar-lein a fyddai'n eich helpu i sefydlu hyn am gost bach iawn.

Ar bob cyfrif, cadwch gostau yn isel a gweithiwch yn eich ystafell wely am y tro ond unwaith y byddwch chi'n derbyn buddsoddiad, bydd eich buddsoddwyr eisiau dod i ymweld â chi felly mae'n werth cael desg mewn hwb cydweithredol neu hwb deor. Hefyd, fel rheol nid yw gweithio ar eich pen eich hun yn ryw lawer o hwyl felly ewch allan a dechreuwch fwynhau'r buddion o weithio mewn busnes sy'n dechrau o'r newydd.

 

3.3 Cael cwsmeriaid sy’n talu / gwneud cynnydd

Mae angen mwy na syniad arnoch chi bod rhywun yn barod i brynu'ch cynnyrch neu wasanaeth. Bydd, bydd rhai Angylion yn buddsoddi cyn-refeniw ond un peth sy'n sicr yw y bydd eich prisiad yn adlewyrchu hyn. Ychwanegwch werth i'ch cynnig trwy fynd allan a gwerthu'ch cynnyrch cyn i chi werthu ecwiti.

 

3.4 Canolbwyntiwch eich meddwl ar werthu

Fel yr uchod, mae angen i chi werthu eich syniad i'ch cyd-sylfaenwyr er mwyn eu perswadio i ymuno, gwerthu’ch syniad i’ch cwsmeriaid er mwyn eu perswadio i brynu, ac i fuddsoddwyr er mwyn eu perswadio i roi eu harian. Fe fyddwch beiriant gwerthu sy'n gallu seboni erbyn diwedd y broses felly ydi hi’n amser i chi fwrw’r maen i’r wal? Pam lai.

 

3.5 ​​​​​​​Penodwch gyfreithiwr a chyfrifydd

Rydych chi'n newydd i'r gêm o godi arian. Mae cyfreithwyr a chyfrifwyr yn ei wneud fel bywoliaeth. Byddwch, fe fyddwch chi’n gorfod talu ffioedd ond mae'r cyngor fel arfer yn arbed llawer i chi yn y tymor hir felly mae'n werth ei wneud. Cyn bo hir, byddwch yn gweld bod ffioedd yn mynd yn uwch drwy gydol y broses fuddsoddi felly gorau oll os ddowch chi i ddeall hynny nawr.

 

​​​​​​​3.6 ​​​​​​​Ffurfiwch Fwrdd a dewch o hyd i Gadeirydd

Mae hyn, nid yn unig yn eich gwneud yn fwy buddsoddadwy ond mae hefyd yn sbarduno gwerth. Er mwyn adeiladu busnes o safon fyd-eang, mae angen bwrdd cryf arnoch chi a fydd yn eich herio. Mae cyfarwyddwyr anweithredol yn helpu’n aruthrol gyda strategaeth lefel uchel ac yn darparu cyfeiriad hanfodol na fyddwch efallai yn ei ddirnad i ddechrau am eich bod chi’n brysur yn llafurio ar wyneb y graig.

Bydd angen Cadeirydd arnoch chi hefyd. Os wnewch chi ohirio gwneud hyn, mae'n debygol y byddwch chi'n cael sgyrsiau anodd gyda darpar fuddsoddwyr. Mae hi wastad yn beth da cael Cadeirydd i weithredu fel clustog ysgafn rhyngoch chi a buddsoddwyr i sicrhau nad yw eich perthynas hir dymor dan straen diangen yn ystod y cyfnod cynnar hwn.

 

​​​​​​​3.7 ​​​​​​​Deallwch pa yswiriannau sydd eu hangen arnoch chi

Bydd angen o leiaf Atebolrwydd Cyflogwr ac yswiriant “person allweddol” arnoch chi. Fel rheol, mae angen i yswiriant fod ddwywaith gwerth eich cyflog blynyddol ond gwiriwch hyn gyda'ch buddsoddwyr.

Yn aml, mae'n dda cael yswiriant ar gyfer Indemniad Proffesiynol, Atebolrwydd Cyhoeddus a Chynhyrchion a Diogelwch Cyfreithiol.

Yn ddelfrydol, dylai fod gennych yswiriant sy'n amddiffyn rhag risgiau sy'n gysylltiedig â chwmnïoedd megis yswiriant Adeilad a Rhestr Eiddo ar gyfer busnes gweithgynhyrchu.

