Benthyciad Llwybr Cyflym O £40,000 Yn Helpu Fferm Fêl Arobryn I Flodeuo

Charlotte-Price
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Twf
Marchnata
Cynaliadwyedd
Gwenyn Gruffydd

Mae benthyciad llwybr cyflym o £40,000 gan Fanc Datblygu Cymru yn helpu Gwenyn Gruffydd i ehangu cynhyrchiant gyda chyfleuster gweithredu pwrpasol newydd a fydd yn darparu lle storio a lle gweithio ychwanegol.

Gyda ffermydd mêl ledled Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro ac Aberteifi, sefydlwyd Gwenyn Gruffydd am y tro cyntaf yn 2010 gan Gruffydd Williams-Rees ar ôl iddo gael cwch gwenyn fel anrheg gan ffermwr lleol. Cofrestrodd ar gwrs cadw gwenyn yn Sir Gaerfyrddin y flwyddyn honno ac ers hynny mae'r cwch gwenyn sydd yng nghefn gardd ei rieni wedi cynyddu i dros 400 o nythfeydd a chytrefi sy'n cynhyrchu mêl.

Bellach mae Gruffydd yn cyflogi tîm o bedwar sy’n cynhyrchu amrywiaeth o fêl Cymreig, hamperi, anrhegion, a chanhwyllau cŵyr gwenyn. Maent hefyd yn gwerthu compost di-fawn a hadau blodau gwyllt cyfeillgar i wenyn. Enillodd y mêl Cymreig amrwd 100% pur, sy’n cael ei  hidlo cyn lleied â phosibl, ddwy seren yng Ngwobrau Gwir Flas yn 2017 a 2018 yna un seren yn 2020, 2021, 2022 a 2023. Mae Gwenyn Gruffydd hefyd yn cynnig hyfforddiant a chyflenwadau ar gyfer cadw gwenyn yn ogystal â gwerthu’r gwenyn mêl.

Meddai Gruffydd: “Fe wnaethon ni gais am fenthyciad llwybr cyflym trwy gyfrwng y Banc Datblygu i’n helpu ni i gadw i fyny â thwf y busnes. Mae wedi bod yn broses gyflym a syml iawn sy'n wych oherwydd nid oedd gennym yr amser na'r adnoddau i dreulio wythnosau ar waith papur cymhleth. Gallwn nawr ddefnyddio’r benthyciad i ddatblygu cyfleuster storio a chynhyrchu pwrpasol newydd a fydd yn rhoi’r gofod sydd ei angen arnom i gynyddu cynhyrchiant ac ateb y galw am ein cynnyrch arobryn.”

Mae Charlotte Price yn Swyddog Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru. Meddai: “Mae’r wenynen yn symbol o gymuned, gwaith caled a chynhyrchiant. Dyna yn sicr ethos Gruffydd a’i wraig Angharad sydd wedi gweithio’n ddiflino i adeiladu Gwenyn Gruffydd fel brand o fri rhyngwladol. Cenhadaeth y ddau yw gwerthu mwy o fêl tarddiad sengl o ansawdd uchel, gwrthdroi dirywiad gwenyn mêl a hyrwyddo manteision hau hadau blodau gwyllt. Dymunwn bob llwyddiant iddynt wrth i’r busnes barhau i flodeuo.”

Mae benthyciadau llwybr cyflym gan Fanc Datblygu Cymru ar gael i fusnesau sydd wedi bod yn masnachu ers dwy flynedd neu fwy ac mae yna lai o waith papur ynghlwm i rhain a cheir penderfyniadau yn gynt, gyda rhai penderfyniadau’n cael eu gwneud o fewn 48 awr. Daeth y benthyciad ar gyfer Gwenyn Gruffydd o Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru. Ariennir y gronfa £500 miliwn hon gan Lywodraeth Cymru ac mae’n cynnig benthyciadau, cyllid mesanîn a buddsoddiadau ecwiti rhwng £25,000 a £10 miliwn i fusnesau Cymru am gyfnod o hyd at 15 mlynedd.