Ysgrifennydd Cymru David TC Davies yn cymeradwyo twf yr arbenigwyr dyfeisiau meddygol IQ Endoscopes

Richard-Thompson
Uwch Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Marchnata
Busnesau technoleg
IQDTCD

Mae Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies, wedi canmol IQ Endoscopes am y cynnydd clir y mae’n ei wneud ar ei siwrnai twf uchelgeisiol a’r gwerth y mae’n ei roi i’r economi leol.

Tynnodd Gweinidog y Cabinet sylw at effaith buddsoddiad ecwiti preifat a chyfalaf menter yn dilyn taith canfod ffeithiau i bencadlys y gwneuthurwr dyfeisiau meddygol yng Nghas-gwent yn Ne Cymru.

Trefnwyd yr ymweliad gan Gymdeithas Ecwiti Preifat a Chyfalaf Menter Prydain (a adwaenir fel y BVCA), y mae ei haelodau, BGF – sef un o’r buddsoddwyr mwyaf a mwyaf profiadol yn y DU ac Iwerddon – a Banc Datblygu Cymru, ynghyd â chonsortiwm o fuddsoddwyr presennol, hwb i ehangiad IQ Endoscopes gyda buddsoddiad o £5.2 miliwn yn 2022.

Dywedodd Mr Davies, AS Mynwy: “Mae IQ Endoscopes yn enghraifft wych o sut y gall busnes ragori gyda’r cymorth a’r buddsoddiad cywir, sydd wedi galluogi’r tîm i arloesi, tyfu, creu swyddi a dod â gwerth i’r gymuned.

“Mae IQ Endoscopes yn gwmni gwych sydd ar drothwy cyflawniad rhyfeddol wrth iddynt wthio ffiniau technoleg feddygol, ond ni allai’r arloeswyr hyn fod wedi troi eu gweledigaeth feiddgar yn realiti heb gefnogaeth BGF a Banc Datblygu Cymru.”

Tim Rea, pennaeth buddsoddiadau cyfnod cynnar yn BGF: “Mae IQ Endoscopes wedi gallu creu llawer iawn o fomentwm hyd yma wrth i’r tîm lywio ei ffordd tuag at lansio technoleg wirioneddol arloesol a fydd yn helpu i leddfu’r straen ar ein system gofal iechyd. a gwella canlyniadau cleifion ledled y byd.

“Rydym yn falch o gefnogi IQ Endoscopes, gan ddarparu arweiniad strategol a chyllid ar gam hanfodol o daith y cwmni.”

Mae IQ Endoscopes wedi creu dyfais endosgopi untro sydd nid yn unig yn gost-effeithiol ac fe ellir cynyddu ei raddfa ond maen gynaliadwy hefyd ac mae’n meddu ar y potensial i chwyldroi diagnosis cynnar o ystod o ganserau a chyflyrau gastroberfeddol.

Dywedodd Matt Ginn, Prif Weithredwr IQ Endoscopes: “Mae IQ Endoscopes wedi mynd trwy gyfnod cyflymu cyflym iawn. Mae arian o’n buddsoddiad yn 2022 wedi galluogi fy nhîm i ganolbwyntio ar strategaeth mynediad i’r farchnad cyn lansio’r cynnyrch.

“Rydym nawr yn gwthio ymlaen yn gyflym i ddatblygu dyfais a fydd yn fuan yn trawsnewid y ffordd y mae cleifion yn cael triniaethau a gweithdrefnau hanfodol, yn ogystal â rhoi hwb i'r economi gyda hyd at 100 o swyddi newydd.

“Er mwyn cefnogi’r twf hwn, rydyn ni’n edrych i godi rhagor o fuddsoddiad yn y dyfodol agos ac o’r herwydd, rydyn ni’n awyddus i archwilio diddordeb o ffynonellau menter pellach yn y DU.”

Ychwanegodd Michael Moore, Prif Weithredwr Cymdeithas Ecwiti Preifat a Menter Gyfalaf Prydain: “Roeddem yn falch iawn o drefnu i Ysgrifennydd Cymru ymweld ag IQ Endoscopes a dangos yr effaith wirioneddol y mae cyfalaf preifat yn ei chael ar fusnesau bach ac arloesol ar hyd a lled y wlad.

“Yn 2022, buddsoddwyd 27.5bn gan gyfalaf preifat i fusnesau’r DU mewn sectorau ar draws economi’r DU, yn amrywio o gynnyrch defnyddwyr i dechnoleg sy’n dod i’r amlwg. Mae dros 12,000 o gwmnïau yn y DU a gefnogir gan gyfalaf preifat sydd ar hyn o bryd yn cyflogi dros 2.2 miliwn o bobl yn y DU. Mae mwyafrif y busnesau a gefnogir y tu allan i Lundain ac mae 90% o’r busnesau sy’n derbyn buddsoddiad yn fusnesau bach a chanolig.”

Dywedodd Dr Richard Thompson, Uwch Swyddog Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru: “Rydym wedi gweithio’n agos gydag IQ Endoscopes ers i’n buddsoddiad cychwynnol yn 2020 eu denu i Gymru. Ar ôl sicrhau cymeradwyaeth reoleiddiol yn y DU ac UDA, maent yn gwneud cynnydd sylweddol.

“Mae’r cwmni’n un o lawer sy’n helpu i osod Cymru ar flaen y gad yn y sector technoleg iechyd ac rydym yn falch o fod yn chwarae rhan yn eu llwyddiant byd-eang. Rydym yn edrych ymlaen at y gwahaniaeth y gall eu technoleg ei wneud i helpu cleifion ac i leihau amseroedd aros y GIG ar gyfer gwasanaethau endosgopi.”