Nid oes angen i chi dalu am yr yswiriannau tan y funud olaf. Defnyddiwch yr amser i baratoi'r holl ddyfynbrisiau fel mai'r cwbl sydd angen ei wneud yw gwthio botwm.

 

​​​​​​​3.8 Tacluswch eich cyfrifon banc

Yn ystod y camau cynnar, nid yw'n anghyffredin cael trafferth gwahaniaethu rhwng eich cyfrif banc personol a'ch cyfrif busnes. Bydd buddsoddwyr eisiau gwerth o leiaf chwe mis o ddatganiadau banc. Gwnewch yn siŵr nad ydych chi'n rhoi rheswm iddyn nhw gael braw.

Os ydych chi'n defnyddio banc herio busnes technoleg sy’n dechrau o’r newydd ar hyn o bryd, yna gofynnwch i chi’ch hun a fydd yn diwallu anghenion y busnes wrth symud ymlaen. Mae rhai ohonynt ddim ond yn caniatáu i chi ennill refeniw blynyddol o £1 miliwn. Os ydych chi’n honni y bydd refeniw yn £2 filiwn erbyn y drydedd flwyddyn, pryd fyddwch mynd ati i newid eich cyfrif? Dechreuwch ar y trywydd cywir.

 

4. Eitemau Technegol (pethau y byddwch angen help gyda nhw p bosib)

 

4.1 ​​​​​​​Gwnewch eich cynllun busnes yn annistrywiadwy

A yw'n ddealladwy ac yn gredadwy? Bydd buddsoddwyr yn craffu’n fanwl iawn ar bob manylyn. Ydych chi wedi gwneud eich gwaith cartref ac wedi rhoi datgeliad llawn? Ydych chi'n gwybod pwy yw pob un o'ch cystadleuwyr? Peidiwch â gadael i fuddsoddwyr ganfod pwy ydi’r rhain cyn eich bod chi’n gwybod neu byddwch chi'n colli eu hymddiriedaeth a'r buddsoddiad cyfan yn ôl pob tebyg. Fel y dywedodd cydweithiwr wrthyf ryw dro: “ar gyfer penblwyddi yn unig ddylid cadw syrpreisys - nid ddylai ddigwydd o ganlyniad i ymarfer diwydrwydd dyladwy.”

Cofiwch, fel rhan o broses gyfreithiol buddsoddi, bydd disgwyl i chi ddarparu gwarantau bod yr holl wybodaeth rydych chi wedi'i darparu yn wir ac yn gywir hyd eithaf eich gwybodaeth. Os ydych chi ar fin gwneud rhywbeth anghyfreithlon, rydych chi'n agored i atebolrwydd ariannol personol. Peidiwch â mentro hynny.

Pwy i holi: Deoryddion / Arianwyr Corfforaethol

 

​​​​​​​4.2 ​​​​​​​Adeiladwch fodel ariannol cadarn

Heblaw am y cwmni, dyma o bosib yw un o'r eitemau pwysicaf i fuddsoddwyr. Mae model ariannol cadarn yn dangos eich bod yn deall mecaneg y busnes a pha ‘lifrau’ y mae angen eu tynnu i gynhyrchu elw. Dangoswch sut y byddwch chi'n gwario'r arian a gewch. Pa mor hir fydd yr arian yn para? Beth yw'r senario orau? Beth yw'r senario waethaf?

Cofiwch, os oes angen rownd ddilynol arnoch (rhywbeth sy’n wir am 98% o fusnesau newydd) yna ar y pwynt hwnnw bydd buddsoddwyr yn craffu'n  fanwl ar ba mor dda y gwnaethoch berfformio o’i gymharu â'r cynllun gwreiddiol. Fel rydyn ni wedi dweud o’r blaen yn ein blog ‘Am beth mae buddsoddwyr yn chwilio mewn busnes sy'n dechrau o'r newydd?', efallai bod rhagamcanion ‘ffon hoci’ yn ymddangos fel syniad da tan ddaw'r adeg pan fydd hi’n bryd i chi eu cyflawni. Byddwch yn real.

Hefyd, gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â’ch rhifau fel cefn eich llaw. Ydych chi erioed wedi gwylio un o raglenni Dragons Den lle nad yw'r entrepreneur yn gwybod beth yw maint ei elw gros? Maen nhw’n cael eu dwrdio am hynny bob tro.

