Podiau Cosy Cinema newydd yn agor yng nghanol dinas Casnewydd diolch i gefnogaeth Banc Datblygu Cymru

Kelly-Jones
Swyddog Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cynllunio busnes a strategaeth
Twf
Cosy Cinema

Bellach gall ymwelwyr â Chasnewydd fwynhau eu profiad sinema fach breifat eu hunain, diolch i fusnes podiau moethus newydd sydd wedi agor yng nghanol dinas Casnewydd.

Dechreuwyd Cosy Cinema gan gyn-chwaraewr i Glwb Rygbi Casnewydd John Colderley a’i wraig Sian pan agoron nhw pod sinema yn eu cartref yn Ninas Powys yn 2020. Aethant ymlaen i agor safle aml-bodiau mewn maes carafanau ym Mhontcanna, Caerdydd yn 2022. Y lleoliad newydd yng Nghasnewydd yw’r trydydd lleoliad.

Mae eu lleoliadau yn cynnig mynediad i gwsmeriaid i bodiau moethus ar ffurf glampio gyda sgriniau mawr, gan ganiatáu iddynt wylio rhaglenni’n cael eu ffrydio neu chwarae gemau fideo mewn lleoliad chwaethus, cyfforddus a phreifat. Bydd Cosy Cinema Casnewydd yn darparu 15 pod mewn uned wag yn Nhŵr y Siartwyr, gan gynnig sesiynau gwylio yn ystod y dydd neu cyfle i aros ynddyn nhw dros nos.

Agorwyd y lleoliad newydd gyda chefnogaeth benthyciad chwe ffigwr gan Fanc Datblygu Cymru, yn dilyn dau fenthyciad micro cynharach. Cefnogwyd gwaith ar y lleoliad yng Nghasnewydd hefyd gan grant gan Gyngor Dinas Casnewydd.

Mae John a Sian yn bwriadu agor lleoliadau tebyg mewn mannau eraill yn y DU, gan gynnwys rhai yn Coventry ac Abertawe, yn y flwyddyn i ddod.

Dywedodd John Colderley, perchennog Cosy Cinema: “Mae gweld y busnes yn mynd o un pod yn ein gardd gefn ein hunain i bodiau lluosog dros sawl lleoliad wedi bod yn daith ryfeddol, ac rydym yn hynod ddiolchgar i Fanc Datblygu Cymru am ein cefnogi ni nid yn unig gyda’r safle newydd hwn yng Nghasnewydd, ond dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

“Mae ein lleoliadau presennol wedi bod yn boblogaidd iawn ar gyfryngau cymdeithasol, gyda chwsmeriaid yn awyddus i brofi cysur cŵl ac awyrgylch y podiau drostynt eu hunain o achos y ffilm a’r lluniau y maen’ nhw wedi’u gweld yn cael eu postio ar-lein. Mae’r enw da hwnnw i gyd wedi digwydd oherwydd y math o brofiad y gallwn ei gynnig, ac rydym yn falch iawn ein bod ni bellach yn gallu ymestyn y cynnig hwnnw i ymwelwyr â Chasnewydd.”

Dywedodd Kelly Jones, Swyddog Portffolio gyda Banc Datblygu Cymru, “Roedd yn bleser pur gweithio gyda John a Sian a chefnogi eu cynlluniau ar gyfer Cosy Cinema. Mae'r hyn y maent yn ei ddarparu yn weithgaredd hamdden unigryw, ac mae'r math o brofiad y maent yn ei gynnig yn bwysig iawn yng nghanol dinasoedd fel Casnewydd, lle mae defnyddwyr yn chwilio fwy am mwy am bethau newydd a chyffrous i'w gwneud, a busnesau am ddenu mwy o bobl i’r stryd fawr.

“Rydym yn falch bod ein cefnogaeth nid yn unig wedi eu helpu i wireddu eu hehangiad, ond hefyd wedi dod â bywyd newydd i safle amlwg yng nghanol y ddinas. Dymunwn bob lwc i John a Sian wrth iddynt barhau â’u cynlluniau ar gyfer y busnes.”

Dywedodd y Cynghorydd Dimitri Batrouni, arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: “Mae’n wych gweld Cosy Cinema yn agor ei ddrysau i drigolion ac ymwelwyr â’r ddinas sy’n gallu mwynhau profiad ffres a gwahanol.

“Roeddem yn falch o allu cefnogi’r ychwanegiad arloesol hwn at arlwy hamdden ac adloniant y ddinas, ac unwaith eto mae’n dangos ein hymrwymiad i adfywio canol y ddinas.

“Rhaid i ganol ein dinas esblygu i gwrdd â chyfleoedd a heriau parhaus bywyd modern. Mae Cosy Cinema yn ychwanegu elfen newydd i’w chroesawu at ein cymysgedd o fasnachwyr annibynnol rhagorol, siopau, lleoliadau cerddoriaeth a lletygarwch a chartrefi.”