Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Polisi preifatrwydd - Cynllun Cymorth Lesddeiliaid

Pryd bynnag y byddwch yn darparu data personol i’r Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid neu y byddwn yn casglu data personol amdanoch, byddwn ddim ond yn ei ddefnyddio yn unol â’r hysbysiad preifatrwydd hwn. Darllenwch hwn yn ofalus.

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i’r Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid (y ‘Cynllun’), Cynllun a reolir gan is-gwmni Banc Datblygu Cymru DBW Investments (11) Ltd.

Pryd bynnag y defnyddir y termau  'ni', 'ninnau', neu 'ein' yn yr hysbysiad hwn, mae'n golygu DBW Investments (11) Ltd. fel y Rheolydd Data a rheolwr y Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid.

Ein hegwyddorion

Rydym yn cymryd eich preifatrwydd o ddifrif ac rydym wedi ymrwymo i ddiogelu eich data personol. Mae hyn yn golygu:

  • Dim ond yn unol â'r Cynllun y byddwn yn gofyn i chi ddarparu eich data personol sy'n angenrheidiol i ni eich helpu.
  • Byddwn yn cadw eich data personol yn ddiogel ac yn gyfrifol. Rydym yn defnyddio mesurau diogelu gan gynnwys amgryptio electronig, i atal mynediad heb awdurdod at eich data personol.
  • Byddwn ddim ond yn rhannu eich data personol â chwmnïau eraill o fewn Grŵp BDC, gyda chyflenwyr sy’n perfformio gwasanaethau ar ein rhan ac fel y nodir fel arall yn yr hysbysiad hwn.
  • Ni fyddwn byth yn gwerthu eich data personol.

Ein dibenion ar gyfer prosesu eich data personol

Byddwn yn casglu ac yn defnyddio data personol amdanoch am y rhesymau â ganlyn:

  • Mewn cysylltiad â, ac ar gyfer cynnal rheolaeth barhaus o gais i'r Cynllun.
  • Oherwydd yr hoffech i ni gysylltu â chi mewn ymateb i ymholiad penodol.
  • Er mwyn cyflawni ein rhwymedigaethau rheoleiddiol a chyfreithiol.
  • Er mwyn i ni ddefnyddio eich gwybodaeth i drin a datrys cwyn a allai fod gennych, pe baech yn dymuno codi un.
  • Er mwyn defnyddio eich gwybodaeth yn unol â Thelerau ac Amodau’r cynllun.

Mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi drwy gyfryngau megis post, ffôn, e-bost, negeseuon testun neu ddulliau digidol eraill o gyfathrebu, gan gynnwys drwy ddulliau eraill a allai ddod ar gael yn y dyfodol. Mae rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio eich data personol mewn cysylltiad â phob un o’r dibenion hyn i’w gweld isod Mae’r wefan hon hefyd yn defnyddio cwcis, mae rhagor o fanylion i’w gweld yn ein polisi cwcis.

Gweler hefyd polisi cwcis llyw.cymru

Eich hawliau diogelu data

Bydd y data personol a roddwch i ni yn cael ei gadw yn unol â’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth diogelu data. Mae hyn yn cynnwys Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU. Mae’r cyfreithiau hyn yn cynnwys hawliau penodol i chi, gan gynnwys:

  • Yr hawl i gyrchu / gael mynediad – Mae gennych hawl i ofyn am gopïau o’ch data personol (gelwir hyn hefyd yn gais gwrthrych am wybodaeth).
  • Yr hawl i gywiro – Mae gennych hawl i ofyn i ni gywiro unrhyw wybodaeth y credwch ei bod yn anghywir. Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth y credwch ei bod yn anghyflawn.
  • Yr hawl i ddileu – Mae gennych hawl i ofyn i ni ddileu eich data personol, o dan amodau penodol.
  • Yr hawl i gyfyngu ar brosesu – Mae gennych hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich data personol, o dan amodau penodol.
  • Yr hawl i wrthwynebu prosesu – Mae gennych yr hawl i wrthwynebu i ni brosesu eich data personol, o dan amodau penodol.
  • Yr hawl i gludadwyedd data – Mae gennych hawl i ofyn i ni drosglwyddo’r data rydym wedi’i gasglu i sefydliad arall, neu’n uniongyrchol atoch chi, o dan amodau penodol.
  • Yr hawl i gwyno i’r rheolydd - Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, os ydych yn anhapus ynghylch sut mae eich data personol yn cael ei ddefnyddio. Gellir cysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn www.ico.org.uk.

