Yswirio ariancyfredcrypto: Coincover yn tanio twf gyda'r rownd fuddsoddi ddiweddaraf

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
coincover

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Coincover.

Mae'r farchnad ariancyfredcrypto yn cynhesu â thwf sylweddol yn 2020 ac mae ton newydd o ddarpar fuddsoddwyr crypto yn barod i ymuno. Ond mae yna un peth sy'n eu rhwystro rhag mentro - rhwyd ddiogelwch.

Cyhoeddodd Coincover, sydd ar y trywydd i fod y brand rhif #1 mewn diogelwch crypto ac arbenigedd mewn gwarchod ariancyfredcrypto a ddelir ar-lein, ei fod wedi cau cylch cyllido twf yn ddiweddar wrth iddo geisio ateb y galw cynyddol o'r farchnad ariancyfredcrypto.

Arweiniodd Insurtech Gateway y rownd gyda cyd-fuddsoddiad o gronfa Technoleg Banc Datblygu Cymru. Cefnogir Coincover gan syndicad angylion ac arian cyllido o Gronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru.

Sefydlwyd Coincover yn 2018 gan David Janczewski, a oedd wedi treulio sawl blwyddyn yn arwain menter aur ddigidol The UK Royal Mint a alluogwyd gan floc cadwyn gan ddarparu cyngor i brosiectau bloc cadwyn eraill. Mae Coincover sy’n seiliedig yng Nghaerdydd ar flaen y gad yn y sector yswiriant asedau digidol eginol yr amcangyfrifir i fod werth hyd at $3BN yn flynyddol yn barod.

Mae bod o dan warchodaeth Coincover yn prysur ddod yn ffordd i fusnes ddangos bod eu cynnig crypto yn cydymffurfio'n llawn ac yn cael ei warchod yn gyfan gwbl yn erbyn y risg y bydd buddsoddiadau ei gwsmeriaid yn cael ei golli neu eu dwyn gan gynnyrch unigryw cydymffurfiaeth, diogelwch ac yswiriant Coincover sydd wedi cael ei adeiladu'n benodol ar gyfer isadeiledd bloc cadwyn. A thrwy ddarparu gwarchodaeth Coincover yn uniongyrchol i'w cwsmeriaid, gall busnesau gynnig y dull cyntaf yn y byd i ddefnyddwyr brynu gwarchodaeth ar gyfer eu buddsoddiadau, gan ddenu mwy o gwsmeriaid hapus a chreu llif refeniw ychwanegol yn y broses.

Dywedodd David Janczewski: “Mae Coincover yn helpu busnesau crypto i fynd i’r afael â phryderon diogelwch y buddsoddwr pwyllog ac yn cyflawni’r marc ymddiriedaeth sydd ei angen arnynt i sefyll allan mewn marchnad orlawn a gwyliadwrus. Ni yw'r unig gwmni yn y byd sydd â chynnyrch diogelwch sy'n cael ei gefnogi gan Lloyds o Lundain, sy'n darparu gwarchodaeth rhag dwyn ariancyfredcrypto ar lefel unigol a chyfle i gynyddu refeniw busnes i'r eithaf trwy alluogi ein partneriaid i adeiladu systemau sy'n creu ymddiriedaeth gref â'u cleientiaid.”

Ychwanegodd Richard Chattock, Prif Weithredwr y buddsoddwr arweiniol, Insurtech Gateway: “Mae asedau digidol yn tyfu ar gyfradd esbonyddol yn fyd-eang, ac yn cynrychioli’r “cefnfor glas” nesaf ar gyfer yswiriant a gwarchodaeth. Mae atebion arloesol fel y rhai a gynigir gan Coincover yn lleihau’r risgiau a’r rhwystrau rhag mabwysiadu asedau digidol, ac roeddem yn falch iawn o barhau â’n cefnogaeth.”

Dywedodd David Blake o gronfa Technoleg Banc Datblygu Cymru: “Rydym yn falch iawn o gefnogi uchelgeisiau Coincover. Mae'r cwmni hwn o Gymru yn arwain ei sector marchnad, ac mae'r cyfleoedd ar gyfer ehangu'n rhyngwladol yn gyffrous iawn.

“Rydym yn gweithio’n agos gyda’n cydweithwyr yn Angylion Buddsoddi Cymru i gefnogi mentrau sy’n seiliedig ar dechnoleg a denu buddsoddiad pellach gan gyd-fuddsoddwyr ar gyfer busnesau yng Nghymru. Mae cefnogaeth Insuretech Gateway i Coincover yn dyst i’w potensial twf byd-eang yn y farchnad ariancyfredcrypto.”

Parhaodd David Janczewski: “Mae Coincover yn cael gwared ar y rhwystr mawr olaf rhag mabwysiadu ariancyfredcrypto ar sail marchnad enfawr. Rydym eisoes yn partneru gyda'r darparwyr datrysiadau ariancyfredcrypto mwyaf blaenllaw yn y byd i gyflawni'r ffordd fwyaf diogel i mewn i ariancyfredcrypto. Yn oes bregusrwydd ariancyfredcrypto, mae'n rhaid i fusnesau fynd i'r afael ag ofn pobl ynghylch cronfeydd coll neu wedi'u dwyn. Y platfformau a’r cynhyrchion sy’n cynnig y gwarantau diogelwch cryfaf ac a all sicrhau diogelwch cronfeydd eu defnyddwyr yw’r rhai a fydd yn dod i’r brig yn yr ychydig flynyddoedd nesaf. Gall ein partneriaid adeiladu brand dibynadwy oherwydd gallant gynnig sicrwydd llwyr i'w cwsmeriaid. Rydym wedi gweld twf enfawr mewn ymholiadau ers i gyfnod llwyrgloi COFID-19 ddechrau o gwmpas y byd. Bydd y buddsoddiad hwn yn caniatáu inni ateb y galw hwn a thanio twf esbonyddol.”