Cynhaliodd Angylion Buddsoddi Cymru ei ddigwyddiad angylion busnes benywaidd cyntaf y mis diwethaf (/ ym mis Ebrill), gan ddod â menywod o amrywiaeth o gefndiroedd proffesiynol at ei gilydd i rannu eu profiadau a dysgu mwy am fuddsoddiadau angel.
Yma yn Angylion Buddsoddi Cymru (rhan o Fanc Datblygu Cymru), rydym yn cysylltu buddsoddwyr â busnesau Cymreig sy’n ceisio buddsoddiad preifat trwy ein platfform digidol. Hyd yn hyn, rydym wedi cofrestru a chynnwys bron i 300 o fuddsoddwyr angel.
Ein nod yw tyfu'r gymuned angylion busnes yma yng Nghymru yn gyffredinol, ond hefyd annog mwy o fenywod i gymryd rhan, yn enwedig gan fod bwlch sylweddol rhwng y rhywiau yn y maes hwn o hyd. Rydym am i fenywod wybod nad yw hyn yn ymwneud â chael miliynau yn y banc neu fod yn rhan o sefydliad corfforaethol mawr; mae'n ymwneud â rhannu'r risg a gwneud buddsoddiadau hirdymor mewn ffordd sy'n golygu eich bod yn rhoi yn ôl ac yn helpu eraill i lwyddo.
Roeddem yn gyffrous felly i gynnal y digwyddiad cyntaf hwn yn y gobaith y gallem ddechrau cael mwy o fenywod mewn busnes i feddwl am y manteision a'r posibiliadau y gallai buddsoddi angel eu cynnig iddynt.
Gosododd Jenny Tooth, Cadeirydd Gweithredol Cymdeithas Angylion Busnes y DU (UKBAA), y cefndir ar y rôl hanfodol a chwaraeir gan fuddsoddiad angel wrth gefnogi twf cynnar mentergarwyr / entrepreneuriaid, ond tynnodd sylw at yr heriau i mentergarwyr benywaidd o ran cael mynediad at fuddsoddiad ecwiti.
Yn gyffredinol, mae menywod yn cael eu tanariannu - maen nhw'n gofyn am lai o arian ac yn cael llai o arian. Dim ond 10% o'r holl fuddsoddiad angylion sy'n mynd i dimau merched yn unig a dim ond tua 22% i dimau cymysg. Yn nodedig, bu Jenny yn myfyrio ar y ffaith mai dim ond tua 15% o’r farchnad buddsoddi angylion oedd yn fuddsoddwyr angylion benywaidd a chafodd hyn effaith uniongyrchol ar fentergarwyr benywaidd yn denu buddsoddiad angel, gan fod angylion benywaidd yn gwneud 30-50% o fuddsoddiadau mewn sylfaenwyr benywaidd.
Eglurodd Jenny mai dyma’r rhesymeg dros lansio’r ymgyrch genedlaethol Menywod yn Cefnogi Menywod i alluogi llawer mwy o fenywod ledled y DU i gydnabod y cyfle i fuddsoddi mewn mentergarwyr benywaidd: “Os bydd mwy o fenywod yn buddsoddi, bydd llawer mwy o sefydlwyr benywaidd yn cael y cyllid sydd ei angen arnynt er mwyn i'w busnesau ffynnu a thyfu.
“Mae tan gynrychiolaeth menywod mewn buddsoddi angylion yn deillio o lawer o ffactorau, gan gynnwys y canfyddiad ei fod yn ormod o risg a dim ond yn addas i rai sy’n gyfoethog iawn. Ond mae yna ffyrdd o liniaru'r risg, ac nid oes angen i chi fod yn hynod gyfoethog; mae'n ymwneud â chael rhywfaint o arian sbâr y gallwch ei neilltuo. Mae'n bwysig nodi hefyd bod Llywodraeth y DU yn cynnig gostyngiadau treth hael i fuddsoddwyr angel drwy'r Cynllun Buddsoddi mewn Menter i wrthbwyso eu risgiau.
“Mae yna resymau gwych i fenywod ddod yn angel busnes. Gall fod yn gyffrous ac yn gymdeithasol, a gall roi boddhad gwirioneddol i weld eich bod yn gwneud gwahaniaeth i’ch economi leol drwy helpu busnesau bach, yn enwedig sefydlwyr benywaidd, i lwyddo a chyflawni eu huchelgeisiau twf”.