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau a nodir uchod, gan gynnwys gofyn am fanylion y data personol sydd gennym amdanoch, anfonwch e-bost atom neu ysgrifennwch atom yn:

SWYDDOG DIOGELU DATA,

Banc Datblygu Cymru,

1 Capital Quarter,

Stryd Tyndall

Caerdydd,

CF10 4BZ.

1. Defnyddio eich data personol mewn cysylltiad â, ac ar gyfer rheoli cais i'r Cynllun yn barhaus

Pam fod angen i’r Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid ddefnyddio fy nata personol?

Os ydych yn ymgeisydd sy'n gwneud cais i'r Cynllun, bydd angen i chi roi gwybodaeth i ni amdanoch. Mae hyn er mwyn i ni allu penderfynu a ydych yn gymwys i gael cymorth gan y Cynllun.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus ac fe benderfynir eich bod yn gymwys, byddwn yn parhau i ddefnyddio’ch data personol fel rhan o’n rheolaeth barhaus o’ch cais wrth iddo symud ymlaen drwy’r cynllun. Os bydd eich cais yn aflwyddiannus, byddwn yn cadw eich data am 2.5 mlynedd, yn unol â’r cyfnod cadw a amlinellir o dan y benawd “Am ba mor hir y fyddwch chi’n cadw fy nata pan fyddaf yn gwuned cais i’r Cynllun ?”.

Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio data personol amdanoch a ddarperir gan eraill i lywio ein penderfyniadau cymhwysedd. Er enghraifft, os ydych chi'n gysylltiedig yn ariannol gydag ymgeisydd, yna bydd angen i ni gasglu data personol amdanoch chi'ch dau.

Pa ddata personol fydd yn cael ei gasglu a'i brosesu mewn cysylltiad â'r Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid?

Byddwn yn casglu ac yn prosesu'r mathau canlynol o ddata personol: Enw, Dyddiad Geni, Rhif Ffôn, Cyfeiriad, Chyfeiriad E-bost, Data Ariannol a Dynodwyr Cenedlaethol . Byddwn hefyd yn gofyn i chi ddarparu copïau o’ch  Dogfennau Adnabod, gwybodaeth am eich sefyllfa ariannol a gwybodaeth am eich eiddo.

Beth mae'r Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid yn ei wneud â'm data personol?

Pan fyddwch yn darparu eich data i ni, byddwn yn ei ddefnyddio i wirio’ch hunaniaeth, asesu eich’r cais ac i benderfynu a ydych yn gymwys i gael cymorth gan y Cynllun.

Os y penderfynir eich bod yn gymwys ar gyfer y cynllun, byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth i symud eich cais drwy gamau’r cynllun, gan gynnwys:

  • Rhoi arweiniad i chi ar gamau nesaf y cynllun.
  • Darparu arweiniad ar benodi Cynghorydd Ariannol Annibynnol (CAA). Os byddwch yn symud ymlaen i’r cam hwn o’r cynllun, unwaith y byddwch yn rhoi gwybod i ni ynghylch eich dewis o Gynghorydd Ariannol Annibynnol, byddwn yn rhannu eich manylion â nhw er mwyn iddynt gysylltu â chi a’ch cynghori.
  • Cael eich eiddo wedi'i brisio'n annibynnol gan syrfëwr a benodwyd gan RICS (Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig). Os byddwch yn symud ymlaen i’r cam hwn o’r cynllun, byddwn yn rhannu eich manylion â’r syrfëwr er mwyn iddynt gysylltu â chi.
  • Cydgysylltu â Landlord Cymdeithasol Cofrestredig (LCC) neu Awdurdod Lleol (ALl) sy'n cymryd rhan i fwrw ymlaen â phrynu eich eiddo. Os byddwch yn symud ymlaen i’r cam hwn o’r cynllun, byddwn yn rhannu eich manylion gyda’r LCC neu’r ALl perthnasol at ddibenion gysylltu gyda chi a bwrw ymlaen gyda’r trafodiad eiddo.
  • Cydgysylltu â thrawsgludydd cyfreithiol i gwblhau'r pryniant. Os byddwch yn cyrraedd y cam hwn o’r cynllun, byddwn yn rhannu eich manylion gyda’r trawsgludydd priodol er mwyn iddynt allu cyflawni eu rhwymedigaethau cyfreithiol yn ymwneud â’r trafodiad eiddo.
  • Rhannu symiau cyfyngedig o'ch data personol, megis cyfeiriad eich eiddo, gyda Llywodraeth Cymru at ddibenion ystadegol sy'n ymwneud â monitro'r cynllun.