Pwy i holi: Arianwyr Corfforaethol

 

​​​​​​​4.3 ​​​​​​​Cynhyrchwch set dda o gyfrifon rheoli

Ni fydd unrhyw fuddsoddwr sy'n werth ei halen yn buddsoddi mewn busnes nes bod ganddo gyfrifon cyfoes. Dychmygwch, atebolrwydd o £200k ar y Fantolen (a elwir yn Ddatganiad Sefyllfa Ariannol y dyddiau hyn...) ac mae buddsoddwr yn buddsoddi £250k i mewn i'r busnes ar y diwrnod cyntaf. Ar yr ail ddiwrnod, rydych chi'n talu'ch dyled ac mae £50k ar ôl i’r cwmni. Dychmygwch…

Pwy i holi: Eich Cyfrifwyr

 

​​​​​​​4.4 ​​​​​​​Rhowch eich cynnyrch drwy'r felin

A yw'n wirioneddol fuddsoddadwy? Ydych chi’n ddigon dewr i’w gyflwyno o flaen 5 “draig”? Os wnewch chi oresgyn y rhwystr cyntaf hwn, bydd eich cynnyrch yn destun diwydrwydd dyladwy technegol. A oes yna unrhyw beth nad ydych yn falch ohono?

Sut ydych chi'n gwybod bod gennych gynnyrch hyfyw sylfaenol CHS (Cynnyrch Lleiaf Hyfyw) os nad yw 100 o bobl wedi rhoi cynnig arno ac wedi rhoi adborth ichi? Dangoswch eich cynnyrch o flaen cymaint o bobl â phosibl a derbyniwch bob beirniadaeth heb gwyno. Bydd yn gwneud eich cynnig yn well ac yn sicrhau eich bod yn barod i ateb unrhyw gwestiynau y mae buddsoddwyr yn eu gofyn i chi yn hyderus.

Pwy i holi: Unrhyw un sydd â phrofiad a barn

 

​​​​​​​4.5 ​​​​​​​Sicrhewch fod eich Tabl Cyfalafu mewn trefn

Bydd buddsoddwyr yn disgwyl ichi ddarparu eich tabl cyfalafu presennol iddynt. Ydych chi'n cofio'r buddsoddiad £10k gan Dad? Mae angen i'r cyfan fod yno fel bod man cychwyn diffiniol. Mae ‘bod yn berchen’ ar y tabl cyfalafu hefyd yn golygu y gallwch fodelu gwahanol senarios o ran y gwanhad y byddwch yn ei brofi o'ch pwll opisynau a'r cylch buddsoddi.

Pwy i holi: Eich Cadeirydd / Ariannwr Corfforaethol

 

​​​​​​​4.6 ​​​​​​​Trosglwyddo'r Eiddo Deallusol (ED) i'r cwmni

Os ydych chi'n gwmni sydd wedi deillio o'r Brifysgol yna mae'n debygol y bydd angen i chi daro bargen gyda'r Brifysgol i gael yr hawliau ED wedi'u neilltuo i'ch cwmni. Yn yr un modd, dylid trosglwyddo unrhyw batentau, dyluniadau, hawlfreintiau a nodau masnach sydd wedi'u cofrestru yn eich enw i'ch cwmni. Bydd buddsoddwyr angen trosglwyddiad llawn cyn i unrhyw arian newid cyfrifon banc felly mae'n syniad da eich bod yn paratoi'n gynnar.

Pwy i holi: Eich Cyfreithwyr

 

Casgliad

Erbyn hyn, mae'n debyg eich bod yn dechrau sylweddoli bod y broses buddsoddi yn cymryd ychydig yn hirach nag un o raglenni Dragons Den i'w sicrhau. Gall fod yn heriol ond hefyd yn werth chweil. Fel y dywedodd un o'n entrepreneuriaid mewnfuddsoddi yn huawdl yn ddiweddar, “rydych chi'n gwella fel person ar ôl codi arian.”

Cofiwch mai dim ond un o lawer o opsiynau posib ar gyfer cychwyn busnes yw codi arian ecwiti allanol. Os penderfynwch ei fod yn opsiwn da i chi, gwnewch yn siŵr eich bod wedi paratoi'n dda ac yn barod i ddilyn y broses drwodd i’r diwedd. Os ydych hyn yn swnio fel chi, ac fe hoffech gael eich ystyried ar gyfer cael arian gan y tîm Buddsoddiadau Menter Technoleg ym Manc Datblygu Cymru, yna cysylltwch â ni.