Camtronics yn dechrau ar strategaeth twf wrth i Fanc Datblygu Cymru ymadael yn dilyn allbryniant rheolwyr

Leanna-Davies
Rheolwr Datblygu Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Prynu busnes
Cyllid ecwiti
Cyllid a chyfrifo
Marchnata
Camtronics

Mae Banc Datblygu Cymru wedi gadael Camtronics, chwe blynedd ar ôl ariannu allbryniant rheolwyr o’r busnes electroneg contract yn Nhredegar.

Galluogodd buddsoddiad ecwiti o £450,000 gan Cronfa Olyniaeth Rheoli Cymru Banc Datblygu y Rheolwr Gyfarwyddwr Paul Macleur i arwain yr allbryniant rheolwyr gan Photonstar LED Group plc ochr yn ochr â chydweithwyr Chris Gulliford a Linda Sterry ym mis Ionawr 2018. Ers hynny mae trosiant wedi dyblu i £4 miliwn. Mae'r busnes wedi cael cefnogaeth strategol Mark Pulman fel Cyfarwyddwr Anweithredol. Cafodd ei gyflwyno i Camtronics gan y Banc Datblygu ac mae'n parhau gyda'r busnes.

Wedi'i leoli ym Mharc Busnes Tredegar, mae Camtronics yn cynnig ystod lawn o wasanaethau gweithgynhyrchu electroneg ac mae bellach yn cyflogi 38. Mae gwasanaethau'n cynnwys cydosod mowntio arwyneb (a adwaenir fel SMT), archwiliad optegol awtomatig (a adwaenir fel AOI), cydosod twll trwodd, adeiladu blychau, rhaglennu a phrofi. Sefydlwyd y cwmni gyntaf yn 1993 fel Novaspec, cyn cael ei brynu gan PhotonStar yn 2011.

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr Paul Macleur: "Wrth i ni ddechrau ar gam nesaf ein twf, roedd yr amser yn iawn i fyfyrio ar sut mae cefnogaeth y Banc Datblygu wedi ein galluogi i adeiladu sylfaen gref ar gyfer y dyfodol. Rydym wedi mwynhau budd cael perthynas waith ardderchog gyda’r tîm sydd wedi sefyll gyda ni drwy’r amser, gan gynnig arweiniad a chymorth sylweddol yn ychwanegol at gyllid Ynghyd â Mark, maent wedi helpu gyda’n cynllunio strategol a chreu gwerth hirdymor sy’n golygu ein bod bellach mewn a sefyllfa i’w hallbrynu nhw. Fel unig berchnogion y busnes, rydym bellach mewn sefyllfa dda i symud ymlaen a pharhau i dyfu ein gwasanaethau sy’n arwain y diwydiant.”

Mae Leanna Davies yn Rheolwr Datblygu Portffolio gyda'r Banc Datblygu. Meddai: “Gyda chefnogaeth Mark, mae Paul a’r tîm wedi gweithio’n galed i greu gwerth gwirioneddol trwy arallgyfeirio a thyfu Camtronics fel gwneuthurwr electroneg blaenllaw. Mae’n enghraifft wych o sut y gellir defnyddio ein harian i sicrhau twf cynaliadwy hirdymor gyda’n helw bellach yn cael ei ailgylchu er budd cwsmeriaid newydd.”