Health & Her

Kabitah-Begum
Uwch Swyddog Portffolio

Rydym yn gweld twf sylweddol o fis i fis sydd wedi cael hwb yn sgil y cyllid ecwiti a gawsom.

Kate Bache, Prif Weithredwr

Trosolwg o’r Busnes

Mae Health & Her yn arbenigo mewn iechyd menywod; nhw yw’r hyb menopos cyfannol cyntaf sy’n cynnig cynhyrchion, cyngor arbenigol a chyfleuster tracio symptomau drwy gyfrwng eu ap menopos. 

Sefydlwyd y cwmni yn 2017, a sefydlwyd eu platfform B2C e-fasnachu yn fuan wedyn ym mis Mawrth 2019. Ers ei lansio, Health & Her nawr yw’r brand perimenopos mwyaf  yn y Deyrnas Unedig a dyma’r ap menopos sydd wedi’i lawrlwytho ail fwyaf drwy’r byd.

Sefydlwyr

Health & Her

Katherine Bache, Cyd-sefydlydd – Mae Kate, sy’n fferyllydd cymwysedig, wedi symud i amrywiol rolau masnachol gydag dros 13 mlynedd o brofiad mewn cwmnïau nwyddau defnyddwyr sy’n symud yn gyflym a fferyllol o’r radd flaenaf, cyn cyd-sefydlu’r cwmni yn 2017.

Gervase Fay, Cyd-sefydlydd - Gervase yw Cyfarwyddwr Masnachol y busnes. Mae’n meddu ar dros ddeng mlynedd o brofiad mewn sefydliadau o’r radd flaenaf gan gynnwys Reckitt Benckiser, Tesco, Nutricentre a Superdrug.

Diben y busnes

Products

Sefydlwyd Health & Her  i wella bywydau miliynau o fenywod ym mhob cwr o’r byd sy’n byw â symptomau’r perimenopos, y menopos a’r ôl-menopos sy’n effeithio ar eu bywydau'. Mae eu cynhyrchion hunan-ofal wedi newid y ffordd y mae menywod yn delio â’r menopos ac yn dod o hyd i atebion i wella eu profiad.

Mae hyb iechyd menopos llwyddiannus y cwmni yn grymuso menywod i ddelio â’u symptomau drwy ddarparu cynhyrchion o’r radd flaenaf, cyngor gan arbenigwyr arweiniol a mewnwelediadau clinigol newydd drwy gyfrwng gwefan e-fasnachu ac ap. Maent yn cynnig offeryn a thraciwr symptomau menopos rhad ac am ddim ar-lein ynghyd â gwybodaeth am y menopos gan brif unigolion cymwysedig ac arbenigol y DU.

Cyllid

Rydym wedi cefnogi Health & Her drwy amryfal gylchoedd cyllido er 2019. Gyda benthyciad gan ein Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru cafodd Health & Her gyfalaf gweithio i’w helpu i dyfu i’r dyfodol ac i’w helpu i benodi cyfarwyddwr ariannol.

Beth mae pobl yn ddweud

Mae’r ymchwil a wnaethom gyda menywod wedi ein helpu i ddeall yn union pa mor gymhleth y gall profiadau a symptomau’r menopos fod.Mae’n wir bwysig ein bod yn newid ac yn gwella yn barhaus drwy wrando ar y menywod a wasanaethwn. Yr hyn a wnawn yw dod o hyd i’r ffyrdd gorau o gyrraedd pob menyw a’i gwneud yn haws i fenywod gael gafael ar gynhyrchion a gwasanaethau.

Mewn byd o ddulliau cyfathrebu a thueddiadau cyfryngau sy’n bythol newid, mae angen inni ei gwneud hi’n hawdd iawn i fenywod ddod o hyd i gefnogaeth, ei defnyddio a theimlo bod ganddynt gefnogaeth drwy’r hyn sydd gennyn ni i’w gynnig. Mae’r cyllid diweddaraf yn golygu’n awr y gallwn dyfu gyda help y Banc Datblygu fel ein partner ecwiti hirdymor.  Bu eu cymorth parhaus yn holl bwysig yn ein twf. Rydyn ni wrth ein bod eu bod yn dod ar y siwrnai hon gyda ni.

Katherine Bache, Sefydlydd, Health & Her

Mae Health & Her ar ymgyrch i ddeall y menopos yn well ac i rannu syniadau gwych a fydd yn newid bywydau menywod er gwell. Gyda data wrth wraidd yr arlwy, mae’r busnes wedi cofnodi twf cadarn dros y flwyddyn diwethaf.

Ochr yn ochr â chefnogaeth barhaus y Banc Datblygu ac angel-fuddsoddwyr preifat, mae Health & Her yn fusnes brodorol sydd â dyfodol cyffrous o’i flaen ac sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau menywod. Mae’n wych gweld yr effaith a gaiff cyd-fuddsoddi; gan ddwyn i mewn rym tanio gwirioneddol buddsoddwr sefydliadol a gwerth ychwanegol angel-fuddsoddiad.

Kabitah Begum, Swyddog Gweithredol Portffolios, Banc Datblygu Cymru

Angylion Buddsoddi Cymru

Mae rhwydwaith angylion mwyaf Cymru, Angylion Buddsoddi Cymru, yn cysylltu buddsoddwyr profiadol â busnesau Cymreig sy'n chwilio am fuddsoddiad preifat

Darganfod mwy