Buddsoddiad o £75,000 yn rhoi Merthyr Sole Mates ar waith

Aled-Robertson
Swyddog Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cynllunio busnes a strategaeth
Ariannu
Marchnata
Dechrau busnes
Sole Mate

Mae Paul Thomas, sy’n frwd dros redeg, yn paratoi ar gyfer ail flwyddyn lwyddiannus mewn busnes gyda chymorth dau micro fenthyciad ar wahân gan Fanc Datblygu Cymru.

Wedi'i leoli ar stryd fawr Pontmorlais ym Merthyr Tudful, mae Sole Mate, sydd wedi ennill gwobrau, yn siop redeg annibynnol arbenigol a sefydlwyd ym mis Mawrth 2023. Roedd benthyciad cychwynnol o £50,000 gan y Banc Datblygu wedi helpu i ariannu'r gwaith o osod a phrynu stoc cychwynnol. Mae ail fuddsoddiad o £25,000 bellach yn cael ei ddefnyddio i ehangu'r arwynebedd llawr gydag ystod ehangach o stoc, gan gynnwys Adidas.

Enwyd Sole Mate fel yr adwerthwr chwaraeon annibynnol buddugol yng Ngwobrau Manwerthu Annibynnol Cymru 2024. Dywedodd y Cyfarwyddwr Paul Thomas: “Bûm yn gweithio ym maes TG am 20 mlynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw roedd rhedeg a bod yn egnïol yn achubwr i fy iechyd meddwl. Rwyf nawr am helpu cymaint o bobl â phosibl i gael yr un manteision drwy gael gwared ar rwystrau i redeg. Dyna pam nad ydym yn gwerthu esgidiau ymarfer a dillad yn unig, rydym yn rhoi cyngor ar bob agwedd ar hyfforddiant a cit. Rydym hefyd yn rhedeg ein clwb rhedeg cymdeithasol ein hunain ac mae gennym Gwmni Buddiannau Cymunedol sy'n codi arian i helpu pobl ar eu taith redeg gyda hyfforddiant a therapi pan fo angen.

“Ond ni fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth Banc Datblygu Cymru a Chanolfan Fenter Merthyr Tudful. Nid yw dechrau eich busnes eich hun yn hawdd ond maen nhw wir wedi gwneud pob ymdrech i wneud yn siŵr ein bod ni wedi cael hwb o ddifri i roi pethau ar waith ac wedi rhoi’r  dechreuad gorau posibl i ni. Ni allaf ddiolch digon iddyn nhw.”

Mae Aled Robertson yn Swyddog Portffolio gyda'r Banc Datblygu. Meddai: “Mae Paul wedi troi ei gariad at redeg yn fusnes llwyddiannus sy’n cefnogi pobl o bob oed i fwynhau ffordd hapusach ac iachach o fyw. Mae’n wych gweld yr effaith gadarnhaol y mae’n ei chael yn y gymuned leol.”

Ariennir Cronfa Micro Fenthyciadau Cymru gwerth £32.5 miliwn yn gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru. Mae benthyciadau rhwng £1,000 a £50,000 ar gael i fusnesau bach, masnachwyr unigol a mentrau cymdeithasol yng Nghymru gyda thelerau ad-dalu yn amrywio rhwng un a 10 mlynedd.