Yng Ngogledd Lloegr, mae gwaith yn cael ei wneud i fynd i’r afael â’r rhwystrau i fuddsoddwyr benywaidd. Dywedodd Helen Oldham wrth y gynulleidfa sut y cychwynnodd ‘Fund Her North,’ casgliad o fenywod yn y diwydiant buddsoddi sy’n cefnogi mentergarwyr benywaidd o’r cyfnod cynnar i’r allanfa. Ym mis Medi, lansiodd Fund Her North yr unig syndicet angylion benywaidd yn y rhanbarth, Women Angels of the North.
Mae syndiceiddio yn galluogi angylion i ledaenu'r risg, rhannu'r llwyth gwaith, a gwneud y mwyaf o'r adnoddau sydd ar gael i helpu cwmnïau y buddsoddir ynddynt. Mae hefyd yn ffordd o gyfarfod a gweithio ochr yn ochr â phobl ddiddorol, sy'n ei wneud yn fwy o hwyl.
Meddai Helen: “Mae Women Angels of the North yn darparu amgylchedd cefnogol i angylion busnes benywaidd sy’n brofiadol ac yn newydd i fuddsoddi. Dim ond £2,000 yw’r isafswm buddsoddiad, felly nid oes angen ichi ymrwymo swm enfawr o arian, ac mae’n golygu y gallwch arallgyfeirio a dad-risgio drwy gael portffolio mwy. Chi sydd i benderfynu faint o amser a roddwch i mewn hefyd; mae rhai angylion yn hoffi bod yn weithgar iawn mewn bargen, tra bod yn well gan eraill gymryd rhan fwy goddefol.
“Y naill ffordd neu'r llall, mae'n werth chweil bod yn rhan o gymuned o fenywod o'r un anian sy'n rhannu arbenigedd a dylanwad ariannol i gefnogi mentergarwyr benywaidd Gogleddol. Rydym wedi darganfod bod sylfaenwyr benywaidd yn aml yn fwy agored a chyfforddus pan fyddant yn dod i syndicet benywaidd."
Mae Health & Her yn enghraifft wych o fusnes dan arweiniad menywod sydd wedi mynd o nerth i nerth gyda chymorth buddsoddiad angel. Gan arbenigo mewn iechyd menywod, sicrhaodd y cwmni fuddsoddiad chwe ffigur yn 2019 gan Fanc Datblygu Cymru ochr yn ochr â chyllid gan syndicet angylion a Chronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru.
Dywedodd Kate Bache, cyd-sylfaenydd a Phrif Weithredwr, wrthym am ei thaith fel mentergarwraig a sut y mae bellach wedi dod yn fuddsoddwr angel ei hun. Meddai: “Mae llawer o sylfaenwyr benywaidd yn canolbwyntio ar faterion yn ymwneud â merched; Mae Health & Her yn brawf byw o hynny. Os ydych chi'n buddsoddi mewn sylfaenwyr benywaidd, rydych chi'n debygol o fod yn buddsoddi mewn syniadau sy'n helpu menywod yn gyffredinol.
“Mae'r cyllid ecwiti rydym wedi'i dderbyn wedi ein galluogi i dyfu a chyflawni ein nod o newid bywydau menywod er gwell. Mae ein buddsoddwyr yn dod â gwybodaeth, arbenigedd, a mewnwelediad i sut y gallwn wella ein busnes. Mae eu cefnogaeth barhaus wedi bod yn amhrisiadwy.”
Dywedodd Carol Hall, Rheolwr Buddsoddi Angylion Buddsoddi Cymru: “Gyda digwyddiadau wyneb yn wyneb yn dychwelyd, roeddem yn gyffrous i ddod at ein gilydd yn bersonol ar gyfer ein digwyddiad angylion busnes benywaidd cyntaf hir-ddisgwyliedig. Roedd y diddordeb a’r egni yn yr ystafell yn amlwg, ac rydym wedi cael adborth gwych gan ein gwesteion, a oedd yn llwyr groesawu’r syniad o ddatblygu grŵp ‘Angylion Merched Cymru’.
“I lawer o fenywod, mae buddsoddi angel wedi ymddangos yn ormod o risg uchel, unigryw ac anhygyrch, ac yn aml bu diffyg gwybodaeth am sut mae’n gweithio. Trwy'r fenter hon rydym yn gobeithio cynyddu ymwybyddiaeth a dangos y gall merched elwa'n fawr o gymryd rhan. Edrychwn ymlaen yn fawr at adeiladu ar hyn a cheisio symud y nodwydd ar fuddsoddiad menywod a mentergarwch yng Nghymru.