Os byddwch yn rhoi gwybodaeth ychwanegol i ni yn ymwneud â gofynion am gymorth ychwanegol neu addasiadau, byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i ychwanegu nodiadau at eich cofnodion am unrhyw gymorth neu addasiadau sydd eu hangen arnoch (er enghraifft defnyddio print bras pan fyddwn yn cyfathrebu â chi) i sicrhau ei fod yn haws i chi ryngweithio â ni. Os byddwch yn rhoi gwybodaeth ychwanegol i ni am eich amgylchiadau personol, byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i ychwanegu nodiadau at eich cofnodion am eich amgylchiadau personol i’n helpu i reoli eich sefyllfa unigol yn well.

Os byddwch yn rhoi unrhyw ddata categori arbennig i ni mewn perthynas â chais rydych wedi'i wneud, byddwn ddim ond yn prosesu hyn yn unig at ddibenion darparu cymorth ychwanegol ac addasiadau i ymgeiswyr sydd eu hangen, ac ar gyfer darparu mesurau diogelu ar gyfer ymgeiswyr agored i niwed. Ni fyddwn yn rhannu unrhyw ddata categori arbennig a roddwch i ni gyda phartïon eraill.

Ble bydd fy nata yn cael ei brosesu?

Bydd eich data personol yn cael ei brosesu o fewn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (“AEE”). Byddwn yn cymryd rhagofalon (yn unol â chanllawiau perthnasol gan gyrff rheoleiddio) i sicrhau y bydd unrhyw drosglwyddiad o’ch data y tu allan i’r DU yn destun mesurau diogelu sy’n diogelu eich hawliau preifatrwydd, a bydd eich data’n cael ei gadw’n ddiogel bob amser.

Beth yw'r sail gyfreithiol dros ddefnyddio fy nata?

O dan gyfraith diogelu data, rhaid i ni gael sail gyfreithiol ddilys ar gyfer casglu a defnyddio eich data personol. Pan fyddwch yn gwneud cais i’r cynllun, gall y seiliau cyfreithiol canlynol fod yn berthnasol:

  • Pan fo gennym fuddiant cyfreithlon mewn prosesu eich cais at ddibenion asesu eich cymhwysedd ar gyfer y cynllun. Caniateir i ni ddefnyddio eich data personol lle mae’n angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon, ar yr amod nad yw ein buddiannau ni yn cael eu diystyru gan eich buddiannau chi. Mae hefyd er eich budd cyfreithlon i ddeall eich cymhwysedd ar gyfer y cynllun .
  • Rydym yn ddarostyngedig i rwymedigaethau cyfreithiol a gofynion rheoleiddio amrywiol pryd bynnag y byddwn yn ystyried ceisiadau i’r cynllun. Caniateir i ni ddefnyddio eich data personol lle bo angen er mwyn i ni gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol.
  • Os bydd unrhyw wybodaeth a roddwch i ni yn cynnwys data personol categori arbennig, caniateir i ni brosesu’r data o dan yr amgylchiadau hyn:
    • o pan fo hyn er budd sylweddol y cyhoedd i wneud hynny (er enghraifft, os byddwch yn datgelu cyflyrau iechyd i ni, byddwn yn defnyddio’r wybodaeth honno i ddarparu cymorth neu addasiadau ychwanegol i chi).
    • pan fo hyn ar gyfer sefydlu, ymarfer, neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol.

Am ba mor hir fyddwch chi'n cadw fy nata pan fyddaf yn gwneud cais i’r Cynllun?

Os ydych yn gwneud cais i'r Cynllun, byddwn yn cadw eich data personol sy’n gysylltiedig â’r cynllun am 2.5 mlynedd ar ôl cwblhau eich cais i'r Cynllun.

Mae’n bosibl y byddwn yn cadw’ch data am gyfnod hwy pan fo’n angenrheidiol i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol, i arfer hawliau cyfreithiol, i gydymffurfio â Thelerau ac Amodau’r Cynllun neu i amddiffyn hawliadau cyfreithiol.

Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn darparu fy nata i'r Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid?

Er mwyn i ni allu ystyried eich cais, mae’n rhaid i chi ddarparu gwybodaeth amdanoch chi, ac unrhyw un sy'n gysylltiedig â'ch cais. Os na fyddwch yn darparu’r holl fanylion y gofynnwn amdanynt yn y ffurflen gais, ni fyddwn yn gallu asesu’ch cais a gallai olygu na fyddwch yn gallu cael mynediad i’r Cynllun.

2. Defnyddio eich data personol i ymateb i'ch ymholiad

Pam fod angen i’r Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid ddefnyddio fy nata personol?

Os byddwch yn cysylltu â ni am ragor o wybodaeth, neu os byddwch yn gwneud ymholiad cyffredinol, bydd angen i ni brosesu eich data personol er mwyn ymateb i chi.

Pa ddata fydd yn cael ei gasglu a'i brosesu mewn cysylltiad ag ymholiad i'r Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid?

Byddwn yn casglu eich enw, manylion cyswllt a gwybodaeth yn ymwneud â'ch ymholiad.

Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch data?

Byddwn yn defnyddio'r data i ymateb i'ch ymholiad.

Beth yw'r sail gyfreithiol dros ddefnyddio fy nata?

O dan gyfraith diogelu data, rhaid i ni gael sail gyfreithiol ddilys ar gyfer casglu a defnyddio eich data personol. Pan fyddwch yn gwneud ymholiad am y cynllun, gall y seiliau cyfreithiol canlynol fod yn berthnasol:

  • Caniateir i ni ddefnyddio eich data personol lle mae’n angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon, ar yr amod nad yw ein buddiannau ni yn cael eu diystyru gan eich buddiannau chi. Pan fo hynny er ein budd cyfreithlon i allu darparu gwasanaeth o safon uchel i ymgeiswyr a’r cyhoedd yn gyffredinol, ac y mae rhan o hynny’n ymwneud ag ateb ymholiadau.
  • Os bydd unrhyw ddata a roddwch i ni fel rhan o’ch ymholiad yn cynnwys data personol categori arbennig, caniateir i ni brosesu’r data hwn o dan yr amgylchiadau hyn:
    • pan fo hyn er budd sylweddol y cyhoedd i wneud hynny (er enghraifft, os byddwch yn datgelu cyflyrau iechyd i ni, byddwn yn defnyddio hwn fel y gallwn ddarparu cymorth neu addasiadau ychwanegol i chi).
    • pan fo hynny ar gyfer sefydlu, ymarfer, neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol.

Am ba mor hir fyddwch chi’n cadw fy nata pan fyddaf yn gwneud ymholiad?

Byddwn yn cadw eich data am yr amser y mae'n ei gymryd i ddelio â'ch ymholiad.

Fel arfer byddwn yn dileu eich data ar ôl 12 mis ar ôl i'ch ymholiad ddod i ben . Mae’n bosibl y byddwn yn cadw’ch data am gyfnod hwy pan fo’n angenrheidiol i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol, i arfer hawliau cyfreithiol, i gydymffurfio â Thelerau ac Amodau’r benthyciad neu i amddiffyn hawliadau cyfreithiol.